bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Matthew 26
Matthew 26
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 25
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 27 →
1
A phan orffennodd yr Iesu yr holl eiriau hyn, dywedodd wrth ei ddisgyblion,
2
“Gwyddoch fod y pasg yn dyfod ymhen deuddydd, a Mab y dyn a draddodir i’w groeshoelio.”
3
Y pryd hynny ymgynullodd yr archoffeiriaid a henuriaid y bobl yng nghyntedd yr archoffeiriad a elwid Caiaffas,
4
ac ymgyngorasant i gael gafael ar yr Iesu trwy ddichell a’i ladd;
5
ond meddent, “Nid ar yr ŵyl, rhag bod cynnwrf ymhlith y bobl.”
6
A phan oedd yr Iesu ym Methania yn nhŷ Simon y gwahanglwyfus,
7
daeth ato wraig a chanddi flwch o ennaint gwerthfawr, ai dywallt ar ei ben pan oedd ef wrth y bwrdd.
8
A phan welodd y disgyblion, digiasant gan ddywedyd, “Paham y golled hon?
9
Canys gallesid gwerthu hyn er llawer, a’i roi i dlodion.”
10
A deallodd yr Iesu, a dywedodd wrthynt, “Paham y perwch flinder i’r wraig? Canys gweithred hardd a wnaeth hi arnaf i;
11
canys y mae gennych y tlodion gyda chwi bob amser, ond myfi, nid wyf i gennych bob amser;
12
canys hon, wrth roi’r ennaint hwn ar fy nghorff, erbyn fy nghladdu y gwnaeth hynny.
13
Yn wir meddaf i chwi, pa le bynnag y pregethir yr efengyl hon yn yr holl fyd, fe adroddir hefyd yr hyn a wnaeth hon er cof amdani.”
14
Yna aeth un o’r deuddeg, a elwid Iwdas Iscariot, at yr archoffeiriaid,
15
a dywedodd, “Beth a rowch i mi, am i mi ei draddodi ef i chwi?” Pwysasant hwythau iddo ddeg ar hugain o ddarnau arian.
16
Ac o’r pryd hwnnw ceisiai gyfle i’w fradychu ef.
17
Ar ddydd cyntaf gŵyl y bara croyw daeth y disgyblion at yr Iesu, a dywedyd, “Pa le y mynni i ni baratoi i ti fwyta’r pasg?”
18
Dywedodd yntau, “Ewch i’r ddinas at hwn a hwn, a dywedwch wrtho, ‘Mae’r Athro’n dywedyd, Y mae fy amser yn ymyl; gyda thi y cadwaf y pasg ynghyd â’m disgyblion’.”
19
A gwnaeth y disgyblion fel y gorchmynasai’r Iesu iddynt, a pharatoesant y pasg.
20
Wedi iddi hwyrhau yr oedd yn eistedd wrth y bwrdd gyda’r deuddeg disgybl.
21
Ac â hwy’n bwyta fe ddywedodd, “Yn wir meddaf i chwi, un ohonoch chwi a’m bradycha i.”
22
A than ofidio’n ddirfawr dechreuasant ddywedyd wrtho bob un ac un, “Nid myfi yw, Arglwydd?”
23
Atebodd yntau, “Y sawl a wlycho’i law gyda mi yn y ddysgl, hwnnw a’m bradycha i.
24
Mab y dyn yn wir sy’n myned fel y mae’n ysgrifenedig amdano, ond gwae’r dyn hwnnw y bradychir Mab y dyn trwyddo; da fuasai i’r dyn hwnnw pe nas ganesid ef.”
25
Atebodd Iwdas, ei fradychwr, “Nid myfi yw, Rabbi?” Medd ef wrtho, “Ti sy’n gofyn.”
26
Ac wrth iddynt fwyta cymerth yr Iesu fara, ac wedi bendithio torrodd ef a’i roi i’r disgyblion a dywedyd, “Cymerwch, bwytewch; hwn yw fy nghorff.”
27
A chymerth gwpan, ac wedi diolch fe’i rhoddes iddynt, gan ddywedyd, “Yfwch ohono bawb;
28
canys hwn yw fy ngwaed cyfamod, a dywelltir dros lawer er maddeuant pechodau.
