bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Matthew 27
Matthew 27
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 26
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 28 →
1
A phan ddaeth y bore ymgynghorodd yr holl archoffeiriaid a henuriaid y bobl yn erbyn yr Iesu er mwyn ei roddi i farwolaeth.
2
A rhwymasant ef, ac aethant ag ef ymaith, a’i draddodi i Bilat, y rhaglaw.
3
Yna pan welodd Iwdas, a’i bradychodd ef, ddarfod ei gondemnio, bu’n edifar ganddo, a daeth â’r deg darn arian ar hugain yn ôl i’r archoffeiriaid a’r henuriaid,
4
gan ddywedyd, “Pechais wrth fradychu’r diniwed.” Dywedasant hwythau, “Beth yw hynny i ni? Rhyngot ti a hynny.”
5
A bwriodd yr arian i’r deml ac ymadael, ac aeth ymaith ac ymgrogi.
6
A chymerth yr archoffeiriaid yr arian, ac meddent, “Ni ddylid ei roi yn y drysorfa, gan mai pris gwaed ydyw.”
7
Ac wedi ymgynghori prynasant ag ef Faes y Crochenydd yn gladdfa i ddieithriaid.
8
Am hynny gelwir y maes hwnnw yn Faes Gwaed hyd heddiw.
9
Yna y cyflawnwyd yr hyn a lefarwyd trwy Ieremïas y proffwyd, A chymerasant y deg darn arian ar hugain, pris y prisiedig, yr hwn a brisiodd rhai o feibion Israel,
10
a rhoesant hwynt am faes y crochenydd, megis y gorchmynnodd yr Arglwydd i mi.
11
A safodd yr Iesu gerbron y rhaglaw; a gofynnodd y rhaglaw iddo, “Ai ti yw Brenin yr Iddewon?” Ac ebe’r Iesu, “Ti sy’n gofyn.”
12
A phan gyhuddid ef gan yr archoffeiriaid a’r henuriaid nid atebodd ddim.
13
Yna dywed Pilat wrtho, “Oni chlywi di pa faint o bethau y maent yn eu tystiolaethu yn dy erbyn?”
14
Ac nid atebodd iddo, naddo, i ddim un gair, er syndod mawr i’r rhaglaw.
15
Ac ar ddydd gŵyl arferai’r rhaglaw ryddhau i’r dyrfa un carcharor a ddewisent.
16
Yr oedd ganddynt y pryd hwnnw garcharor hynod, a elwid Barabbas.
17
Felly wedi iddynt ymgynnull dywedodd Pilat wrthynt, “Pwy a ddewiswch i mi ei ryddhau i chwi, Barabbas ai Iesu, a elwir Crist?”
18
Canys gwyddai mai o genfigen y traddodasent ef.
19
A thra oedd ef yn eistedd ar y frawdle danfonodd ei wraig ato, gan ddywedyd, “Na foed dim a wnelych di â’r un cyfiawn hwnnw, canys dioddefais lawer heddiw mewn breuddwyd o’i achos ef.”
20
A pherswadiodd yr archoffeiriaid a’r henuriaid y tyrfaoedd i ofyn am Farabbas ac i fwrw’r Iesu i golli.
21
Atebodd y rhaglaw iddynt, “Pa un o’r ddau a ddewiswch i mi ei ryddhau i chwi?”
22
Dywedasant hwythau, “Barabbas.” Medd Pilat wrthynt, “Beth, ynteu, a wnaf ag Iesu a elwir Crist?” Meddent hwy oll, “Croeshoelier ef.”
23
Ebe yntau, “Eithr pa ddrwg a wnaeth ef?” Gwaeddent hwythau fwyfwy, “Croeshoelier ef.”
24
A phan welodd Pilat nad oedd dim yn tycio, ond yn hytrach bod cynnwrf yn codi, fe gymerth ddŵr a golchi ei ddwylo gerbron y dyrfa, gan ddywedyd, “Glân ydwyf oddi wrth waed y dyn hwn. Rhyngoch chwi a hynny.”
25
Ac atebodd yr holl bobl, “Boed ei waed arnom ni ac ar ein plant.”
26
Yna rhyddhaodd iddynt Farabbas, ond ffrewyllodd yr Iesu, a’i draddodi i’w groeshoelio.
27
Yna cymerth milwyr y rhaglaw yr Iesu gyda hwynt i’r plas, a chynullasant ato yr holl gatrawd.
28
Ac wedi diosg ei ddillad rhoesant fantell ysgarlad amdano,
29
a phlethasant goron o ddrain a’i rhoi ar ei ben a chorsen yn ei law ddehau, a chan benlinio o’i flaen gwatwarasant ef gan ddywedyd, “Henffych well, Frenin yr Iddewon!”
30
A phoerasant arno, a chymerasant y gorsen a’i guro ar ei ben.
31
Ac wedi iddynt ei watwar, diosgasant y fantell oddi amdano a’i wisgo â’i ddillad ei hun, a dygasant ef ymaith i’w groeshoelio.
32
Ac wrth fyned allan cawsant ddyn o Gyrene, a’i enw Simon; a gorfodi hwn i gymryd ei groes ef.
