bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Matthew 9
Matthew 9
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 10 →
1
Ac fe aeth i long, a chroesodd, a daeth i’w ddinas ei hun.
2
A dyna hwy’n dwyn ato un parlysedig yn gorwedd ar wely. A phan welodd yr Iesu eu ffydd hwynt, fe ddywedodd wrth y parlysedig, “Cod dy galon, fy mab, maddeuwyd dy bechodau.”
3
A dyna rai o’r ysgrifenyddion yn dywedyd ynddynt eu hunain, “Mae hwn yn cablu.”
4
A gwybu’r Iesu eu meddyliau hwynt, a dywedodd, “Paham y meddyliwch bethau drwg yn eich calonnau?
5
Canys beth sydd hawsaf, ai dywedyd ‘Maddeuwyd dy bechodau’ ai dywedyd ‘Cyfod a rhodia’?
6
Ond fel y gwypoch fod awdurdod gan Fab y dyn ar y ddaear i faddau pechodau” — yna medd ef wrth y parlysedig, “Cyfod, cymer dy wely a dos adref.”
7
Ac fe gyfododd, ac aeth ymaith adref.
8
A phan welodd y tyrfaoedd, ofni a wnaethant, a gogoneddu Duw, a roes y fath awdurdod i ddynion.
9
Ac wrth i’r Iesu fynd heibio oddi yno fe welodd ddyn yn eistedd wrth y dollfa, a’i enw Mathew, ac medd wrtho, “Dilyn fi.” A chododd a dilynodd ef.
10
A digwyddodd, ac ef ar bryd bwyd yn tŷ, dyna hefyd lawer o drethwyr a phechaduriaid yn dyfod ac yn cyd-eistedd â’r Iesu ac â’i ddisgyblion.
11
A phan welodd y Phariseaid, meddent wrth ei ddisgyblion, “Paham y bwyta eich Athro gyda’r trethwyr a’r pechaduriaid?”
12
Clywodd yntau, a dywedodd, “Nid rhaid i’r iach wrth feddyg, ond y rhai gwael.
13
Eithr ewch a dysgwch beth yw Trugaredd a fynnaf ac nid aberth. Canys ni ddeuthum i alw rhai cyfiawn, ond pechaduriaid.”
14
Yna daw ato ddisgyblion Ioan gan ddywedyd, “Paham yr ymprydiwn ni a’r Phariseaid, ac nad ymprydia dy ddisgyblion di?”
15
A dywedodd yr Iesu wrthynt, “A all gwesteion y briodas alaru tra fo’r priodfab gyda hwynt? Ond fe ddaw dyddiau pan ddyger oddi wrthynt y priodfab, ac yna yr ymprydiant.
16
Ni ddyd neb glwt o frethyn crai ar hen ddilledyn; canys tyn y darn llanw oddi wrth y dilledyn, a gwaeth rhwyg a fydd.
17
Ni roddant chwaith win newydd mewn crwyn hen; onid e, fe rwygir y crwyn, a’r gwin a red allan, a’r crwyn a ddifethir; eithr rhoddant win newydd mewn crwyn newydd, a’r naill a’r llall a gedwir.”
18
Ac yntau’n llefaru’r pethau hyn wrthynt, dyma ryw bennaeth yn dyfod ac yn ymgrymu iddo, gan ddywedyd, “Fy merch sydd newydd farw; eithr tyred a dod dy law arni, a hi fydd byw.”
19
A chododd yr Iesu a’i ddilyn ef, a’i ddisgyblion hefyd.
20
A dyna wraig â gwaedlif arni ers deuddeng mlynedd yn dyfod o’r tu ôl, a chyffwrdd â thasel ei fantell;
21
canys dywedai ynddi ei hun, “Os caf yn unig gyffwrdd â’i fantell, iach fyddaf.”
22
A’r Iesu a droes a’i gweled hi, a dywedodd, “Cod dy galon, fy merch; dy ffydd a’th iachaodd.” Ac iachawyd y wraig o’r awr honno.
23
A daeth yr Iesu i dŷ’r pennaeth, ac wrth weled y pibyddion a’r dyrfa’n terfysgu,
24
meddai, “Ewch ymaith, canys ni bu farw’r eneth, eithr cysgu y mae.” A gwatwarasant ef.
25
Ond pan yrrwyd y dyrfa allan, fe aeth i mewn a gafael yn ei llaw hi; a chododd yr eneth.
26
Ac aeth y sôn am hyn allan drwy’r holl fro honno.
27
Ac wrth i’r Iesu fyned oddi yno, dilynodd dau ddyn dall ef, gan weiddi a dywedyd, “Tosturia wrthym, fab Dafydd.”
28
Ac wedi iddo fynd i’r tŷ daeth y deillion ato, ac medd yr Iesu wrthynt, “A ydych yn credu y gallaf wneuthur hyn?” Meddant wrtho, “Ydym, Arglwydd.”
29
Yna cyffyrddodd â’u llygaid hwynt gan ddywedyd, “Yn ôl eich ffydd boed i chwi.”
30
Ac agorwyd eu llygaid hwynt. A chwyrn rybuddiodd yr Iesu hwynt gan ddywedyd, “Gwyliwch! Na chaffed neb wybod!”
31
Ond aethant hwythau allan, a thaenu’r sôn amdano yn yr holl fro honno.
32
A hwy’n mynd allan, dyma rai’n dwyn ato fudan cythreulig.
33
A phan fwriwyd y cythraul allan, llefarodd y mudan. A rhyfeddodd y tyrfaoedd, gan ddywedyd, “Ni welwyd erioed y fath beth yn Israel.”
34
Ond dywedai’r Phariseaid, “Trwy bennaeth y cythreuliaid y mae’n bwrw allan y cythreuliaid.”
35
Ac âi’r Iesu o amgylch y dinasoedd oll a’r pentrefi gan ddysgu yn eu synagogau hwynt, a chyhoeddi efengyl y deyrnas, ac iacháu pob clefyd a phob llesgedd.
36
Ac wrth weled y tyrfaoedd bu ddrwg ganddo drostynt, am eu bod yn flin ac wedi ymollwng fel defaid heb ganddynt fugail.
37
Yna medd ef wrth ei ddisgyblion, “Mawr yw’r cynhaeaf, ond ychydig yw’r gwerthwyr;
38
felly deisyfwch ar Arglwydd y cynhaeaf yrru allan weithwyr i’w gynhaeaf.”
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 10 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28