bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Matthew 18
Matthew 18
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 19 →
1
Yr adeg honno daeth y disgyblion at yr Iesu, gan ddywedyd, “Pwy, tybed, sy fwyaf yn nheyrnas nefoedd?”
2
A galwodd ato blentyn, a gosododd ef yn eu canol,
3
a dywedodd, “Yn wir meddaf i chwi, oddieithr eich troi a dyfod fel plant, nid ewch ddim i mewn i deyrnas nefoedd.
4
Y neb, gan hynny, a’i darostyngo’i hun fel y plentyn hwn, hwnnw yw’r mwyaf yn nheyrnas nefoedd.
5
A phwy bynnag a dderbynio un plentyn fel hwn yn fy enw i, y mae’n fy nerbyn i;
6
ond pwy bynnag a baro rwystr i un o’r rhai bychain hyn sy’n credu ynof i, fe dalai iddo fod maen melin mawr wedi ei grogi am ei wddf a’i foddi yn eigion y môr.
7
Gwae’r byd o achos rhwystrau; canys rhaid dyfod rhwystrau, eithr gwae’r dyn y daw’r rhwystr drwyddo.
8
Ac os dy law neu dy droed a’th rwystra, tor ef ymaith a thafl oddi wrthyt; gwell i ti yw myned i mewn i’r bywyd yn anafus neu’n gloff nag â dwy law neu ddau droed gennyt dy daflu i’r tân tragwyddol.
9
Ac os dy lygad a’th rwystra, tyn ef allan a thafl oddi wrthyt; gwell yw i ti fyned i mewn i’r bywyd yn unllygeidiog nag â dau lygad gennyt dy daflu i dân Gehenna.
10
Gwyliwch na ddirmygoch un o’r rhai bychain hyn; canys meddaf i chwi, y mae eu hangylion hwy yn y nefoedd bob amser yn gweled wyneb fy Nhad sydd yn y nefoedd.
12
Beth a debygwch chwi? Os bydd i ryw ddyn gant o ddefaid a chrwydro o un ohonynt, oni edy ef y cant namyn un ar y mynyddoedd a myned i geisio’r grwydredig?
13
Ac os bydd iddo ei chael hi, yn wir meddaf i chwi, mwy y llawenycha am honno nag am y cant namyn un nad oeddent ar grwydr.
14
Felly nid ewyllys eich Tad sydd yn y nefoedd yw colli un o’r rhai bychain hyn.
15
Os pecha dy frawd, dos ac argyhoedda ef rhyngot ti ac ef ei hun. Os gwrendy arnat, enillaist dy frawd;
16
ac oni wrendy, cymer gyda thi eto un neu ddau, fel yng ngenau dau dyst neu dri y safo pob gair;
17
ac os diystyra hwynt, dywed wrth yr eglwys; ac os diystyra’r eglwys hefyd, boed ef i ti megis y cenedl-ddyn a’r trethwr.
18
Yn wir meddaf i chwi, pa bethau bynnag a rwymoch ar y ddaear, byddant wedi eu rhwymo yn y nef; a pha bethau bynnag a ryddhaoch ar y ddaear, byddant wedi eu rhyddhau yn y nef.
19
Drachefn yn wir meddaf i chwi, os cydsynia dau ohonoch ar y ddaear ar ddim oll a’r a ofynnont, fe ddaw iddynt oddi wrth fy Nhad sydd yn y nefoedd.
20
Canys lle mae dau neu dri wedi ymgynnull yn fy enw i, yno yr wyf yn eu canol.”
21
Yna daeth Pedr ato a dywedyd wrtho, “Arglwydd, pa sawl gwaith y mae fy mrawd i bechu yn fy erbyn ac i minnau faddau iddo? ai hyd seithwaith?”
22
Medd yr Iesu wrtho, “Ni ddywedaf wrthyt hyd seithwaith, eithr hyd saith dengwaith saith.
23
Am hynny cyffelyb i deyrnas nefoedd oedd gŵr o frenin, a benderfynodd wneuthur cyfrif gyda’i weision.
24
Dechreuodd ei wneuthur, a dygwyd un ato a oedd yn ei ddyled o ddeng mil o dalentau.
25
A chan nad oedd ganddo fodd i dalu, gorchmynnodd yr arglwydd ei nerthu ef a’i wraig a’i blant a chwbl a feddai, i doddi’r ddyled.
26
Yna syrthiodd y gwas a phenlinio iddo, gan ddywedyd, ‘Bydd ymarhous wrthyf, ac mi dalaf y cwbl i ti.’
27
A thosturiodd arglwydd y gwas hwnnw, a rhyddhaodd ef, a maddeuodd y benthyg iddo.
28
Aeth y gwas hwnnw allan, a chafodd un o’i gydweision a oedd yn ei ddyled ef o gan swllt, a gafaelodd ynddo, a’i lindagu gan ddywedyd ‘Tâl dy ddyled.’
29
Yna syrthiodd ei gydwas, ac ymbil ag ef, gan ddywedyd, ‘Bydd ymarhous wrthyf, ac mi dalaf i ti.’
30
Ond ni fynnai, eithr aeth a bwriodd ef i garchar hyd oni thalai’r ddyled.
31
Yna pan welodd ei gydweision yr hyn a ddigwyddasai, bu ddrwg dros ben ganddynt, ac aethant i hysbysu i’w harglwydd y cwbl a ddigwyddasai.
32
Yna galwodd ei arglwydd ef ato, ac medd wrtho, ‘Y gwas drwg, yr holl ddyled honno a faddeuais i ti, am i ti ymbil â mi;
33
oni ddylasit tithau drugarhau wrth dy gydwas, fel y trugarheais innau wrthyt ti?’
34
A’i arglwydd yn ei lid a’i traddododd i’r arteithwyr hyd oni thalai’r cwbl o’i ddyled.
35
Felly hefyd y gwna fy Nhad nefol i chwithau, oni faddeuwch bob un i’w frawd o’ch calon.”
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 19 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28