bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Matthew 15
Matthew 15
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 16 →
1
Yna daw at yr Iesu o Gaersalem Phariseaid ac ysgrifenyddion, gan ddywedyd,
2
“Paham y trosedda dy ddisgyblion di draddodiad yr hynafiaid? Canys ni olchant eu dwylo pan fwytaont fara.”
3
Atebodd yntau iddynt, “Paham y troseddwch chwithau orchymyn Duw oherwydd eich traddodiad chwi?
4
Canys dywedodd Duw, Anrhydedda dy dad a’th fam, ac a felltithio dad neu fam lladder ef yn farw.
5
Ond dywedwch chwi, Pwy bynnag a ddywedo wrth ei dad neu ei fam, Offrwm yw hynny o fudd a gawsit gennyf i, nid yw i anrhydeddu ei dad neu ei fam;
6
a gwnaethoch air Duw’n ddirym oherwydd eich traddodiad chwi.
7
Ragrithwyr, gwych y proffwydodd Eseia amdanoch,
8
Y bobl hyn â’u gwefusau a’m hanrhydedda, ond eu calon sydd bell oddi wrthyf;
9
ond yn ofer y’m haddolant, gan ddysgu fel athrawiaethau osodiadau dynion.”
10
Ac wedi galw ato’r dyrfa, dywedodd wrthynt, “Gwrandewch a deellwch:
11
nid yr hyn sy’n mynd i mewn i’r genau sy’n halogi dyn, eithr yr hyn sy’n dyfod allan o’r genau, hynny sy’n halogi dyn.”
12
Yna daeth y disgyblion ato, a dywedyd wrtho, “A wyddost ti i’r Phariseaid dramgwyddo wrth glywed yr ymadrodd?”
13
Atebodd yntau, “Pob planhigyn nis plannodd fy Nhad nefol a ddiwreiddir.
14
Gedwch iddynt: arweinwyr deillion i ddeillion ydynt; ac os dall a dywys ddall, syrthiant ill dau i bwll.”
15
Atebodd Pedr a dywedodd wrtho, “Eglura i ni’r ddameg.”
16
Dywedodd yntau, “A ydych chwithau o hyd yn ddi-ddeall?
17
Oni welwch chwi fod popeth a êl i mewn i’r genau yn mynd i’r cylla, ac y bwrir ef allan i’r geudy?
18
Ond y pethau sy’n dyfod allan o’r genau, o’r galon y deuant, a’r rheini sy’n halogi dyn.
19
Canys o’r galon y daw allan feddyliau drwg, llofruddiaethau, godinebau, anniweirdeb, lladradau, gau-dystiolaethau, cableddau.
20
Dyna’r pethau sy’n halogi dyn; ond bwyta â dwylo heb eu golchi nid yw’n halogi dyn.”
21
Ac aeth yr Iesu oddi yno, ac ymneilltuodd i dueddau Tyrus a Sidon.
22
A dyna wraig o Gananëes o’r gororau hynny yn dyfod allan ac yn gweiddi gan ddywedyd, “Tosturia wrthyf, Arglwydd, fab Dafydd; blinir fy merch yn arw gan gythraul.” Yntau nid atebodd iddi air.
23
A daeth ei ddisgyblion ymlaen, a gofyn iddo, “Gollwng hi ymaith, canys y mae hi’n llefain o’n hôl.”
24
Atebodd yntau, a dywedodd, “Ni’m danfonwyd ond at ddefaid colledig tŷ Israel.”
25
Daeth hithau, ac ymgrymu iddo gan ddywedyd, “Syr, cymorth fi.”
26
Atebodd yntau, “Nid yw’n deg cymryd bara’r plant a’i daflu i’r cŵn.”
27
Atebodd hithau, “Ydyw, Syr; canys y mae hyd yn oed y cŵn yn bwyta o’r briwsion sy’n syrthio oddi ar fwrdd eu meistri.”
28
Yna atebodd yr Iesu a dywedodd wrthi, “O wraig, mawr yw dy ffydd; boed i ti fel y mynni.” Ac iachawyd ei merch o’r awr honno.
29
A symudodd yr Iesu oddi yno a daeth gerllaw môr Galilea, ac wedi esgyn i’r mynydd eisteddodd yno.
30
A daeth ato dyrfaoedd lawer, a chanddynt gyda hwynt gloffion, anafusion, deillion, mudion, a llawer eraill, a bwriasant hwynt wrth ei draed ef; ac fe’u hiachaodd hwynt;
31
nes synnu o’r dyrfa weled mudion yn llefaru, anafusion yn iach, a chloffion yn rhodio a deillion yn gweled; a gogoneddent Dduw Israel.
32
A galwodd yr Iesu ei ddisgyblion ato a dywedodd, “Y mae’n ddrwg gan fy nghalon dros y dyrfa, canys yn awr y maent ers tridiau’n tario gyda mi, ac nid oes ganddynt ddim i’w fwyta; a’u gollwng ar eu cythlwng nis mynnaf, rhag iddynt lewygu ar y ffordd.”
33
Ac medd ei ddisgyblion wrtho, “O ba le y cawn ni mewn diffeithwch ddigon o fara i ddiwallu cymaint o dyrfa?”
34
Ac medd yr Iesu wrthynt, “Pa sawl torth sy gennych?” Dywedasant hwythau, “Saith, ac ychydig o fân bysgod.”
35
Ac wedi gorchymyn i’r dyrfa eistedd ar y ddaear,
36
fe gymerth y saith dorth a’r pysgod, ac wedi diolch, torrodd hwynt, a’u rhoi i’r disgyblion, a’r disgyblion yn rhoi i’r tyrfaoedd.
37
A bwytaodd pawb ac fe’u diwallwyd, a gweddill y darnau a godasant yn saith gawellaid llawn.
38
A’r bwytawyr oedd bedair mil o wŷr, heblaw gwragedd a phlant.
39
Ac wedi iddo ollwng y tyrfaoedd, fe aeth i’r llong a daeth i ororau Magadan.
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 16 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28