bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Matthew 10
Matthew 10
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 11 →
1
Ac wedi galw ato’i ddeuddeg disgybl, fe roes iddynt awdurdod ar ysbrydion aflan, i’w bwrw allan, ac i iacháu pob clefyd a phob llesgedd.
2
Enwau’r deuddeg apostol yw’r rhain: yn gyntaf Simon, a elwir Pedr, ac Andreas ei frawd, ac Iago fab Sebedeus ac Ioan ei frawd,
3
Phylip a Bartholomeus, Thomas a Mathew y trethwr, Iago fab Alffeus a Thadeus,
4
Simon y Selot ac Iwdas Iscariot, y gŵr a’i bradychodd ef.
5
Y deuddeg hyn a anfonodd yr Iesu, a gorchymyn iddynt gan ddywedyd: “Nac ewch draw at y cenhedloedd, nac i mewn i ddinas i’r Samariaid;
6
ond ewch yn hytrach at ddefaid cyfrgolledig tŷ Israel.
7
Ac wrth fyned, cyhoeddwch, gan ddywedyd ‘Nesaodd teyrnas nefoedd.’
8
Iachewch gleifion, cyfodwch feirw, glanhewch wahangleifion, bwriwch allan gythreuliaid; derbyniasoch yn rhad, rhowch yn rhad.
9
Na fynnwch aur nac arian na phres yn eich gwregysau,
10
na chod i daith, na dwy grysbais, nac esgidiau, na ffon; canys teilwng i’r gweithiwr ei fwyd.
11
Ac i ba ddinas neu bentref bynnag yr eloch i mewn, holwch pwy ynddi sydd deilwng; ac arhoswch yno hyd onid eloch ymaith.
12
Ac wrth fynd i mewn i’r tŷ, cyferchwch well iddo;
13
ac os bydd y tŷ’n deilwng, doed eich tangnefedd arno. Ac oni bydd deilwng, dychweled eich tangnefedd atoch.
14
A phwy bynnag ni’ch croesawo, ac ni wrandawo ar eich geiriau, wrth fynd allan o’r tŷ neu’r ddinas honno, ysgydwch y llwch oddi wrth eich traed.
15
Yn wir meddaf i chwi, esmwythach fydd i dir Sodom a Gomorra yn nydd y farn nag i’r ddinas honno.
16
Dyma fi’n eich anfon chwi fel defaid i blith bleiddiaid; byddwch gall, ynteu, fel y seirff, a diniwed fel y colomennod.
17
Gwyliwch rhag dynion; canys traddodant chwi i lysoedd, ac yn eu synagogau y’ch ffrewyllant;
18
ie, a cherbron rhaglawiaid a brenhinoedd y’ch dygir o’m hachos i, er tystiolaeth iddynt hwy ac i’r Cenhedloedd.
19
A phan draddodont chwi, na phryderwch pa fodd neu beth a leferwch; canys rhoddir i chwi yn yr awr honno pa beth a leferwch,
20
canys nid chwychwi sydd yn llefaru, eithr Ysbryd eich Tad sy’n llefaru ynoch chwi.
21
A thraddoda brawd frawd i farwolaeth, a thad blentyn; a chyfyd plant yn erbyn rhieni, a’u lladd;
22
a byddwch gas gan bawb oherwydd fy enw i; ond y neb a ymgynnal i’r diwedd, hwnnw a achubir.
23
A phan erlidiont chwi yn y ddinas hon, ffowch i’r llall; canys yn wir meddaf i chwi, ni ddibennwch ddinasoedd Israel cyn dêl Mab y dyn.
24
Nid yw disgybl uwchlaw ei athro, na gwas uwchlaw ei feistr.
25
Digon i’r disgybl ddyfod fel ei athro, a’r gwas fel ei feistr. Os galwasant y penteulu’n Feelsebwl, pa faint mwy ei deulu ef.
26
Gan hynny nac ofnwch hwynt; canys nid oes dim cuddiedig nas datguddir, na dirgel nas gwybyddir.
27
A ddywedaf wrthych yn y tywyllwch, dywedwch yn y goleuni; ac a sibrydir yn eich clust, cyhoeddwch ar bennau’r tai.
28
Ac nac ofnwch rhag y rhai a ladd y corff, ond ni allant ladd yr enaid; ofnwch yn hytrach yr hwn a all ddinistrio enaid a chorff yng Ngehenna.
29
Oni werthir dau aderyn to am ffyrling? Ac ni syrth un ohonynt hwy ar y ddaear heb eich Tad chwi.
30
Ond amdanoch chwi, y mae hyd yn oed gwallt eich pen wedi eu rhifo oll.
31
Gan hynny peidiwch ag ofni; amgenach na llawer o adar to ydych chwi.
32
Pob un, ynteu, â’m harddelo i yng ngŵydd dynion, arddelaf innau ef yng ngŵydd fy Nhad sydd yn y nefoedd.
33
Ond y neb â’m gwado i yng ngŵydd dynion, gwadaf innau ef yng ngŵydd fy Nhad sydd yn y nefoedd.
34
Na thybiwch fy nyfod i ddwyn tangnefedd ar y ddaear; ni ddeuthum i ddwyn tangnefedd, ond cleddyf.
35
Canys deuthum i osod dyn yn erbyn ei dad, a merch yn erbyn ei mam, a gwaudd yn erbyn ei chwegr,
36
a gelynion dyn fydd ei deulu ei hun.
37
A garo dad neu fam yn fwy na mi, nid yw deilwng ohonof i; ac a garo fab neu ferch yn fwy na mi, nid yw deilwng ohonof i;
38
a’r hwn ni chymero ei groes, a dilyn ar fy ôl i, nid yw deilwng ohonof i.
39
A gaffo’i fywyd a’i cyll, ac a gollo’i fywyd er fy mwyn i a’i caiff.
40
Â’ch derbynio chwi â’m derbyn i; ac â’m derbynio i â dderbyn yr hwn â’m hanfonodd.
41
 dderbynio broffwyd am ei fod yn broffwyd, gwobr proffwyd a gaiff; ac â dderbynio un cyfiawn am ei fod yn un cyfiawn, gwobr un cyfiawn a gaiff.
42
A phwybynnag a ro i’w yfed i un o’r rhai bychain hyn gwpanaid o ddŵr oer yn unig am ei fod yn ddisgybl, yn wir meddaf i chwi, ni chyll mo’i wobr.”
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 11 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28