33
Ac wedi dyfod i le a elwid Golgotha, hynny yw Lle Penglog,
34
rhoesant iddo i’w yfed win wedi ei gymysgu â bustl; ac wedi ei brofi gwrthododd ei yfed.
35
Wedi iddynt ei groeshoelio, rhanasant ei ddillad gan fwrw coelbren,
36
ac eisteddasant i’w wylied yno.
37
Ac uwch ei ben gosodasant ei achos wedi ei ysgrifennu, HWN YW IESU, BRENIN YR IDDEWON.
38
Yna croeshoelir gydag ef ddau leidr, un ar y ddehau ac un ar yr aswy.
39
A’r rhai oedd yn myned heibio a’i cablai ef, gan ysgwyd eu pennau
40
a dywedyd, “Ddymchwelwr y deml a’i hadeiladwr mewn tridiau, achub dy hun, os Mab Duw ydwyt, a disgyn oddi ar y groes.”
41
Yr un modd yr archoffeiriaid hefyd a’i gwatwarai gyda’r ysgrifenyddion a’r henuriaid, ac meddent,
42
“Achubodd eraill, ni all ei achub ei hun. Brenin Israel ydyw; disgynned yn awr oddi ar y groes, a chredwn ynddo.
43
Y mae’n ymddiried yn Nuw; gwareded ef yn awr, os yw amdano; canys dywedodd, ‘Mab Duw ydwyf’.”
44
Yr un modd hefyd yr oedd y lladron, a groeshoeliwyd gydag ef, yn edliw iddo.
45
Ac o’r chweched awr bu tywyllwch dros yr holl dir hyd y nawfed awr.
46
Ynghylch y nawfed awr dolefodd yr Iesu â llef uchel, gan ddywedyd, “Eli, Eli, lema sabachthani”, hynny yw, “Fy Nuw, fy Nuw, paham y gadewaist fi?”
47
A rhai o’r rhai oedd yn sefyll yno, wrth ei glywed, a ddywedai, “Ar Elïas y mae hwn yn galw.”
48
Ac yn y fan rhedodd un ohonynt a chymerth ysbwng a’i lenwi â surwin a’i ddodi ar flaen gwialen a’i roi iddo i’w yfed.
49
A’r lleill a ddywedodd, “Gad inni weled a ddaw Elïas i’w achub ef.”
50
Ond yr Iesu, wedi iddo weiddi drachefn â llef uchel, a ollyngodd ymaith ei ysbryd.
51
Ac wele, llen y deml a rwygwyd yn ddwy o’r pen i’r gwaelod; a chrynodd y ddaear, a holltwyd y creigiau,
52
ac agorwyd y beddau a chyfododd llawer o gyrff y saint a oedd yn huno;
53
a daethant allan o’r beddau wedi iddo ef gyfodi, ac aethant i mewn i’r ddinas santaidd, ac ymddangosasant i lawer.
54
A’r canwriad a’r rhai oedd gydag ef yn gwylied yr Iesu, pan welsant y ddaeargryn a’r pethau oedd yn digwydd, ofnasant yn fawr, a dywedyd, “Yn wir mab i dduw oedd hwn.”
55
Ac yr oedd yno wragedd lawer yn edrych o bell, y rhai a ddilynasai’r Iesu o Galilea gan weini arno;
56
yn eu plith yr oedd Mair o Fagdala a Mair mam Iago ac Ioseff a mam meibion Sebedeus.
57
Ac wedi iddi hwyrhau daeth dyn cyfoethog o Arimathea, a’i enw Ioseff, a ddaethai yntau yn ddisgybl i’r Iesu.
58
Daeth hwn at Bilat, a gofynnodd am gorff yr Iesu. Yna gorchmynnodd Pilat ei roddi.
59
A chymerth Ioseff y corff a throi amdano lenlliain lân,
60
a dododd ef yn ei fedd newydd a naddasai yn y graig, a threiglodd faen mawr ar ddrws y bedd, ac aeth ymaith.
61
Yr oedd yno Fair o Fagdala a’r Fair arall, yn eistedd gyferbyn â’r bedd.
62
Trannoeth, sef y dydd wedi’r Darpar, ymgynullodd yr archoffeiriaid a’r Phariseaid at Bilat,
63
gan ddywedyd, “Syr, cof gennym i’r twyllwr hwnnw ddywedyd, pan oedd eto’n fyw, ‘Wedi tridiau cyfodaf.’
64
Felly gorchymyn ddiogelu’r bedd hyd y trydydd dydd, rhag ofn i’r disgyblion ddyfod a’i ddwyn ef, a dywedyd wrth y bobl, ‘Cyfododd oddi wrth y meirw’ a bydd y twyll olaf yn waeth na’r cyntaf.”
65
Ebe Pilat wrthynt, “Gofelwch fod gennych warchodlu; ewch, gwnewch mor ddiogel ag y medroch.”
66
Aethant hwythau a gwnaethant y bedd yn ddiogel trwy selio’r maen, heblaw gosod y gwarchodlu.
← Chapter 26
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 28 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28