bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Matthew 6
Matthew 6
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 7 →
1
Gochelwch wneuthur eich cyfiawnder gerbron dynion er mwyn cael eich gweled ganddynt; onid e, nid oes dâl i chwi gan eich Tad sydd yn y nefoedd.
2
Gan hynny pan wnelych elusen, na utgana o’th flaen, megis y gwna’r rhagrithwyr yn y synagogau ac ar yr heolydd, fel y clodforer hwynt gan ddynion; yn wir meddaf i chwi, cawsant eu tâl.
3
Ond tydi pan wnelych elusen, na wyped dy law aswy pa beth a wna dy law ddehau,
4
fel y bo dy elusen di yn y dirgel; a’th Dad sy’n gweled yn y dirgel a dâl i ti.
5
A phan weddïoch, na fyddwch fel y rhagrithwyr; canys carant sefyll i weddïo yn y synagogau ac yng nghonglau’r heolydd, i’w dangos eu hunain i ddynion; yn wir meddaf i chwi, cawsant eu tâl.
6
Ond tydi, pan weddïych, dos i’th ystafell, ac wedi cau dy ddrws gweddia ar dy Dad sydd yn y dirgel; a’th Dad sy’n gweled yn y dirgel a dâl i ti.
7
Ac wrth weddïo na fyddwch siaradus fel y cenedlddynion; canys tybio y maent mai am eu haml eiriau y gwrandewir hwynt.
8
Nac ymdebygwch, ynteu, iddynt hwy; canys gŵyr eich Tad pa bethau sydd arnoch eu heisiau cyn i chwi ofyn iddo.
9
Fel hyn, ynteu, y gweddïwch chwi: ‘Ein Tad sydd yn y nefoedd, Santeiddier dy enw;
10
deled dy deyrnas; gwneler dy ewyllys, megis yn y nef, felly ar y ddaear.
11
Ein bara beunyddiol dyro i ni heddiw,
12
a maddau i ni ein dyledion, fel y maddeuasom ninnau i’n dyledwyr;
13
ac na ddwg ni i brofedigaeth, eithr gwared ni rhag drwg.’
14
Canys os maddeuwch i ddynion eu camweddau, fe faddau eich Tad nefol hefyd i chwithau;
15
eithr oni faddeuwch i ddynion, eich Tad chwaith ni faddau eich camweddau chwi.
16
A phan ymprydioch, na fyddwch fel y rhagrithwyr yn aflawen eich gwedd; canys difwyno’u hwynebau y maent, er mwyn ymddangos i ddynion fel ymprydwyr; yn wir meddaf i chwi, cawsant eu tâl.
17
Ond tydi, pan ymprydych, eneinia dy ben a golch dy wyneb,
18
rhag it ymddangos i ddynion fel ymprydiwr, eithr i’th Dad sydd yn y dirgel; a’th Dad sy’n gweled yn y dirgel a dâl i ti.
19
Na thrysorwch i chwi drysorau ar y ddaear, lle mae gwyfyn a rhwd yn difa, a lle mae lladron yn cloddio trwodd ac yn lladrata;
20
ond trysorwch i chwi drysorau yn y nef, lle nid oes na gwyfyn na rhwd yn difa, a lle nid oes ladron yn cloddio trwodd nac yn lladrata:
21
canys lle mae dy drysor, yno y bydd dy galon hefyd.
22
Lamp y corff yw’r llygad. Gan hynny os bydd dy lygad yn iawn, dy holl gorff a fydd yn olau;
23
Ond os bydd dy lygad yn ddrwg, dy holl gorff a fydd yn dywyll. Os ynteu’r goleuni ynot sydd dywyllwch, mor enfawr yw’r tywyllwch!
24
Ni ddichon neb wasanaethu dau arglwydd; canys un ai casâ’r naill a châr y llall, neu fe lŷn wrth y naill a dirmyga’r llall. Ni ellwch wasanaethu Duw a Mamon.
25
Am hynny meddaf i chwi, na phryderwch am eich bywyd, beth a fwytewch neu beth a yfwch; nac am eich corff, beth a wisgwch. Onid yw’r bywyd yn fwy na’r bwyd, a’r corff na’r dillad?
26
Edrychwch ar adar y nef; nid ydynt yn hau nac yn medi nac yn cywain i ysguboriau, ac eto y mae eich Tad nefol yn eu porthi hwy; onid ydych chwi’n amgenach o lawer na hwy?
27
A phwy ohonoch drwy bryderu a ddichon chwanegu hanner llath at ei oes?
28
A pham y pryderwch am ddillad? Ystyriwch lilïau’r maes pa fodd y tyfant; ni lafuriant ac ni nyddant;
29
ond meddaf i chwi, hyd yn oed Solomon yn ei holl ogoniant nid ymwisgodd fel un o’r rhain.
30
Ac os dillada Duw felly wellt y maes, y sydd heddiw, ac yfory a fwrir i’r ffwrn, onid llawer mwy chwychwi, O rai bychain eu ffydd?
31
Na phryderwch, ynteu, gan ddywedyd ‘Beth a fwytawn?’ neu ‘Beth a yfwn?’ neu ‘Beth a wisgwn?’
32
canys yr holl bethau hyn y mae’r cenhedloedd yn eu ceisio; canys gŵyr eich Tad nefol fod arnoch eisiau’r pethau hyn oll.
33
Ond ceisiwch yn gyntaf ei deyrnas a’i gyfiawnder ef, a’r pethau hyn oll a roddir i chwi’n ychwaneg.
34
Na phryderwch, ynteu, am yfory, canys yfory a ddwg ei bryder ei hun. Digon i’r diwrnod ei helbul.
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 7 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28