bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Matthew 23
Matthew 23
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 22
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 24 →
1
Yna llefarodd yr Iesu wrth y tyrfaoedd a’i ddisgyblion,
2
gan ddywedyd, “Yng nghadair Moses yr eisteddodd yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid.
3
Pob peth, gan hynny, a ddywedant wrthych, gwnewch a chedwch ef, ond yn ôl eu gweithredoedd na wnewch; canys dywedant, ac ni wnânt.
4
A rhwymant feichiau trymion a’u dodi ar ysgwyddau dynion, a hwy eu hunain ni fynnant eu symud â’u bys.
5
A’u holl weithredoedd a wnânt er mwyn cael eu gweled gan ddynion; canys lledant eu phylacterau a helaethant eu taselau,
6
a charant y brif sedd yn y gwleddoedd a’r prif gadeiriau yn y synagogau
7
a’r cyfarchiadau yn y marchnadoedd, a’u galw gan ddynion, Rabbi.
8
Eithr na’ch galwer chwi Rabbi; canys un athro sydd i chwi, a chwithau oll, brodyr ydych.
9
Ac na elwch neb yn dad i chwi ar y ddaear; canys un Tad sydd i chwi, yr un nefol.
10
Ac na’ch galwer yn hyfforddwyr, oherwydd un hyfforddwr sydd i chwi, y Crist.
11
A’r mwyaf ohonoch, bydded i chwi’n was.
12
A phwy bynnag a’i dyrchafo’i hun a ostyngir, a phwy bynnag a’i gostyngo’i hun a ddyrchefir.
13
Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, am eich bod yn cloi teyrnas nefoedd yn erbyn dynion; canys chwi nid ewch i mewn, a’r rhai sydd yn ceisio myned i mewn, ni edwch iddynt fyned.
15
Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, am eich bod yn amgylchu’r môr a’r tir i wneuthur un proselyt, a phan fyddo wedi ei wneuthur gwnewch ef yn gymaint ddwywaith o fab Gehenna â chwi.
16
Gwae chwi, arweinwyr dall, sy’n dywedyd, ‘Y neb a dyngo i’r deml, ni olyga ddim; ond y neb a dyngo i aur y deml, y mae arno ddyled.’
17
Ffyliaid a deillion! Canys pa un sydd fwyaf, yr aur ai’r deml a santeiddiodd yr aur?
18
Eto, ‘Y neb a dyngo i’r allor, ni olyga ddim; ond y neb a dyngo i’r rhodd sydd arni, y mae arno ddyled.’
19
Ddeillion! Canys pa un sydd fwyaf, y rhodd ai’r, allor sy’n santeiddio’r rhodd?
20
A dyngo, ynteu, i’r allor, tyngu y mae iddi hi ac i bob peth sydd arni;
21
ac a dyngo i’r deml, tyngu y mae iddi hi ac i’r hwn sy’n preswylio ynddi;
22
ac a dyngo i’r nef, tyngu y mae i orsedd Duw ac i’r hwn sy’n eistedd arni.
23
Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, am eich bod yn degymu’r mintys a’r ffenigl a’r cwmin, ac wedi gadael heibio’r pethau trymach sydd yn y gyfraith, barn a thrugaredd a ffyddlondeb; dylid gwneuthur y naill heb adael heibio’r lleill.
24
Arweinwyr dall, sy’n hidlo’r gwybedyn ac yn llyncu’r camel!
25
Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, am eich bod yn glanhau’r tu allan i’r cwpan a’r plât, ond o’r tu mewn llawn ydynt o ladrad a thrachwant.
26
Pharisead dall! Glanha’n gyntaf y tu mewn i’r cwpan, fel y delo’r tu allan iddo hefyd yn lân.
27
Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, canys ymdebygwch i feddau wedi eu gwyngalchu; oddi allan ymddangosant yn deg, ond oddi mewn llawn ydynt o esgyrn y meirw a phob aflendid.
28
Felly chwithau hefyd, oddi allan ymddangoswch i ddynion yn gyfiawn, ond oddi mewn yr ydych yn llawn rhagrith ac anghyfraith.
29
Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, am eich bod yn adeiladu beddau’r proffwydi ac yn addurno beddrodau’r rhai cyfiawn,
30
ac yn dywedyd, ‘Pe buasem ni byw yn nyddiau ein tadau, ni buasem gyfrannog â hwynt yng ngwaed y proffwydi.’
31
Ac felly tystiolaethwch amdanoch eich hunain mai meibion ydych i’r rhai a laddodd y proffwydi.
32
Cyflawnwch chwithau hefyd fesur eich tadau.
33
Seirff, epil gwiberod, pa fodd y dihengwch rhag eich dedfrydu i Gehenna?
34
Am hynny wele fi’n anfon atoch broffwydi a doethion ac ysgrifenyddion; rhai ohonynt a leddwch a’u croeshoelio, ac eraill a ffrewyllwch yn eich synagogau a’u herlid o ddinas i ddinas;
35
fel y delo arnoch chwi bob tywallt gwaed rhai cyfiawn ar y ddaear o waed Abel gyfiawn hyd waed Sacharïas fab Barachïas a laddasoch rhwng y cysegr a’r allor.
36
Yn wir meddaf i chwi, daw hyn oll ar y genhedlaeth hon.
37
Gaersalem, Gaersalem, sy’n lladd y proffwydi a llabyddio’r rhai a anfonwyd ati — pa sawl gwaith y mynnais gasglu dy blant ynghyd, fel y casgl iâr ei chywion dan ei hadenydd, ac nis mynnech!
38
Wele, eich tŷ chwi a adewir.
39
Canys meddaf i chwi, ni’m gwelwch i o hyn allan hyd oni ddywedoch, Bendigedig yw’r un sy’n dyfod yn enw’r Arglwydd.”
← Chapter 22
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 24 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28