bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Matthew 24
Matthew 24
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 23
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 25 →
1
Ac aeth yr Iesu allan o’r deml a mynd i’w ffordd, a daeth ei ddisgyblion ato i ddangos iddo adeiladau’r deml.
2
Atebodd yntau iddynt, “Oni welwch chwi’r pethau hyn oll? Yn wir meddaf i chwi, ni adewir yma faen ar faen heb ei ddymchwel.”
3
A phan oedd yn eistedd ar fynydd yr Olewydd, daeth y disgyblion ato o’r neilltu a dywedyd, “Dywed wrthym, pa bryd y bydd y pethau hyn? A beth fydd yr arwydd o’th ddyfodiad ac o derfyniad yr oes?”
4
Ac atebodd yr Iesu iddynt, “Edrychwch na thwyllo neb chwi.
5
Canys llawer a ddaw ar bwys fy enw i, a dywedyd, ‘Myfi yw’r Crist,’ a thwyllant laweroedd.
6
A chewch glywed am ryfeloedd a sôn am ryfeloedd; gwelwch na’ch cythrybler; canys rhaid eu dyfod, eithr nid yw’r diwedd eto.
7
Canys cyfyd cenedl yn erbyn cenedl a theyrnas yn erbyn teyrnas, a bydd newynau a daeargrynfâu mewn amryw leoedd;
8
dechrau gwewyr fydd hyn oll.
9
Yna traddodant chwi i’ch cystuddio a lladdant chwi, a byddwch gas gan yr holl genhedloedd oherwydd fy enw i.
10
Ac yna tramgwyddir llawer a bradychant ei gilydd a chasáu ei gilydd;
11
a chyfyd gau broffwydi lawer a thwyllant laweroedd;
12
ac oherwydd i anghyfraith amlhau, fe oera cariad y lliaws.
13
Ond y neb a ymgynnal i’r pen, hwnnw a gedwir.
14
A phregethir yr efengyl hon am y deyrnas trwy’r byd cyfan er tystiolaeth i’r holl genhedloedd, ac yna daw y diwedd.
15
Pan weloch, ynteu, ffieiddbeth y difrod, y dywedwyd amdano trwy Ddaniel y proffwyd, yn sefyll mewn lle santaidd, (a ddarlleno, ystyried),
16
yna ffoed y rhai a fydd yn Iwdea i’r mynyddoedd;
17
y dyn ar nen y tŷ, na ddisgynned i gyrchu’r pethau a fo yn ei dŷ,
18
a’r dyn yn y maes, na ddychweled yn ei ôl i gyrchu ei fantell.
19
Ond gwae’r rhai beichiog a’r rhai a ro’r fron yn y dyddiau hynny!
20
A gweddïwch na ddelo’ch ffoedigaeth yn y gaeaf nac ar y Sabbath;
21
canys bydd y pryd hwnnw galedi mawr na bu ei fath o ddechrau’r byd hyd yn awr, na chwaith ni bydd byth.
22
Ac oni bai gwtogi’r dyddiau hynny, nid achubesid un cnawd; eithr er mwyn yr etholedigion cwtogwyd y dyddiau hynny.
23
Y pryd hwnnw os dywed neb wrthych, ‘Dyma’r Crist,’ neu ‘Yma,’ na chredwch;
24
canys cyfyd gau-gristiau a gau-broffwydi, a rhoddant arwyddion mawr a rhyfeddodau, nes twyllo, pe gellid, hyd yn oed yr etholedigion;
25
dyma fi wedi rhagfynegi i chwi.
26
Os dywedant wrthych, ynteu, ‘Dyma fo yn y diffeithwch,’ nac ewch allan; ‘Dyma fo yn yr ystafelloedd,’ na chredwch.
27
Canys fel y mae’r fellten yn dyfod allan o’r dwyrain ac yn tywynnu hyd y gorllewin, felly y bydd dyfodiad Mab y dyn;
28
lle bynnag y bo’r gelain, yno yr ymgasgl y fwlturiaid.
29
Ac yn union wedi caledi’r dyddiau hynny yr haul a dywyllir, a’r lloer ni rydd ei llewyrch, a’r sêr a syrth o’r nef, a nerthoedd y nefoedd a ysgydwir.
30
Ac yna yr ymddengys arwydd Mab y dyn yn y nef, ac yna y galara holl lwythau’r ddaear, ac y gwelant Fab y dyn yn dyfod ar gymylau’r nef gyda gallu a gogoniant mawr;
31
ac fe enfyn ei angylion ag utgorn mawr, a chynullant ei etholedigion o’r pedwar gwynt, o gyrrau’r nefoedd bwygilydd.
32
Oddi wrth y ffigysbren dysgwch ei ddameg; wedi’r êl ei gangen weithian yn ir, a’r dail yn tarddu, chwi wyddoch fod yr haf yn agos;
33
felly chwithau, pan weloch yr holl bethau hyn, gwybyddwch ei fod yn agos wrth y drws.
34
Yn wir meddaf i chwi, nid â’r genhedlaeth hon ddim heibio hyd oni ddigwyddo hyn oll.
35
Y nef a’r ddaear ânt heibio, ond fy ngeiriau i nid ânt heibio ddim.
36
Ond am y dydd hwnnw a’r awr ni ŵyr neb, nac angylion y nefoedd na’r Mab, ond y Tad yn unig.
37
Canys fel y bu dyddiau Noe, felly y bydd dyfodiad Mab y dyn;
38
canys fel yr oeddent yn y dyddiau hynny cyn y dilyw yn bwyta ac yn yfed, yn priodi ac yn rhoi i briodas, hyd y dydd yr aeth Nöe i mewn i’r arch,
39
ac ni wybuant hyd oni ddaeth y dilyw a’u cipio hwynt oll, felly y bydd dyfodiad Mab y dyn.
40
Y pryd hwnnw bydd dau yn y maes, un a gymerir ac un a adewir;
41
dwy yn malu yn y felin, un a gymerir ac un a adewir.
42
Byddwch effro, ynteu, am na wyddoch pa ddiwrnod y mae eich Arglwydd yn dyfod.
43
Ond gwybyddwch hyn: pe gwybuasai’r pen teulu pa wyliadwriaeth y deuai’r lleidr, buasai’n effro ac ni adasai gloddio’i dŷ trwodd.
44
Am hynny byddwch chwithau barod, canys yr awr ni thybioch y daw Mab y dyn.
45
Pwy, tybed, yw’r gwas ffyddlon a chall, a osododd yr arglwydd dros ei deulu i roddi iddynt eu bwyd yn ei bryd?
46
Gwyn ei fyd y gwas hwnnw, y caiff ei arglwydd, pan ddêl, ei fod yn gwneuthur felly;
47
yn wir meddaf i chwi, fei gesyd ef dros ei holl eiddo.
48
Ond os dywed y gwas drwg hwnnw yn ei galon, ‘Mae f’arglwydd yn oedi,’
49
a dechrau curo’i gyd-weision, a bwyta ac yfed gyda’r meddwon,
50
fe ddaw arglwydd y gwas hwnnw ar ddiwrnod nad yw’n disgwyl ac ar awr nad yw’n gwybod,
51
a’i dorri’n ddau, a’i gyfrif gyda’r rhagrithwyr; yno y bydd wylofain a rhincian dannedd.
← Chapter 23
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 25 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28