bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Matthew 19
Matthew 19
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 20 →
1
A phan orffennodd yr Iesu’r geiriau hyn, fe symudodd o Galilea i ororau Iwdea tu hwnt i’r Iorddonen.
2
A dilynodd tyrfaoedd lawer ef, ac fe’u hiachaodd hwynt yno.
3
A daeth ato Phariseaid i’w brofi gan ddywedyd, “Ai iawn i ddyn ysgar â’i wraig am bob rhyw achos?”
4
Atebodd yntau a dywedodd, “Oni ddarllenasoch i’r Crëwr o’r dechrau eu gwneuthur yn wryw a benyw,
5
ac iddo ddywedyd Oherwydd hyn y gedy dyn ei dad a’i fam, ac y glŷn wrth ei wraig, a bydd y ddau yn un cnawd?
6
Felly nid ydynt mwyach ddau ond un cnawd. Y peth gan hynny a ieuodd Duw, na wahaned dyn.”
7
Meddant wrtho, “Paham, ynteu, y gorchmynnodd Moses roi llythyr ysgar,
8
a’i gollwng hi ymaith?” Medd ef wrthynt, “Moses, oherwydd eich calon-galedwch chwi, a ganiataodd i chwi ysgar â’ch gwragedd; ond ni bu felly o’r dechreuad.
9
Meddaf i chwi, pwy bynnag a ysgaro â’i wraig oddieithr am anniweirdeb, ac a briodo un arall, y mae’n godinebu.”
10
Medd ei ddisgyblion wrtho, “Os felly y mae perthynas gŵr â’i wraig, ni thâl priodi.”
11
Dywedodd yntau wrthynt, “Nid pawb a all dderbyn y gair hwn, eithr y rhai y rhoddwyd iddynt.
12
Canys y mae eunuchiaid a aned felly o groth eu mam, ac y mae eunuchiaid a wnaed yn eunuchiaid gan ddynion, ac y mae eunuchiaid a’u gwnaeth eu hunain yn eunuchiaid er mwyn teyrnas nefoedd. Y neb a ddichon ei dderbyn, derbynied.”
13
Yna dygwyd ato blant bach, fel y dodai ei ddwylo arnynt, a gweddïo; a’r disgyblion a’u ceryddodd hwynt.
14
Ond yr Iesu a ddywedodd, “Gedwch i’r plant bach ddyfod ataf i, ac na rwystrwch hwynt; canys rhai fel hwy biau deyrnas nefoedd.”
15
Ac wedi dodi ei ddwylo arnynt, fe aeth oddi yno.
16
A dyna un yn dyfod ato ac yn dywedyd wrtho, “Athro, pa dda a wnaf i gael bywyd tragwyddol?”
17
Dywedodd yntau wrtho, “Paham yr holi fi am y da? Un yn unig sydd dda; ond os mynni fyned i mewn i’r bywyd, cadw’r gorchmynion.”
18
Medd ef wrtho, “Pa rai?” Meddai’r Iesu, “Na ladd, Na odineba, Na ladrata, Na chamdystiolaetha,
19
Anrhydedda dy dad a’th fam, a Châr dy gymydog fel ti dy hun.”
20
Medd y dyn ieuanc wrtho, “Y rhain oll a gedwais; beth sydd eto ar ôl ynof?”
21
Meddai’r Iesu wrtho, “Os mynni fod yn berffaith, dos, gwerth yr hyn sy gennyt, a dyro i’r tlodion, a chei drysor yn y nefoedd; a thyred, dilyn fi.”
22
Pan glywodd y dyn ieuanc y gair, aeth ymaith yn ofidus; canys yr oedd yn berchen meddiannau lawer.
23
A dywedodd yr Iesu wrth ei ddisgyblion, “Yn wir meddaf i chwi mai’n anodd yr â goludog i mewn i deyrnas nefoedd.
24
A thrachefn meddaf i chwi, Haws yw i gamel fynd trwy grau nodwydd na goludog i mewn i deyrnas Dduw.”
25
A phan glywodd y disgyblion, synnent yn ddirfawr, gan ddywedyd, “Pwy ynteu a all gael ei gadw?”
26
Edrychodd yr Iesu arnynt a dywedodd, “Ym myd dynion y mae hyn yn amhosibl, ond ym myd Duw popeth sy bosibl.”
27
Yna atebodd Pedr iddo, “Dyma ni wedi gadael popeth a’th ddilyn di; beth ynteu a fydd i ni?”
28
A dywedodd yr Iesu wrthynt, “Yn wir meddaf i chwi, cewch chwi a’m dilynodd i, yn yr adenedigaeth pan eisteddo Mab y dyn ar orsedd ei ogoniant, eistedd chwithau ar ddeuddeg gorsedd i farnu deuddeg llwyth Israel.
29
A phob un a adawodd dai neu frodyr neu chwiorydd neu dad neu fam neu blant neu diroedd er mwyn fy enw i a dderbyn lawer gwaith cymaint, a bywyd tragwyddol a etifedda.
30
Ond llawer o’r rhai blaenaf a fydd yn olaf, ac o’r rhai olaf yn flaenaf.
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 20 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28