bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Acts 10
Acts 10
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 11 →
1
Ac yr oedd rhyw ŵr yn Cesarea a’i enw Cornelius, canwriad o’r fyddin a elwid yr Italaidd, gŵr defosiynol,
2
ac yn ofni Duw, ynghyda’i holl dŷ, yn gwneuthur elusenau lawer i’r bobl, ac yn gweddïo Duw yn wastadol.
3
A gwelodd mewn gweledigaeth, yn eglur, ynghylch y nawfed awr o’r dydd, angel Duw yn dyfod i mewn atto, ac yn dywedyd wrtho, Cornelius.
4
Ac efe, wedi craffu arno a myned yn ofnus, a ddywedodd, Pa beth sydd, Arglwydd? A dywedodd yntau wrtho, Dy weddïau a’th elusenau a ddaethant i fynu yn goffadwriaeth ger bron Duw.
5
Ac yn awr danfon wŷr i Ioppa, a gyr am un Shimon, yr hwn a gyfenwir Petr;
6
efe a lettya gydag un Shimon, barcer, yr hwn sydd a’i dŷ wrth y môr.
7
A phan ymadawodd yr angel a lefarai wrtho, wedi galw dau o’r gweinidogion, a milwr defosiynol o’r rhai oedd yn aros gydag ef,
8
ac wedi mynegi iddynt bob peth, danfonodd hwynt i Ioppa.
9
A thrannoeth pan ymdeithient hwy, ac yn neshau at y ddinas, esgynodd Petr i ben y tŷ i weddïo, ynghylch y chweched awr,
10
a daeth arno chwant bwyd, ac ewyllysiai fwytta;
11
a thra y parottoent hwy, daeth arno lewyg; a gwelai y nef yn agoryd, a disgyn o ryw lestr, fel llen-lliain fawr, yn cael wrth bedair congl ei ollwng i lawr ar y ddaear,
12
yn yr hwn yr oedd holl bedwar-carnolion ac ymlusgiaid y ddaear, ac ehediaid y nef.
13
A daeth llef atto, Cyfod, Petr, lladd a bwytta.
14
A Petr a ddywedodd, Nid er dim, Arglwydd, canys ni fwytteais erioed ddim cyffredin ac aflan.
15
A llef a fu etto yr ail waith wrtho, Y pethau y bu i Dduw eu glanhau, na wna di yn gyffredin.
16
A hyn a wnaed dair gwaith; ac yn uniawn y cymmerwyd i fynu y llestr i’r nef.
17
A phan ynddo ei hun yr ammheuai Petr pa beth ysgatfydd oedd y weledigaeth a welsai, wele, y gwŷr a ddanfonasid gan Cornelius, wedi ymofyn am dŷ Shimon,
18
a safasant wrth y drws; ac wedi galw o honynt, gofynent a oedd Shimon, yr hwn a gyfenwid Petr, yn lletrya yno.
19
A Petr yn meddwl am y weledigaeth, wrtho y dywedodd yr Yspryd, Wele, tri wŷr a’th geisiant:
20
eithr cyfod, disgyn, a dos gyda hwynt heb ammeu dim, canys Myfi a ddanfonais hwynt.
21
Ac wedi disgyn o Petr at y gwŷr, dywedodd, Wele, myfi yw’r hwn a geisiwch: pa beth yw’r achos am yr hwn yr ydych yma?
22
A hwy a ddywedasant, Cornelius y canwriad, gŵr cyfiawn, ac yn ofni Duw, ac a thystiolaeth iddo gan holl genedl yr Iwddewon, a rybuddiwyd gan angel sanctaidd i ddanfon am danat i’w dŷ, ac i glywed ymadroddion genyt.
23
Wedi galw hwynt, gan hyny, i mewn, llettyodd hwynt. A thrannoeth, wedi cyfodi o hono, aeth allan ynghyda hwynt; a rhai o’r brodyr o Ioppa a aethant gydag ef.
24
A thrannoeth y daethant i mewn i Cesarea; a Cornelius oedd yn disgwyl am danynt, wedi galw ynghyd ei geraint a’i gyfeillion cyfrinachol.
25
A bu wrth ddyfod i mewn o Petr, Cornelius, wedi cyfarfod ag ef a syrthio wrth ei draed, a’i haddolodd ef.