29
Meddaf i chwi, nid yfaf o hyn allan o’r ffrwyth hwn i’r winwydden hyd y dydd hwnnw pan yfaf ef gyda chwi yn newydd yn nheyrnas fy Nhad.”
30
Ac wedi iddynt ganu emyn, aethant allan i fynydd yr Olewydd.
31
Yna dywed yr Iesu wrthynt, “Fe’ch tramgwyddir chwi oll ynof i heno; canys y mae’n ysgrifenedig, Trawaf y bugail, a gwasgerir defaid y ddiadell.
32
Ond wedi i mi gyfodi, mi af o’ch blaen chwi i Galilea.”
33
Ond atebodd Pedr iddo, “Os tramgwyddir pawb ynot ti, ni’m tramgwyddir i byth.”
34
Ebe’r Iesu wrtho, “Yn wir meddaf i ti, heno, cyn i’r ceiliog ganu, ti a’m gwedi deirgwaith.”
35
Medd Pedr wrtho, “Hyd yn oed os rhaid imi farw gyda thi, ni’th wadaf ddim.” Felly hefyd y dywedodd yr holl ddisgyblion.
36
Yna daw’r Iesu gyda hwynt i ddarn o dir a elwid Gethsemane, ac eb ef wrth y disgyblion, “Eisteddwch yma tra bwyf yn mynd draw acw i weddïo.”
37
A chymerth Bedr a dau fab Sebedeus gydag ef; a dechreuodd dristáu ac ymgynhyrfu.
38
Yna medd ef wrthynt, “Athrist yw fy enaid hyd angau; arhoswch yma a chedwch yn effro gyda mi.”
39
Ac wedi myned rhagddo ychydig syrthiodd ar ei wyneb, gan weddïo a dywedyd, “Fy Nhad, os oes dichon, aed y cwpan hwn heibio oddi wrthyf; eithr nid fel y mynnaf i, ond fel y mynni di.”
40
A daw at y disgyblion a’u cael yn cysgu, ac medd ef wrth Bedr, “Oni allasoch gadw’n effro gyda mi am gymaint ag un awr?
41
Byddwch effro a gweddïwch nad eloch i demtasiwn. Yr ysbryd yn wir sydd eiddgar, ond y cnawd yn wan.”
42
Drachefn yr ail waith aeth ymaith, a gweddïodd gan ddywedyd, “Fy Nhad, oni all hwn fyned heibio heb i mi ei yfed, gwneler dy ewyllys.”
43
A daeth drachefn, a’u cael yn cysgu, canys yr oedd eu llygaid wedi trymhau.
44
Ac fe’u gadawodd ac aeth ymaith drachefn, a gweddïodd y drydedd waith gan ddywedyd yr un ymadrodd drachefn.
45
Yna daw at y disgyblion, ac medd ef wrthynt, “A ydych yn dal i gysgu a gorffwys? Dyma’r awr gerllaw, awr traddodi Mab y dyn i ddwylo pechaduriaid.
46
Codwch, awn; dyma fy mradychwr yn ymyl.”
47
Ac ef eto’n llefaru, dyma Iwdas, un o’r deuddeg, yn dyfod, a chydag ef dyrfa fawr â chleddyfau a phastynau oddi wrth yr archoffeiriaid a henuriaid y bobl.
48
Rhoesai ei fradychwr arwydd iddynt, gan ddywedyd, “Pwy bynnag a gusanwyf, hwnnw ydyw; deliwch ef.”
49
A daeth yn syth at yr Iesu; a dywedodd, “Henffych well, Rabbi!”
50
A chusanodd ef. Dywedodd yr Iesu wrtho, “Gyfaill, ymlaen gyda’th waith.” Yna daethant a rhoi eu dwylo ar yr Iesu, a’i ddal.
51
A dyma un o’r rhai a oedd gydag Iesu yn estyn ei law a thynnu ei gleddyf, a chan daro gwas yr archoffeiriad torrodd ymaith ei glust.
