bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Matthew 17
Matthew 17
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 16
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 18 →
1
Ac ymhen chwe diwrnod cymer yr Iesu Bedr ac Iago ac Ioan ei frawd ef, a dwg hwynt i fynydd uchel o’r neilltu.
2
A gweddnewidiwyd ef yn eu gwydd hwynt; a disgleiriodd ei wyneb fel yr haul, a’i ddillad a aeth yn wyn fel y goleuni.
3
Ac wele, ymddangosodd iddynt Moses ac Elïas yn ymddiddan ag ef.
4
A llefarodd Pedr a dywedodd wrth yr Iesu, “Arglwydd, da yw ein bod ni yma; os mynni, mi wnaf yma dair pabell, i ti un, ac i Foses un, ac i Elïas un.”
5
Ac yntau eto’n llefaru, dyna gwmwl golau yn eu cysgodi hwynt, a dyma lef o’r cwmwl yn dywedyd, “Hwn yw fy Mab annwyl a ryngodd fy modd; gwrandewch arno ef.”
6
A phan glywodd y disgyblion syrthiasant ar eu hwynebau, ac ofnasant yn ddirfawr.
7
A daeth yr Iesu atynt, a chan gyffwrdd â hwynt dywedodd, “Codwch ac nac ofnwch.”
8
Ac wedi dyrchafu eu llygaid ni welsant neb ond Iesu ei hun yn unig.
9
Ac wrth iddynt ddyfod i lawr o’r mynydd, gorchmynnodd yr Iesu iddynt, “Na ddywedwch i neb y weledigaeth hyd oni chyfodo Mab y dyn o feirw.”
10
A gofynnodd y disgyblion iddo, “Paham, ynteu, y dywed yr ysgrifenyddion fod yn rhaid i Elïas ddyfod yn gyntaf?”
11
Atebodd yntau, “ Elias yn wir sy’n dyfod ac a adfer bopeth;
12
ond meddaf i chwi, fe ddaeth Elïas eisoes, ac nis adnabuant ef, eithr gwnaethant ag ef yr hyn a fynasant. Felly hefyd y mae Mab y dyn ar ddioddef ganddynt.”
13
Yna deallodd y disgyblion mai am Ioan Fedyddiwr y dywedasai wrthynt.
14
Ac wedi eu dyfod at y dyrfa daeth ato ddyn gan benlinio iddo,
15
a dywedyd, “Arglwydd, tosturia wrth fy mab, canys y mae’n lloerig ac yn ddrwg ei gyflwr; mynych y syrth i’r tân, a mynych i’r dŵr.
16
A dygais ef at dy ddisgyblion, ac ni allasant ei iacháu.”
17
Atebodd yr Iesu, “O genhedlaeth ddiffydd a gŵyrgam, pa hyd y byddaf gyda chwi? Pa hyd y’ch goddefaf? Dygwch ef yma i mi.”
18
A cheryddodd yr Iesu ef, ac aeth y cythraul allan ohono; ac iachawyd y bachgen o’r awr honno.
19
Yna daeth y disgyblion at yr Iesu o’r neilltu, a dywedasant, “Paham na allasom ni ei fwrw allan?”
20
Medd yntau wrthynt, “Oherwydd prinder eich ffydd; canys yn wir meddaf i chwi, os bydd gennych ffydd fel hedyn mwstard, chwi ddywedwch wrth y mynydd hwn, ‘Symud oddi yma draw,’ ac fe symuda; ac ni fydd dim yn amhosibl i chwi.”
22
Ac a hwy’n cyniwair yng Ngalilea dywedodd yr Iesu wrthynt, “Y mae Mab y dyn ar fedr cael ei draddodi i ddwylo dynion,
23
a lladdant ef, ac ar y trydydd dydd fe gyfyd.” A thristáu a wnaethant yn ddirfawr.
24
Ac wedi eu dyfod i Gapernaum, daeth casglyddion y ddeuswllt at Bedr, a dywedasant, “Oni fydd eich athro’n talu’r ddeuswllt?”
25
Medd ef, “Bydd.” Ac wedi iddo fynd i’r tŷ, achubodd yr Iesu ei flaen gan ddywedyd, “Beth a debygi di, Simon? Gan bwy y cymer brenhinoedd y ddaear drethi neu deyrnged? Ai gan eu meibion, ai gan estroniaid?”
26
A phan ddywedodd “Gan estroniaid,” meddai’r Iesu wrtho, “Felly y mae’r meibion yn rhydd.
27
Ond rhag i ni beri tramgwydd iddynt, dos i’r môr a bwrw fach, a chymer y pysgodyn cyntaf a ddaw i fyny, ac wedi agor ei enau ti gei ddarn pedwar swllt; cymer hwnnw, a dyro iddynt drosof i a thithau.”
← Chapter 16
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 18 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28