26
Ond Petr a’i cyfododd ef i fynu, gan ddywedyd, Cyfod; minnau hefyd fy hun, dyn wyf.
27
A chan ymddiddan ag ef, yr aeth i mewn, a chanfu lawer wedi dyfod ynghyd,
28
a dywedodd wrthynt, Chwi a wyddoch mai anghyfreithlawn yw i ŵr o Iwddew ymgyssylltu neu ddyfod at alltud: ac i mi Duw a ddangosodd na alwn neb rhyw ddyn yn gyffredin neu yn aflan:
29
o ba herwydd hefyd, heb ddim gwrthddywedyd, y daethum pan ddanfonwyd am danaf.
30
A Cornelius a ddywedodd, Er ys pedwar diwrnod, hyd yr awr hon, yr oeddwn yn cadw gweddi y nawfed awr yn fy nhŷ, ac wele, gŵr a safodd ger fy mron, mewn gwisg ddisglaer,
31
a dywedodd, Cornelius, gwrandawyd dy weddi, a’th elusenau sydd mewn coffadwriaeth ger bron Duw.
32
Danfon, gan hyny, i Ioppa, a galw am Shimon, yr hwn a gyfenwir Petr; efe a lettya yn nhŷ Shimon, barcer, yn ymyl y môr.
33
Yr awr honno, gan hyny, y danfonais attat; a thydi, da y gwnaethost wrth ddyfod. Yn awr, gan hyny, nyni oll ydym bresennol ger bron Duw, i glywed yr holl bethau a orchymynwyd i ti gan yr Arglwydd.
34
Ac wedi agoryd ei enau, Petr a ddywedodd, Mewn gwirionedd y canfyddaf nad ydyw Duw dderbyniwr gwyneb;
35
eithr ym mhob cenedl yr hwn sydd yn Ei ofni Ef, ac yn gweithredu cyfiawnder, cymmeradwy Ganddo Ef ydyw.
36
Y Gair, yr hwn a ddanfonodd Efe at feibion Israel, gan efengylu heddwch trwy Iesu Grist (Efe yw Arglwydd pawb),
37
chwi a wyddoch y Gair a fu trwy holl Iwdea, wedi dechreu o Hono o Galilea wedi y bedydd a bregethodd Ioan,
38
Iesu o Natsareth, y modd yr enneiniodd Duw Ef â’r Yspryd Glân ac â gallu, yr Hwn a dramwyodd gan wneuthur daioni ac iachau yr holl rai a orthrymmid gan ddiafol, canys Duw oedd gydag Ef.
39
Ac nyni ydym dystion o’r holl bethau a wnaeth Efe yngwlad yr Iwddewon ac yn Ierwshalem; yr Hwn hefyd a laddasant, gan Ei grogi ar bren.
40
Hwn, Duw a’i cyfododd y trydydd dydd,
41
ac a’i rhoddes i fod yn amlwg, nid i’r holl bobl, eithr i dystion a rag-ordeiniwyd gan Dduw, sef i ni, y rhai a gydfwyttasom ac a gydyfasom ag Ef wedi adgyfodi o Hono o feirw:
42
a gorchymynodd i ni bregethu i’r bobl, a thystiolaethu mai Hwn yw’r Hwn a ordeiniwyd gan Dduw yn Farnwr byw a meirw.
43
I Hwn y mae’r holl brophwydi yn tystiolaethu fod maddeuant pechodau i’w gael trwy Ei enw Ef gan bob un sy’n credu Ynddo.
44
A thra y llefarai Petr yr ymadroddion hyn, syrthiodd yr Yspryd Glân ar bawb a oedd yn clywed y Gair;
45
a synnodd y rhai o’r amdorriad a oeddynt yn credu, cynnifer ag a ddaethent gyda Petr, gan ddywedyd, Ar y cenhedloedd hefyd y mae rhodd yr Yspryd Glân wedi ei thywallt allan;
46
canys clywent hwynt yn llefaru â thafodau ac yn mawrygu Duw.
47
Yna yr attebodd Petr, Ai lluddias dwfr a all neb fel na fedyddier y rhai hyn, y rhai a gawsant yr Yspryd Glân fel ninnau?
48
A gorchymynodd eu bedyddio yn enw Iesu Grist. Yna y gofynasant iddo aros am ennyd o ddyddiau.
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 11 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28