bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Matthew 14
Matthew 14
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 15 →
1
Y pryd hwnnw fe glywodd Herod y tetrarch y sôn am Iesu,
2
ac eb ef wrth ei weision, “Hwn yw Ioan Fedyddiwr; cyfododd oddi wrth y meirw, ac am hynny y gweithia’r grymusterau ynddo.”
3
Canys Herod a ddaliodd Ioan, a’i rwymo a’i ddodi yng ngharchar o achos Herodias gwraig Phylip ei frawd.
4
Canys dywedai Ioan wrtho, “Ni ddylai fod hon yn wraig i ti.”
5
Ac yr oedd am ei ladd ond ofnodd y dyrfa, canys ystyrient ef yn broffwyd.
6
Ond pan ddaeth pen-blwydd Herod dawnsiodd merch Herodias ger eu bron; a boddhaodd Herod,
7
hyd onid addawodd ar ei lw roi iddi beth bynnag a ofynnai.
8
A hithau, wedi ei chyfarwyddo gan ei mam, “Dyro i mi,” meddai hi, “yn y fan yma ar ddysgl ben Ioan Fedyddiwr.”
9
A thristaodd y brenin, ond oherwydd y llwon a’i gyd-gyfeddachwyr fe orchmynnodd ei roddi;
10
ac anfonodd i dorri pen Ioan yn y carchar.
11
A dygwyd ei ben ef ar ddysgl, a rhoddwyd ef i’r eneth, a dug hithau ef i’w mam.
12
A daeth ei ddisgyblion, a chymryd ei gorff ef a’i gladdu; a daethant i fynegi i’r Iesu.
13
Pan glywodd yr Iesu, fe giliodd oddi yno mewn llong i le anghyfannedd o’r neilltu; a phan glywodd y tyrfaoedd, dilynasant ef ar eu traed o’r dinasoedd.
14
Ac wedi iddo ddyfod allan, gwelodd dyrfa fawr, a thosturiodd wrthynt ac iachaodd eu cleifion.
15
Ac wedi iddi hwyrhau, daeth ei ddisgyblion ato, gan ddywedyd, “Anghyfannedd yw’r lle, ac y mae’r amser bellach ar ben; gan hynny gollwng y tyrfaoedd, fel yr elont i’r pentrefydd i brynu bwyd iddynt eu hunain.”
16
Ond dywedodd yr Iesu wrthynt, “Nid oes raid iddynt fynd; rhowch chwi iddynt beth i’w fwyta.”
17
Meddant hwythau wrtho, “Nid oes gennym yma ond pum torth a dau bysgodyn.”
18
Dywedodd yntau, “Dygwch hwynt i mi yma.”
19
Ac wedi gorchymyn i’r tyrfaoedd eistedd ar y glaswellt, fe gymerth y pum torth a’r ddau bysgodyn, a chan edrych i fyny i’r nef, gofynnodd fendith, a thorrodd y torthau a’u rhoddi i’r disgyblion, a rhoes y disgyblion hwynt i’r tyrfaoedd.
20
A bwytasant oll, a diwallwyd hwynt, a chodasant yr hyn a oedd yn weddill o’r darnau, ddeuddeg basgedaid lawn.
21
A’r bwytawyr oedd ynghylch pum mil o wŷr, heblaw gwragedd a phlant.
22
Ac yna parodd i’r disgyblion fynd i’r llong, a mynd o’i flaen i’r ochr arall, nes iddo ef ollwng y tyrfaoedd.
23
Ac wedi gollwng ohono’r tyrfaoedd, aeth i fyny i’r mynydd wrtho’i hun i weddïo. Ac wedi iddi hwyrhau yr oedd ef ar ei ben ei hun yno.
24
Yr oedd y llong erbyn hyn ystadau lawer o’r tir, yn cael ei hyrddio gan y tonnau, canys yr oedd y gwynt yn erbyn.
25
Ac ar y bedwaredd wylfa o’r nos fe ddaeth atynt dan gerdded dros y môr.
26
A’r disgyblion wrth ei weled yn cerdded ar y môr a gyffrowyd, ac meddant, “Drychiolaeth yw,” ac yn eu braw rhoesant waedd.
27
Ac yn y fan llefarodd yr Iesu wrthynt, gan ddywedyd, “Codwch eich calon; myfi yw; peidiwch ag ofni.”
28
Atebodd Pedr ef, “Arglwydd, os ti wyt ti, gorchymyn i mi ddyfod atat ar y dyfroedd.”
29
Dywedodd yntau, “Tyred.” A chan ddisgyn o’r llong cerddodd Pedr dros y dyfroedd, a daeth at yr Iesu.
30
Ond wrth ganfod y gwynt fe ofnodd; a phan ddechreuodd suddo, gwaeddodd gan ddywedyd, “Arglwydd, achub fi.”
31
Ac yn y fan estynnodd yr Iesu ei law a gafaelodd ynddo, ac medd wrtho, “Y bychan ei ffydd, paham y petrusaist?”
32
Ac wedi iddynt fynd i fyny i’r llong, gostegodd y gwynt.
33
Ac ymgrymodd y rhai oedd yn y llong iddo, gan ddywedyd, “Yn wir Mab Duw wyt ti.”
34
Ac wedi croesi daethant i dir yn Gennesaret.
35
A phan adnabu gwŷr y lle hwnnw ef, anfonasant i’r holl gymdogaeth honno, a dygasant ato yr holl gleifion,
36
a deisyf arno am iddynt gael yn unig gyffwrdd â thasel ei fantell; a chynifer ag a gyffyrddodd a iachawyd.
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 15 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28