bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Matthew 21
Matthew 21
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 22 →
1
A phan nesasant at Gaersalem, a dyfod i Fethphage ar Fynydd yr Olewydd, yna anfonodd Iesu ddau ddisgybl,
2
gan ddywedyd wrthynt, “Ewch i’r pentref sy gyferbyn â chwi, ac yn y fan chwi gewch asen yn rhwym ac ebol gyda hi; gollyngwch a dygwch i mi.
3
Ac os dywed neb ddim wrthych, dywedwch, ‘Mae ar yr Arglwydd eu heisiau’; ac yn y fan fe’u henfyn.”
4
A hyn a fu fel y cyflawnid yr hyn a lefarwyd gan y proffwyd,
5
Dywedwch i ferch Seion, Wele dy Frenin yn dyfod, yn addfwyn ac yn eistedd ar asen, ac ar ebol o lwdn asyn.
6
Ac aeth y disgyblion, a gwneuthur fel y gorchmynasai’r Iesu iddynt,
7
a dygasant yr asen a’r ebol, a dodi arnynt eu dillad, ac eisteddodd yntau arnynt.
8
A’r rhan fwyaf o’r dyrfa a daenodd eu dillad ar y ffordd, ac eraill yn torri brigau o’r coed ac yn eu taenu ar y ffordd.
9
A’r tyrfaoedd, a’i rhagflaenai ac a’i dilynai, oedd yn llefain, gan ddywedyd — Hosanna i Fab Dafydd; Bendigedig yw’r un sy’n dyfod yn enw’r Arglwydd; Hosanna yn y goruchafion.
10
A phan ddaeth ef i Gaersalem, cynhyrfwyd yr holl ddinas, gan ddywedyd “Pwy yw hwn?”
11
A dywedai’r tyrfaoedd, “Hwn yw’r proffwyd Iesu o Nasareth Galilea.”
12
Ac aeth Iesu i mewn i’r deml, a bwriodd allan yr holl weithwyr a phrynwyr yn y deml; a dymchwelodd fyrddau’r cyfnewidwyr arian, a chadeiriau’r gwerthwyr colomennod;
13
ac medd ef wrthynt, “Ysgrifennwyd, Fy nhŷ i a elwir yn dŷ gweddi, ond gwnewch chwi ef yn ogof lladron.”
14
A daeth ato ddeillion a chloffion yn y deml, ac fe’u hiachaodd hwynt.
15
A phan welodd yr archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion y rhyfeddodau a wnaeth ef, a’r plant a oedd yn gweiddi yn y deml ac yn dywedyd “Hosanna i Fab Dafydd,” digiasant,
16
a dywedasant wrtho, “A glywi di beth a ddywed y rhain?” Ac medd yr Iesu wrthynt, “Clywaf; oni ddarllenasoch erioed O enau plant bach a rhai’n sugno y darperaist iti fawl?”
17
A gadawodd hwynt ac aeth allan o’r ddinas, i Fethania, a threuliodd y nos yno.
18
A’r bore, wrth ddychwelyd i’r ddinas, daeth arno eisiau bwyd.
19
Ac wedi gweled rhyw ffigysbren ar y ffordd, daeth ato, ac ni chafodd ddim arno ond dail yn unig; ac medd ef wrtho, “Mwyach na ddeled ffrwyth ohonof ti byth bythoedd.” A chrinodd y ffigysbren ar unwaith.
20
A phan welodd y disgyblion, rhyfeddasant, gan ddywedyd, “Pa fodd y crinodd y ffigysbren ar unwaith?”
21
Atebodd yr Iesu iddynt, “Yn wir meddaf i chwi, os bydd gennych ffydd a heb amau, nid yn unig chwi wnewch yr hyn a wnaed i’r ffigysbren, ond hyd yn oed os dywedwch wrth y mynydd hwn ‘Coder di, a bwrier di i’r môr,’ hynny a fydd.
22
A phopeth a ofynnoch mewn gweddi gan gredu, chwi a’i cewch.”
23
Ac wedi iddo ddyfod i’r deml, pan oedd yn dysgu daeth yr archoffeiriaid a henuriaid y bobl ato, a dywedasant, “Drwy ba awdurdod y gwnei di’r pethau hyn? a phwy a roes i ti’r awdurdod hwn?”
