bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Matthew 8
Matthew 8
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 9 →
1
Wedi iddo ddyfod i lawr o’r mynydd canlynodd tyrfaoedd lawer ef.
2
A dyma wahanglwyfus yn dyfod ato, ac yn ymgrymu iddo gan ddywedyd, “Arglwydd, os mynni, ti elli fy nglanhau.”
3
Ac estynnodd ei law, a chyffyrddodd ag ef, gan ddywedyd, “Mynnaf, glanhaer di.” Ac yn y fan glanhawyd ei wahanglwyf.
4
Ac medd yr Iesu wrtho, “Gwylia na ddywedi wrth neb; eithr dos, dangos dy hun i’r offeiriad, a dwg yr offrwm a orchmynnodd Moses, er tystiolaeth iddynt.”
5
Ac wedi iddo fynd i mewn i Gapernaum daeth ato ganwriad gan erfyn arno,
6
a dywedyd, “Syr, y mae fy ngwas yn gorwedd yn tŷ yn barlysedig, mewn poenau ofnadwy.”
7
Medd ef wrtho, “Mi ddof i i’w iacháu ef.”
8
Atebodd y canwriad, “Syr, nid wyf ddigon da i ti ddyfod dan fy nghronglwyd; eithr yn unig dywed y gair, ac fe iacheir fy ngwas.
9
Canys dyn dan awdurdod wyf innau, a chennyf filwyr danaf, a dywedaf wrth hwn, Dos, ac y mae’n mynd, ac wrth arall, Tyred, ac y mae’n dyfod, ac wrth fy ngwas, Gwna hyn, ac y mae’n ei wneuthur.”
10
A phan glywodd yr Iesu fe ryfeddodd, a dywedodd wrth ei ganlynwyr, “Yn wir meddaf i chwi, ni chefais gymaint ffydd gan neb yn Israel.
11
Ac meddaf i chwi, llawer o’r dwyrain a’r gorllewin a ddaw ac eistedd wrth y bwrdd gydag Abraham ac Isaac ac Iacob yn nheyrnas nefoedd;
12
ond meibion y deyrnas a fwrir i’r tywyllwch tu allan; yno y bydd wylofain a rhincian dannedd.”
13
A dywedodd yr Iesu wrth y canwriad, “Dos; megis y credaist bydded i ti.” Ac iachawyd ei was yr awr honno.
14
A daeth yr Iesu i dŷ Pedr, a gwelodd ei chwegr ef yn orweiddiog, ac mewn twymyn;
15
a gafaelodd yn ei llaw, a gadawodd y dwymyn hi; a chododd hithau a mynd i weini arno.
16
Ac wedi iddi hwyrhau, dygasant ato gythreuligion lawer; a bwriodd allan yr ysbrydion â gair, a’r holl gleifion a iachaodd;
17
fel y cyflawnid yr hyn a lefarwyd trwy Eseia’r proffwyd, Ef a gymerth ein gwendidau ni, ac a ddug ymaith ein clefydau.
18
Pan welodd yr Iesu dyrfa o’i amgylch fe orchmynnodd fynd i’r ochr draw.
19
A daeth rhyw ysgrifennydd, a dywedyd wrtho, “Athro, mi a’th ddilynaf pa le bynnag yr elych.”
20
Ac medd yr Iesu wrtho, “Mae gan y llwynogod ffeuau, a chan adar yr awyr nythod, ond gan Fab y dyn nid oes le i roi ei ben i lawr.”
21
Un arall o’i ddisgyblion a ddywedodd wrtho, “Arglwydd, caniatâ i mi yn gyntaf fynd a chladdu fy nhad.”
22
A dywed yr Iesu wrtho, “Dilyn fi, a gad i’r meirw gladdu eu meirw.”
23
Ac aeth i’r llong, a’i ddilyn a wnaeth ei ddisgyblion.
24
A dyna gynnwrf mawr yn codi yn y môr, nes cuddio’r llong gan y tonnau; ond yr oedd ef yn cysgu.
25
Ac aethant ato, a’i ddeffro, gan ddywedyd, “Achub, Arglwydd, mae ar ben arnom.”
26
A dywed wrthynt, “Paham yr ydych mor ofnus, rai bychain eu ffydd?” Yna fe gododd, a cheryddodd y gwyntoedd a’r môr, a bu dawelwch mawr.
27
A rhyfeddodd y dynion, gan ddywedyd, “Pa fath un yw hwn, gan fod hyd yn oed y gwyntoedd a’r môr yn ufuddhau iddo?”
28
Ac wedi ei ddyfod i’r ochr draw i wlad y Gadareniaid, cyfarfu ag ef ddau gythreulig yn dyfod allan o blith y beddau, rhai ffyrnig iawn, fel na allai neb fyned heibio hyd y ffordd honno.
29
A dyna hwy’n gweiddi, ac yn dywedyd “Beth sy rhyngom ni a thi, Fab Duw? A ddaethost ti yma cyn yr amser i’n dirboeni ni?”
30
Ac yn bell oddi wrthynt yr oedd cenfaint o foch lawer yn pori.
31
Ac atolygai’r cythreuliaid iddo gan ddywedyd, “Os wyt am ein bwrw ni allan, anfon ni i’r genfaint foch.”
32
Dywedodd yntau wrthynt, “Ewch.” Daethant hwythau allan a mynd i’r moch, a dyna’r holl genfaint yn rhuthro dros y dibyn i’r môr, ac yn trengi yn y dyfroedd.
33
A ffodd y meichiaid; ac wedi mynd ymaith i’r ddinas, mynegasant bopeth, yn enwedig hanes y cythreuligion.
34
A dyna’r holl ddinas yn mynd allan i gyfarfod â’r Iesu, a phan welsant ef erfyniasant arno ymadael o’u gororau hwynt.
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 9 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28