bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Matthew 11
Matthew 11
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 12 →
1
A phan orffennodd yr Iesu gyfarwyddo’i ddeuddeg disgybl, fe symudodd oddi yno i ddysgu a phregethu yn eu dinasoedd hwynt.
2
Ac Ioan, wedi clywed yn y carchar am weithredoedd y Crist, a ddanfonodd trwy ei ddisgyblion
3
i ddywedyd wrtho, “Ai ti yw’r hwn sy’n dyfod, ai am un arall yr ydym i ddisgwyl?”
4
Ac atebodd yr Iesu iddynt, “Ewch a mynegwch i Ioan y pethau a glywch ac a welwch:
5
y mae deillion yn cael eu golwg, a chloffion yn cerdded, gwahangleifion yn dyfod yn lân, a byddariaid yn clywed a meirw’n cyfodi, ac i dlodion y cyhoeddir newyddion da.
6
A gwyn ei fyd y neb ni rwystrir ynof i.”
7
A chyda’u bod hwy’n myned, dechreuodd yr Iesu ddywedyd wrth y tyrfaoedd am Ioan, “Beth yr aethoch allan i’r diffeithwch i edrych arno? Ai corswellt yn ysgwyd gan wynt?
8
Eithr beth yr aethoch allan i’w weled? Ai dyn â dillad esmwyth amdano? Wele’r rhai sy’n gwisgo dillad esmwyth, yn nhai’r brenhinoedd.
9
Eithr i ba beth yr aethoch allan? Ai i weled proffwyd? Ie, meddaf i chwi, a mwy na phroffwyd.
10
Hwn yw’r un y mae’n ysgrifenedig amdano, Wele’r wyf i yn anfon fy nghennad o’th flaen, a ddarpar dy ffordd rhagot.
11
Yn wir meddaf i chwi, ni chododd ymhlith plant gwragedd un mwy nag Ioan Fedyddiwr; ond y lleiaf yn nheyrnas nefoedd sydd fwy nag ef.
12
Ac o ddyddiau Ioan Fedyddiwr hyd yn awr, teyrnas nefoedd a dreisir, a threiswyr sy’n ei chipio hi.
13
Canys yr holl broffwydi a’r gyfraith, hyd Ioan y proffwydasant;
14
ac os mynnwch ei dderbyn, ef yw yr Elïas a oedd ar ddyfod.
15
Y neb sy ganddo glustiau, gwrandawed.
16
I ba beth y cyffelybaf y genhedlaeth hon? Cyffelyb yw i blantos yn eistedd yn y marchnadleoedd ac yn galw ar y lleill, gan ddywedyd:
17
Canasom i chwi bibau, ac ni ddawnsiasoch, Canasom alarnad, ac ni churasoch ddwyfron.
18
Canys daeth Ioan heb na bwyta nac yfed, ac meddant, ‘Cythraul sy ganddo?’
19
Daeth Mab y dyn yn bwyta ac yn yfed, ac meddant, ‘Dyma ddyn glŵth a llymeitiwr gwin, cyfaill trethwyr a phechaduriaid.’ Eto cyfiawnhawyd doethineb gan ei gweithredoedd.”
20
Yna dechreuodd edliw i’r dinasoedd y gwnaethid ynddynt ei liaws grymusterau, am nad edifarhasent.
21
“Gwae di, Chorasin! Gwae di, Fethsaida! Canys pe yn Nhyrus a Sidon y gwnaethid y grymusterau a wnaethpwyd ynoch chwi, ers talm mewn sachliain a lludw yr edifarhasent.
22
Eithr meddaf i chwi, esmwythach fydd i Dyrus a Sidon yn nydd y farn nag i chwi.
23
A thithau, Capernaum, ai hyd nef y’th ddyrchefir? Na, hyd Annwn y disgynni; canys pe yn Sodom y gwnaethid y grymusterau a wnaethpwyd ynot ti, hi arosasai hyd heddiw.
24
Eithr meddaf i chwi, esmwythach fydd i dir Sodom yn nydd y farn nag i ti.”
25
Yr amser hwnnw y llefarodd yr Iesu ac y dywedodd, “Molaf di, O Dad, Arglwydd nef a daear, am iti guddio’r pethau hyn rhag doethion a gwybodusion, a’u datguddio i blant bach;
26
ie, O Dad, am mai felly y rhyngodd bodd i ti.
27
Popeth a draddodwyd i mi gan fy Nhad, ac nid edwyn neb y Mab ond y Tad, na’r Tad nis edwyn neb ond y Mab, a phwy bynnag yr ewyllysio’r Mab ei ddatguddio iddo.
28
Dowch ataf bawb sy’n lluddedig a llwythog, a rhoddaf i chwi orffwys.
29
Cymerwch fy iau arnoch a dysgwch gennyf, canys addfwyn ydwyf a gostyngedig o galon, a chewch orffwystra i’ch eneidiau:
30
canys fy iau sydd esmwyth a’m baich yn ysgafn.”
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 12 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28