24
Atebodd yr Iesu iddynt, “Mi ofynnaf innau i chwi un gair, ac os dywedwch imi hynny, dywedaf innau i chwi drwy ba awdurdod y gwnaf y pethau hyn:
25
bedydd Ioan, o ba le yr oedd? ai o’r nef ai o ddynion?” Ymresyment hwythau ynddynt eu hunain, gan ddywedyd, “Os dywedwn, ‘O’r nef,’ fe ddywed wrthym, ‘Paham ynteu nas credasoch?’
26
Ac os dywedwn ‘O ddynion,’ y mae arnom ofn y dyrfa; canys y mae pawb yn cyfrif Ioan yn broffwyd.”
27
Ac atebasant yr Iesu, “Nis gwyddom.” Ac meddai yntau wrthynt, “Ac ni ddywedaf innau i chwithau trwy ba awdurdod y gwnaf y pethau hyn.
28
Ond beth a debygwch chwi? Yr oedd gan ddyn ddau o blant; fe aeth at y cyntaf, a dywedodd, ‘Fy mab, dos heddiw, gweithia yn y winllan.’
29
Atebodd yntau, ‘Gwnaf i, syr,’ ac eto nid aeth. Ac aeth at yr ail, a dywedodd yr un modd. Atebodd yntau, ‘Nac af’; wedi hynny edifarodd, ac aeth.
31
Pa un o’r ddau a wnaeth ewyllys y tad?” Meddant hwy, “Yr olaf.” Medd yr Iesu wrthynt, “Yn wir, meddaf i chwi, fe â’r trethwyr a’r puteiniaid o’ch blaen chwi i mewn i deyrnas Dduw.
32
Canys daeth Ioan atoch gyda ffordd uniondeb, ac nis credasoch; ond credodd y trethwyr a’r puteiniaid ef; gwelsoch chwithau, ac nid edifarhasoch hyd yn oed wedyn a’i gredu.
33
Clywch ddameg arall. Yr oedd rhyw ddyn o benteulu a blannodd winllan, a chaeodd o’i hamgylch, a chloddiodd ynddi gafn, ac adeiladodd dŵr; a gosododd hi i lafurwyr, ac aeth oddi cartref.
34
A phan nesaodd amser ffrwythau, anfonodd ei weision at y llafurwyr i gael ei ffrwythau;
35
a dal ei weision a wnaeth y llafurwyr, a churo un, a lladd un arall, a llabyddio un arall.
36
Drachefn anfonodd weision eraill, mwy eu nifer na’r rhai cyntaf, a gwnaethant iddynt yr un modd.
37
Wedi hynny anfonodd atynt ei fab, gan ddywedyd, ‘Parchant fy mab.’
38
Ond pan welodd y llafurwyr y mab, dywedasant yn eu plith eu hunain, ‘Hwn yw’r etifedd; dowch, lladdwn ef, a meddiannwn ei etifeddiaeth.’
39
A’i ddal a wnaethant, a’i fwrw allan o’r winllan, a’i ladd.
40
Pan ddêl perchen y winllan, ynteu, pa beth a wna i’r llafurwyr hynny?”
41
Meddant wrtho, “Fe’u difetha’n llwyr, y dyhirod, a’r winllan a esyd i lafurwyr eraill, a dâl iddo’r ffrwythau yn eu hamseroedd.”
42
Medd yr Iesu wrthynt, “Oni ddarllenasoch erioed yn yr ysgrythurau, Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, hwn a ddaeth yn ben y gongl: Gan yr Arglwydd y gwnaethpwyd hyn, ac y mae’n rhyfedd yn ein golwg ni?
43
Am hynny, meddaf i chwi, y dygir oddi arnoch deyrnas Dduw, ac y rhoddir i genedl yn dwyn ei ffrwythau hi.
44
A’r neb a syrth ar y maen hwn a ddryllir, ac ar bwy bynnag y syrthio, fe’i mâl.”
45
A phan glywodd yr archoffeiriaid a’r Phariseaid ei ddamhegion, deallasant mai amdanynt hwy y soniai;
46
ac a hwy’n ceisio cael gafael arno, daeth ofn y tyrfaoedd arnynt, am eu bod yn ei gyfrif ef yn broffwyd.
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 22 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28