bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Matthew 1
Matthew 1
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 2 →
1
Rhestr achau Iesu Grist fab Dafydd fab Abraham:
2
I Abraham y ganed Isaac; i Isaac y ganed Iacob; i Iacob y ganed Iwdas a’i frodyr;
3
i Iwdas y ganed Phares a Sara o Thamar; i Phares y ganed Esrom; i Esrom y ganed Aram;
4
i Aram y ganed Aminadab; i Aminadab y ganed Naasson; i Naasson y ganed Salmon;
5
i Salmon y ganed Böes o Rachab; i Böes y ganed Iobed o Rwth; i Iobed y ganed Iessai;
6
i Iessai y ganed Dafydd frenin. Ac i Ddafydd y ganed Solomon o wraig Wrïas;
7
i Solomon y ganed Roboam; i Roboam y ganed Abia;
8
i Abia y ganed Asaff; i Asaff y ganed Iosaffat; i Iosaffat y ganed Ioram;
9
i Ioram y ganed Osïas; i Osïas y ganed Ioatham; i Ioatham y ganed Achas; i Achas y ganed Esecïas;
10
i Esecïas y ganed Manasses; i Manasses y ganed Amos; i Amos y ganed Iosïas;
11
i Iosïas y ganed Iechonïas a’i frodyr yn amser y gaethglud i Fabilon.
12
Ac wedi’r gaethglud i Fabilon, i Iechonïas y ganed Salathiel;
13
i Salathiel y ganed Sorobabel; i Sorobabel y ganed Abiwd; i Abiwd y ganed Eliacîm; i Eliacîm y ganed Asor;
14
i Asor y ganed Sadoc; i Sadoc y ganed Achîm; i Achîm y ganed Eliwd;
15
i Eliwd y ganed Eleasar; i Eleasar y ganed Mathan; Mathan y ganed Iacob;
16
i Iacob y ganed Ioseff gŵr Mair, y ganed ohoni Iesu a elwir Crist.
17
Yr holl genedlaethau, felly, o Abraham hyd Ddafydd sydd bedair cenhedlaeth ar ddeg, ac o Ddafydd hyd y gaethglud i Fabilon pedair cenhedlaeth ar ddeg, ac o’r gaethglud i Fabilon hyd y Crist pedair cenhedlaeth ar ddeg.
18
Genedigaeth Iesu Grist, fel hyn y bu: dyweddïwyd ei fam ef, Mair, i Ioseff, ond cyn iddynt ddyfod ynghyd cafwyd hi’n feichiog o’r Ysbryd Glân.
19
A chan fod Ioseff, ei gŵr hi, yn gyfiawn, ac eto heb chwennych gwneud esiampl ohoni, fe benderfynodd ei hysgar yn ddirgel.
20
Ac wedi i hyn ddod i’w feddwl, dyna angel yr Arglwydd mewn breuddwyd yn ymddangos iddo gan ddywedyd, “Ioseff, fab Dafydd, nac ofna gymryd atat Fair dy wraig; canys yr hyn a, genhedlwyd ynddi, o’r Ysbryd Glân y mae.
21
A hi esgor ar fab, a gelwi ei enw ef Iesu; canys ef a wared ei bobl oddi wrth eu pechodau.”
22
Hyn oll a fu fel y cyflawnid yr hyn a lefarwyd gan yr Arglwydd drwy’r proffwyd,
23
Wele, y forwyn a fydd feichiog ac a esgor ar fab, A galwant ei enw ef Emmanwel,hynny yw o’i gyfieithu, Duw gyda ni.
24
A phan ddeffroes Ioseff o’i gwsg, fe wnaeth fel y gorchmynasai angel yr Arglwydd iddo, a chymerth ei wraig ato;
25
eto nid adnabu ef hi hyd onid esgorodd ar fab; a galwodd ei enw ef Iesu.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28