bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Matthew 25
Matthew 25
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 24
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 26 →
1
Yna cyffelybir teyrnas nefoedd i ddeg o forynion, a gymerodd eu lampau a mynd allan i gyfarfod y priodfab.
2
Yr oedd pump ohonynt yn ffôl a phump yn gall.
3
Canys cymerodd y rhai ffôl eu lampau heb gymryd olew gyda hwynt;
4
eithr cymerodd y rhai call olew yn y llestri gyda’u lampau.
5
A phan oedd y priodfab yn oedi, hepiasant oll a syrthio i gysgu.
6
Ac ar ganol nos daeth gwaedd, ‘Dyma’r priodfab, ewch allan i’w gyfarfod.’
7
Yna cododd yr holl forynion hynny, a chyweirio eu lampau.
8
A dywedodd y rhai ffôl wrth y rhai call, ‘Rhowch i ni beth o’ch olew, achos y mae’n lampau ni yn diffodd.’
9
Ond atebodd y rhai call, ‘Efallai na bydd dim digon i ni ac i chwithau; gwell ichwi fynd at y gwerthwyr a phrynu i chwi eich hunain.’
10
A phan oeddent ar eu ffordd i brynu, daeth y priodfab, ac aeth y rhai oedd yn barod i mewn gydag ef i’r neithior, a chaewyd y drws.
11
Wedyn daw’r morynion eraill, a dywedyd, ‘Syr, syr, agor i ni.’
12
Atebodd yntau, ‘Yn wir meddaf i chwi, ni’ch adwaen chwi.’
13
Felly byddwch effro, am na wyddoch y dydd na’r awr.
14
Canys y mae fel dyn yn mynd oddi cartref, a alwodd ei weision a rhoi i’w gofal ei eiddo;
15
ac i un fe roes bum talent, i un arall ddwy, i un arall un, i bob un yn ôl ei allu, ac aeth oddi cartref.
16
Yn y fan aeth yr un a gawsai’r pum talent i farchnata â hwynt, ac enillodd bump eraill;
17
yr un modd yr un a gawsai’r ddwy, enillodd ddwy eraill;
18
ond yr un a gawsai’r un a aeth ymaith i gloddio pwll, a chuddiodd arian ei arglwydd.
19
Ac wedi talm o amser daw arglwydd y gweision hynny a gwneuthur cyfrif gyda hwynt.
20
A daeth ato’r un a gawsai’r pum talent a dwyn pum talent eraill, gan ddywedyd, ‘Arglwydd, pum talent a roddaist i’m gofal; dyma bum talent eraill a enillais.’
21
Meddai ei arglwydd wrtho, ‘Da, was da a ffyddlon! Buost ffyddlon ar ychydig, gosodaf di ar lawer; dos i mewn i lawenydd dy arglwydd.’
22
Daeth ato hefyd yr un a gawsai’r ddwy dalent, a dywedodd, ‘Arglwydd, dwy dalent a roddaist i’m gofal; dyma ddwy dalent eraill a enillais.’
23
Meddai ei arglwydd wrtho, ‘Da, was da a ffyddlon! Buost ffyddlon ar ychydig, gosodaf di ar lawer; dos i mewn i lawenydd dy arglwydd.’
24
A daeth ato hefyd yr un a gawsai’r un dalent, a dywedodd, ‘Arglwydd, deellais dy fod yn ddyn caled, yn medi lle ni heuaist, ac yn casglu o’r lle ni wasgeraist;
25
a daeth ofn arnaf, ac euthum a chuddio dy dalent yn y ddaear. Dyma i ti dy eiddo.’
26
Ond atebodd ei arglwydd iddo, ‘Was drwg a diog, ti wyddit, ai e, fy mod yn medi lle ni heuais, ac yn casglu o’r lle ni wasgerais?
27
Felly ti ddylasit osod fy arian gyda’r arianwyr, a minnau a ddaethwn ac a gawswn fy eiddo yn ôl gyda llog.
28
Felly cymerwch y dalent oddi arno, a rhowch i’r hwn sydd ganddo’r deg talent.
29
Canys i’r neb sydd ganddo y rhoddir, a bydd ar ben ei ddigon; ond y neb nid oes ganddo, hyd yn oed yr hyn sydd ganddo a gymerir oddi arno.
30
Ac am y gwas anfuddiol, bwriwch ef i’r tywyllwch tu allan; yno y bydd wylofain a rhincian dannedd.’
31
Pan ddêl Mab y dyn yn ei ogoniant a’r holl angylion gydag ef, yna yr eistedd ar ei orsedd ogoneddus;
32
a chesglir ger ei fron yr holl genhedloedd, a didola ddynion oddi wrth ei gilydd, fel y bydd bugail yn didoli’r defaid oddi wrth y geifr,
33
a gesyd y defaid ar ei law ddehau, a’r geifr ar yr aswy.
34
Yna y dywed y Brenin wrth y rhai ar ei law ddehau, ‘Deuwch, chwi fendigedigion fy Nhad, etifeddwch y deyrnas sydd wedi ei pharatoi i chwi er seiliad byd.
35
Canys daeth arnaf newyn a rhoesoch imi fwyd, daeth arnaf syched a rhoesoch ddiod imi, dyn dieithr oeddwn a rhoesoch groeso imi,
36
noeth a gwisgasoch fi, clafychais ac ymwelsoch â mi, yr oeddwn yng ngharchar a daethoch ataf.’
37
Yna yr etyb y rhai cyfiawn iddo, ‘Arglwydd, pa bryd y’th welsom yn newynog a’th borthi, neu’n sychedig a rhoi diod iti?
38
A pha bryd y’th welsom yn ddyn dieithr a rhoi croeso iti, neu’n noeth a’th wisgo?
39
A pha bryd y’th welsom yn glaf neu yng ngharchar a dyfod atat?’
40
Ac etyb y Brenin iddynt, ‘Yn wir meddaf i chwi, yn gymaint â’i wneuthur ohonoch i un o’m brodyr lleiaf hyn, i mi y gwnaethoch.’
41
Yna y dywed wrth y rhai ar yr aswy, ‘Ewch oddi wrthyf dan felltith i’r tân tragwyddol a baratowyd i’r diafol a’i angylion.
42
Canys daeth newyn arnaf ac ni roesoch imi fwyd, daeth syched arnaf ac ni roesoch ddiod imi,
43
dyn dieithr oeddwn ac ni roesoch groeso imi, noeth ac ni’m gwisgasoch, claf ac yng ngharchar ac nid ymwelsoch â mi.’
44
Yna yr atebant hwythau, ‘Arglwydd, pa bryd y’th welsom yn newynog neu’n sychedig neu’n ddyn dieithr neu’n noeth neu’n glaf neu yng ngharchar heb weini iti?’
45
Yna yr etyb iddynt, ‘Yn wir meddaf i chwi, yn gymaint ag nas gwnaethoch i un o’r rhai lleiaf hyn, nis gwnaethoch i minnau chwaith.’
46
Ac â’r rhain ymaith i gosbedigaeth dragwyddol, ond y rhai cyfiawn i fywyd tragwyddol.”
← Chapter 24
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 26 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28