bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Matthew 20
Matthew 20
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 21 →
1
Canys cyffelyb yw teyrnas nefoedd i ddyn o benteulu a aeth allan gyda’r dydd i gyflogi gweithwyr i’w winllan.
2
Ac wedi cytuno â’r gweithwyr am swllt y dydd, anfonodd hwynt i’w winllan.
3
Ac aeth allan ynghylch y drydedd awr a gwelodd eraill yn sefyll yn y farchnad yn ddi-waith,
4
a dywedodd wrth y rheini, ‘Ewch chwithau hefyd i’r winllan, a pha beth bynnag a fo cyfiawn mi a’i rhoddaf i chwi.’
5
A hwy aethant. A thrachefn yr aeth allan ynghylch y chweched a’r nawfed awr, a gwnaeth yr un modd.
6
Ac ynghylch yr unfed awr ar ddeg aeth allan, a chafodd eraill yn sefyll, ac medd wrthynt ‘Paham yr ydych yn sefyll yma ar hyd y dydd yn ddi-waith?’
7
Meddant wrtho, ‘Am na chyflogodd neb ni.’ Medd ef wrthynt, ‘Ewch chwithau hefyd i’r winllan.’
8
Ac wedi iddi hwyrhau, medd arglwydd y winllan wrth ei oruchwyliwr, ‘Galw’r gweithwyr, a thâl iddynt eu cyflog, gan ddechrau o’r rhai olaf hyd y rhai cyntaf.’
9
A phan ddaeth y rhai a gyflogasid ynghylch yr unfed awr ar ddeg, cawsant swllt yr un.
10
A phan ddaeth y rhai cyntaf tybiasant y caent fwy; eto cawsant hwythau hefyd swllt yr un.
11
Ond pan gawsant, dechreuasant rwgnach yn erbyn y penteulu,
12
gan ddywedyd, ‘Un awr y gweithiodd y rhai olaf hyn, a gwnaethost hwynt yn gyfartal â ni, sy wedi dwyn pwys y dydd a’r gwres.’
13
Atebodd yntau i un ohonynt, ‘Gyfaill, nid wyf yn gwneuthur cam â thi; onid am swllt y cytunaist â mi?
14
Cymer yr eiddot, a dos; yr wyf yn dewis rhoi i’r olaf hwn fel i tithau;
15
onid cyfreithlon i mi wneuthur a fynnwyf â’m pethau fy hun? Neu ai cenfigennus wyt ti am fy mod i’n garedig?’
16
Felly y bydd y rhai olaf yn flaenaf, a’r rhai blaenaf yn olaf.”
17
A’r Iesu ar fedr mynd i fyny i Gaersalem, fe gymerth y deuddeg o’r neilltu, ac ar y ffordd dywedodd wrthynt,
18
“Dyma ni’n mynd i fyny i Gaersalem, a Mab y dyn a draddodir i’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion, a chondemniant ef i farwolaeth,
19
a thraddodant ef i’r cenhedloedd i’w watwar a’i ffrewyllu ai groeshoelio, a’r trydydd dydd fe gyfyd.”
20
Yna y daeth ato fam meibion Sebedeus gyda’i meibion, gan ymgrymu a cheisio rhywbeth ganddo.
21
Dywedodd yntau wrthi, “Beth a fynni?” Medd hi wrtho, “Dywed am i’m dau fab hyn gael eistedd un ar dy ddeheulaw ac un ar dy aswy yn dy deyrnas.”
22
Atebodd yr Iesu, “Ni wyddoch beth a ofynnwch. A ellwch yfed y cwpan yr wyf i ar fedr ei yfed?” Meddant wrtho, “Gallwn.”
23
Medd ef wrthynt, “Fy nghwpan a yfwch, ond eistedd ar fy neheulaw ac ar fy aswy nid eiddof i ei roi, eithr i’r rhai y darparwyd iddynt gan fy Nhad y mae.”
24
A phan glywodd y deg, digiasant ynghylch y ddau frawd.
25
A galwodd yr Iesu hwynt ato, a dywedodd, “Chwi wyddoch fod llywodraethwyr y cenhedloedd yn arglwyddiaethu arnynt a’u mawrion yn awdurdodi arnynt.
26
Nid felly y mae yn eich plith chwi; eithr pwy bynnag a fynno ddyfod yn fawr yn eich plith chwi, bydded was i chwi,
27
a phwy bynnag a fynno fod yn flaenaf yn eich plith chwi, bydded gaethwas i chwi;
28
megis na ddaeth Mab y dyn i’w wasanaethu ond i wasanaethu, ac i roi ei einioes yn bridwerth yn lle llawer.”
29
A hwy’n myned allan o Iericho, dilynodd tyrfa fawr ef.
30
A dyma ddau ddyn dall a oedd yn eistedd ar fin y ffordd, yn gweiddi, pan glywsant fod Iesu’n mynd heibio, “Arglwydd, tosturia wrthym, Fab Dafydd!”
31
A’r dyrfa a’u ceryddodd hwynt i gael ganddynt dewi; mwy fyth y gwaeddasant hwythau gan ddywedyd, “Arglwydd, tosturia wrthym, Fab Dafydd!”
32
A safodd yr Iesu, a galwodd hwynt, a dywedodd, “Beth a fynnwch i mi ei wneuthur i chwi?”
33
Meddant wrtho, “Arglwydd, cael agor ein llygaid.”
34
Tosturiodd yr Iesu wrthynt, a chyffyrddodd â’u llygaid, ac yn y fan cawsant eu golwg a dilynasant ef.
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 21 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28