52
Yna medd yr Iesu wrtho, “Dychwel dy gleddyf i’w le, canys pawb a gymeront gleddyf, â chleddyf y difethir hwy.
53
Neu a dybi di na allaf ddeisyf ar fy Nhad, a chawn ganddo yn y fan fwy na deuddeg lleng o angylion?
54
Sut felly y cyflawnir yr ysgrythurau mai fel hyn y mae’n rhaid iddi fod?”
55
Yr awr honno ebe’r Iesu wrth y tyrfaoedd, “Ai megis at leidr y daethoch allan gyda chleddyfau a phastynau i’m dal? Beunydd yr eisteddwn yn y deml yn dysgu, ac ni roesoch law arnaf.
56
Ond hyn oll a fu fel y cyflawnid ysgrythurau’r proffwydi.” Yna gadawodd yr holl ddisgyblion ef, a ffoesant.
57
A’r rhai a ddaliodd yr Iesu a’i dug ef ymaith at Gaiaffas yr archoffeiriad i’r lle yr ymgynullasai’r ysgrifenyddion a’r henuriaid.
58
Yr oedd Pedr yn ei ddilyn ef o bell hyd gyntedd yr archoffeiriaid, ac aeth i mewn ac eistedd gyda’r gwasanaethyddion i weled y diwedd.
59
A cheisiai’r archoffeiriaid a’r holl Sanhedrin gam dystiolaeth yn erbyn yr Iesu fel y rhoddent ef i farwolaeth,
60
ac nis cawsant er i lawer o gam dystion ddyfod ymlaen.
61
O’r diwedd daeth dau ymlaen a dywedyd, “Fe ddywedodd hwn, Gallaf ddymchwelyd teml Dduw a’i hadeiladu mewn tridiau.”
62
A chododd yr archoffeiriad, a dywedodd wrtho, “Onid atebi ddim? Beth am yr hyn a dystia’r rhain i’th erbyn?”
63
Ond tawai’r Iesu. Ac ebe’r archoffeiriad wrtho, “Yr wyf yn dy dynghedu di trwy’r Duw byw ddywedyd i ni ai ti yw’r Crist, Mab Duw.”
64
Medd yr Iesu wrtho, “Ti sy’n gofyn; eithr meddaf i chwi, ar ôl hyn cewch weled Mab y dyn yn eistedd ar ddeheulaw’r gallu, ac yn dyfod ar gymylau’r nef.”
65
Yna rhwygodd yr archoffeiriad ei ddillad gan ddywedyd, “Cablodd. Pa raid i ni mwy wrth dystion? Wele yn awr, clywsoch y cabledd;
66
beth debygwch chwi?” Atebasant hwythau, “Haedda farw.”
67
Yna poerasant yn ei wyneb a’i ddyrnodio; cernodiodd eraill ef,
68
gan ddywedyd, “Proffwyda i ni, Grist! Pwy yw’r un a’th drawodd?”
69
Eisteddai Pedr allan yn y cyntedd; a daeth rhyw forwyn ato, gan ddywedyd, “Yr oeddit tithau gydag Iesu’r Galilead.”
70
Gwadodd yntau yng ngŵydd pawb, gan ddywedyd, “Ni wn beth yr wyt yn ei feddwl.”
71
Ac wedi iddo fynd allan i’r porth, gwelodd morwyn arall ef, ac medd hi wrth y rhai oedd yno, “Yr oedd hwn gydag Iesu’r Nasaread.”
72
A thrachefn gwadodd ar ei lw, “Nid adwaen i mo’r dyn.”
73
Ymhen ychydig daeth y rhai oedd gerllaw ato, a dywedasant wrth Bedr, “Yn wir yr wyt tithau yn un ohonynt; achos y mae dy leferydd yn dy fradychu.”
74
Yna fe ddechreuodd felltithio a thyngu, “Nid adwaen i mo’r dyn.” Ac yn y fan canodd y ceiliog.
75
A chofiodd Pedr y gair a ddywedasai’r Iesu, “Cyn i’r ceiliog ganu, ti a’m gwedi deirgwaith.” Ac aeth allan, ac wylodd yn chwerw.
← Chapter 25
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 27 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28