bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Matthew 22
Matthew 22
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 21
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 23 →
1
A llefarodd yr Iesu drachefn ar ddamhegion,
2
gan ddywedyd, “Cyffelyb i deyrnas nefoedd oedd gŵr o frenin, a wnaeth neithior i’w fab.
3
A danfonodd ei weision i alw’r gwahoddedigion i’r neithior, ac ni fynnent ddyfod.
4
Drachefn anfonodd weision eraill, gan ddywedyd, ‘Dywedwch wrth y gwahoddedigion, “Dyma fi wedi paratoi fy nghinio, yr ychen a’r pasgedigion wedi eu lladd, a phopeth yn barod; dowch i’r neithior”.’
5
A hwythau, yn ddifater, a aeth ymaith, un i’w faes, a’r llall i’w fasnach;
6
a’r lleill a afaelodd yn ei weision ef, a’u cam-drin, a’u lladd.
7
A ffromodd y brenin, ac anfonodd ei luoedd, a dinistrio’r lleiddiaid hynny, a llosgi eu dinas.
8
Yna medd ef wrth ei weision, ‘Y briodas sydd barod, ond y gwahoddedigion nid oeddent deilwng;
9
ewch gan hynny i bennau’r ffyrdd, a phwy bynnag a gaffoch, gelwch i’r neithior.’
10
Ac aeth y gweision hynny allan i’r ffyrdd, a chynullasant bawb a gawsant, drwg a da; a llanwyd y neuadd briodas o westeion.
11
Ac aeth y brenin i mewn i gael golwg ar y gwesteion, a chanfu yno ddyn heb wisg briodas amdano,
12
ac medd ef wrtho, ‘Y cyfaill, pa fodd y daethost ti i mewn yma heb gennyt wisg briodas?’ Yntau a aeth yn fud.
13
Yna dywedodd y brenin wrth y gweision, ‘Rhwymwch ei draed a’i ddwylo, a bwriwch ef i’r tywyllwch tu allan.’ Yno y bydd wylofain a rhincian dannedd.
14
Canys llawer a alwyd ond ychydig a etholwyd.”
15
Yna’r aeth y Phariseaid ac ymgynghori pa fodd y maglent ef ar air.
16
Ac anfonant ato eu disgyblion gyda’r Herodianiaid i ddywedyd, “Athro, gwyddom dy fod yn ddidwyll, ac yn dysgu ffordd Duw mewn didwylledd, ac na waeth gennyt am neb; canys nid edrychi ar wyneb dynion;
17
dywed gan hynny wrthym beth a debygi di? A ddylid rhoi treth i Gesar ai peidio?”
18
Ond canfu’r Iesu eu cast hwynt, a dywedodd, “Pam y temtiwch fi, ragrithwyr?
19
Dangoswch i mi ddarn arian y dreth.”
20
Dygasant iddo swllt.
21
Ac medd ef wrthynt, “Pwy biau’r ddelw hon a’r argraff?” Meddant hwy, “Cesar.” Yna eb ef wrthynt, “Telwch, ynteu, bethau Cesar i Gesar, a phethau Duw i Dduw.”
22
A phan glywsant, rhyfeddasant, a’i adael a myned ymaith.
23
Y diwrnod hwnnw daeth ato Sadwceaid, sy’n dywedyd nad oes atgyfodiad;
24
a gofynasant iddo, “Athro, dywedodd Moses Os bydd marw neb heb iddo blant, prioded ei frawd ei wraig ef, a choded had i’w frawd.
25
Yr oedd yn ein plith ni saith o frodyr; a’r cyntaf a briododd, ac a fu farw, a chan nad oedd iddo had gadawodd ei wraig i’w frawd;
26
yr un modd hefyd yr ail a’r trydydd, hyd y seithfed.
27
Ac yn olaf oll bu farw’r wraig.
28
Yn yr atgyfodiad, ynteu, i ba un o’r saith y bydd hi’n wraig? Canys pob un ohonynt a’i cafodd hi.”
29
Atebodd yr Iesu iddynt, “Yr ydych yn cyfeiliorni am na wyddoch na’r ysgrythurau na gallu Duw.
30
Canys yn yr atgyfodiad, ni phriodant ac nis priodir; eithr fel angylion yn y nef y maent.
31
Ond am atgyfodiad y meirw, oni ddarllenasoch yr hyn a lefarwyd wrthych gan Dduw,
32
Myfi yw Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Iacob? Nid yw ef Dduw rhai meirw ond rhai byw.”
33
A phan glywodd y tyrfaoedd hynny, synasant at ei athrawiaeth ef.
34
A phan glywodd y Phariseaid iddo roi taw ar y Sadwceaid,
35
ymgynullasant at ei gilydd, a gofynnodd un ohonynt, rhyw gyfreithiwr,
36
i’w brofi ef, “Athro, pa un yw’r gorchymyn mwyaf yn y gyfraith?”
37
Eb ef wrtho, “Câr yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon ac â’th holl enaid ac â’th holl feddwl.
38
Hwn yw’r gorchymyn mwyaf a’r cyntaf.
39
Ail orchymyn tebyg iddo yw Câr dy gymydog fel ti dy hun.
40
Ar y ddau orchymyn hyn y dibynna’r holl gyfraith a’r proffwydi.”
41
A phan oedd y Phariseaid wedi ymgynnull, gofynnodd yr Iesu iddynt,
42
“Beth a debygwch chwi am y Crist? Mab i bwy ydyw?” Meddant wrtho, “I Ddafydd.”
43
Medd ef wrthynt, “Pa fodd, ynteu, y geilw Dafydd ef trwy’r Ysbryd yn Arglwydd, gan ddywedyd,
44
Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw hyd oni osodwyf dy elynion o dan dy draed?
45
Os Dafydd, ynteu, ai geilw ef yn Arglwydd, pa fodd y mae’n fab iddo?”
46
Ac ni allai neb ateb iddo air, ac ni feiddiodd neb o’r dydd hwnnw allan ei holi mwy.
← Chapter 21
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 23 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28