bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Matthew 5
Matthew 5
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 6 →
1
Ac wrth weled y tyrfaoedd fe esgynnodd i’r mynydd; ac eisteddodd, a daeth ei ddisgyblion ato.
2
Ac agorodd ei enau a’u dysgu gan ddywedyd,
3
“Gwyn eu byd y tlodion eu hysbryd, canys hwynthwy biau deyrnas nefoedd.
4
Gwyn eu byd y galarwyr, canys hwynthwy a gaiff eu diddanu.
5
Gwyn eu byd y rhai addfwyn, canys hwynthwy a gaiff etifeddu ’r ddaear.
6
Gwyn eu byd y rhai sy’n newynu ac yn sychedu am gyfiawnder, canys hwynthwy a gaiff eu diwallu.
7
Gwyn eu byd y trugarogion, canys hwynthwy a gaiff drugaredd.
8
Gwyn eu byd y rhai pur o galon, canys hwynthwy a gaiff weled Duw.
9
Gwyn eu byd y tangnefeddwyr, canys hwynthwy a gaiff eu galw’n feibion i Dduw.
10
Gwyn eu byd yr erlidiedig o achos cyfiawnder, canys hwynthwy biau deyrnas nefoedd.
11
Gwyn eich byd pan waradwyddant chwi, a’ch erlid, a dywedyd ar gelwydd bob drwg yn eich erbyn o’m hachos i.
12
Llawenychwch a gorfoleddwch, canys eich gwobr sy fawr yn y nefoedd; oblegid felly’r erlidiasant y proffwydi a fu o’ch blaen chwi.
13
Chwi yw halen y ddaear; ond os cyll yr halen ei rin, â pha beth yr helltir ef? Nid yw dda i ddim mwyach ond i’w daflu allan a’i sathru gan ddynion.
14
Chwi yw goleuni’r byd. Ni ellir cuddio dinas a saif ar ben bryn;
15
ni oleuant gannwyll chwaith, a’i dodi dan y celwrn, eithr ar y canhwyllbren, a hi lewyrcha i bawb sydd yn y tŷ.
16
Felly llewyrched eich goleuni gerbron dynion fel y gwelont eich gweithredoedd da chwi, ac y gogoneddont eich Tad sydd yn y nefoedd.
17
Na thybiwch fy nyfod i ddiddymu’r gyfraith a’r proffwydi; ni ddeuthum i ddiddymu, eithr i gwblhau.
18
Canys yn wir meddaf i chwi, hyd onid êl y nef a’r ddaear heibio, un iod nac un fachell nid â heibio byth o’r gyfraith nes darfod y cwbl.
19
Pwy bynnag, ynteu, a dorro un o’r gorchmynion lleiaf hyn, ac a ddysgo felly i ddynion, lleiaf y gelwir ef yn nheyrnas nefoedd. Ond pwy bynnag a’i gwnêl ac a’i dysgo, mawr y gelwir hwnnw yn nheyrnas nefoedd.
20
Canys meddaf i chwi, oni bydd eich cyfiawnder chwi yn helaethach nag eiddo’r ysgrifenyddion a’r Phariseaid, nid ewch byth i mewn i deyrnas nefoedd.
21
Clywsoch ddywedyd wrth y rhai gynt, Na ladd; a phwy bynnag a laddo, agored fydd i gosb.
22
Ond yr wyf i’n dywedyd i chwi, Pob un a lidio wrth ei frawd, agored fydd i gosb; a phwy bynnag a ddywedo wrth ei frawd ‘Rhaca!’ bydd yng ngafael y Sanhedrin; a phwy bynnag a ddywedo ‘Ffŵl!’ agored fydd i’w fwrw i Gehenna’r tân.
23
Gan hynny, os byddi’n cyflwyno dy offrwm ar yr allor, ac yno ddyfod i’th gof fod gan dy frawd ddim yn dy erbyn,
24
gad yno dy offrwm gerbron yr allor, a dos yn gyntaf i gymodi â’th frawd, ac yna tyrd a chyflwyna dy offrwm.
25
Bydd esgud i gymodi â’th wrthwynebwr tra fyddych gydag ef ar y ffordd, rhag ofn i’th wrthwynebwr dy draddodi i’r barnwr, a’r barnwr i’r swyddog, a’th fwrw yng ngharchar;
26
yn wir meddaf i ti, ni ddoi di ddim allan oddi yno nes iti dalu’r ffyrling eithaf.
27
Clywsoch ddywedyd, Na wna odineb.
28
Ond yr wyf i’n dywedyd i chwi, Pob un a edrycho ar wraig i’w chwenychu hi, fe wnaeth odineb â hi eisoes yn ei galon.
29
Ac os yw dy lygad dehau yn dy rwystro, tyn ef allan, a bwrw oddi wrthyt; canys fe dâl iti golli un o’th aelodau, ac na fwrier dy holl gorff i Gehenna.
30
Ac os yw dy law ddehau yn dy rwystro, tor hi ymaith a bwrw oddi wrthyt; canys fe dâl iti golli un o’th aelodau, ac nad êl dy holl gorff i Gehenna.
31
A dywedwyd, Pwy bynnag a ysgaro â’i wraig rhoed iddi lythyr ysgar.
32
Ond yr wyf i’n dywedyd i chwi, Pob un a ysgaro â’i wraig oddieithr o achos anniweirdeb, fe bair iddi wneuthur godineb; a phwy bynnag a briodo wraig a ysgarwyd, y mae’n godinebu.
33
Drachefn, clywsoch ddywedyd wrth y rhai gynt, Na thwng anudon, ond tâl i’r Arglwydd dy lwon.
34
Ond yr wyf i’n dywedyd i chwi, Na thyngwch o gwbl; nac i’r nef, canys gorsedd Duw ydyw;
35
nac i’r ddaear, canys troedfainc ei draed ydyw; nac i Gaersalem, canys dinas y Brenin mawr ydyw;
36
ac na thwng i’th ben, canys ni elli wneuthur un blewyn yn wyn nac yn ddu.
37
Ond boed eich gair ie yn ie, a’ch nage yn nage; rhagor na’r rhain, o’r drwg y mae.
38
Clywsoch ddywedyd, Llygad am lygad a dant am ddant.
39
Ond yr wyf i’n dywedyd i chwi, Na wrthsefwch y drwg; eithr pwy bynnag a’th gernodio ar dy rudd ddehau, tro’r llall iddo hefyd.
40
A’r neb a fynno roi cyfraith arnat a chymryd dy grysbais, gad iddo dy fantell hefyd.
41
A phwy bynnag a’th orfodo i fynd un filltir, dos gydag ef ddwy.
42
Y neb a geisio gennyt, dyro iddo; a’r neb a ddymuno fenthyca gennyt, na thro oddi wrtho.
43
Clywsoch ddywedyd, Câr dy gymydog a chasâ dy elyn.
44
Ond yr wyf i’n dywedyd i chwi, Cerwch eich gelynion a gweddïwch dros eich erlidwyr,
45
fel y byddoch yn feibion i’ch Tad sydd yn y nefoedd canys gwna i’w haul godi ar rai drwg a rhai da, a glawia ar gyfiawn ac anghyfiawn.
46
Canys os cerwch y rhai a’ch câr, pa wobr sydd i chwi? Onid yw hyd yn oed y trethwyr yn gwneuthur yr un peth?
47
Ac os cyferchwch well i’ch brodyr yn unig, pa orchest a wnewch? Onid yw hyd yn oed y cenedl-ddynion yn gwneuthur yr un peth?
48
Byddwch chwi gan hynny’n berffaith fel y mae’ch Tad nefol yn berffaith.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28