bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Matthew 3
Matthew 3
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 4 →
1
Yn y dyddiau hynny dyma Ioan Fedyddiwr yn dyfod a phregethu yn niffeithwch Iwdea,
2
gan ddywedyd, “Edifarhewch: canys nesaodd teyrnas nefoedd.”
3
Canys hwn yw’r un y llefarwyd amdano trwy Eseia’r proffwyd: Llef un yn bloeddio yn y diffeithwch, Paratowch ffordd yr Arglwydd, unionwch ei lwybrau ef.
4
A’r Ioan hwnnw oedd â’i wisg o flew camel, a gwregys croen am ei lwynau; a’i fwyd oedd locustiaid a mêl gwyllt.
5
Yna’r âi allan ato Gaersalem a holl Iwdea a holl gymdogaeth yr Iorddonen;
6
a bedyddid hwynt ganddo yn afon Iorddonen, gan gyffesu eu pechodau.
7
Ac wrth weled llawer o’r Phariseaid a’r Sadwceaid yn dyfod i’r bedydd fe ddywedodd wrthynt, “Epil gwiberod, pwy a’ch rhybuddiodd i ffoi rhag y llid a fydd?
8
Dygwch, ynteu, ffrwyth teilwng o’ch edifeirwch;
9
ac na feddyliwch am ddywedyd ynoch eich hunain, ‘Mae gennym ni Abraham yn dad,’ canys meddaf i chwi, fe ddichon Duw o’r cerrig hyn godi plant i Abraham.
10
Eisoes y mae’r fwyall wedi ei gosod wrth wraidd y prennau; pob pren, ynteu, heb ddwyn ffrwyth da, yr ydys yn ei dorri i lawr, a’i daflu yn tân.
11
Myfi yn wir sydd yn eich bedyddio chwi â dwfr i edifeirwch; ond yr hwn sy’n dyfod ar fy ôl, cryfach yw na mi, ac nid wyf deilwng i dynnu ei esgidiau; ef a’ch bedyddia chwi â’r Ysbryd Glân ac â thân;
12
â’i wyntyll sydd yn ei law, ac fe lwyr-lanha ei lawr dyrnu, a chasgl ei ŷd i’r ysgubor, ond yr us a lysg â thân anniffoddadwy.”
13
Yna dyma’r Iesu yn dyfod o Galilea hyd at yr Iorddonen at Ioan i’w fedyddio ganddo.
14
Gwrthodai yntau, gan ddywedyd, “Arnaf i y mae eisiau fy medyddio gennyt ti, ac a wyt ti’n dyfod ataf i?”
15
Ac atebodd yr Iesu iddo, “Caniatâ yn awr; canys felly y mae’n weddus inni gyflawni pob peth iawn.” Yna fe ad iddo.
16
A bedyddiwyd yr Iesu, ac yn ebrwydd esgynnodd o’r dwfr; a dyna’r nefoedd yn ymagor, a gwelodd Ysbryd Duw’n disgyn megis colomen ac yn dyfod arno;
17
a dyma lef o’r nefoedd yn dywedyd, “Hwn yw fy mab annwyl a ryngodd fy modd.”
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28