bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Matthew 12
Matthew 12
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 13 →
1
Yr amser hwnnw yr aeth yr Iesu ar y Sabbath drwy’r meysydd ŷd; a daeth eisiau bwyd ar ei ddisgyblion, a dechreuasant dynnu tywys a bwyta.
2
A’r Phariseaid wrth weled a ddywedodd wrtho, “Dyma dy ddisgyblion yn gwneuthur yr hyn ni ddylid ei wneuthur ar y Sabbath.”
3
Dywedodd yntau wrthynt, “Oni ddarllenasoch beth a wnaeth Dafydd pan ddaeth eisiau bwyd arno a’r rhai oedd gydag ef?
4
pa fodd yr aeth i mewn i dŷ Dduw, ac y bwytasant y torthau gosod, peth ni ddylasai ef ei fwyta, na’r rhai a oedd gydag ef, ond yr offeiriaid yn unig?
5
Neu oni ddarllenasoch yn y Gyfraith fod yr offeiriaid ar y Sabbath yn y deml yn halogi’r Sabbath, ac eto eu bod yn ddieuog?
6
Ac meddaf i chwi, y mae mwy na’r deml yma!
7
Ond pe gwybuasech beth yw Trugaredd a fynnaf ac nid aberth, ni chondemniasech y dieuog.
8
Canys arglwydd y Sabbath yw Mab y dyn.”
9
Ac ymadawodd oddi yno, a daeth i’w synagog hwynt.
10
A dyma ddyn â llaw wywedig. A gofynasant iddo, “A ddylid iacháu ar y Sabbath?” fel y cyhuddent ef.
11
Dywedodd yntau wrthynt, “Pa ddyn ohonoch a chanddo un ddafad, os syrth honno ar y Sabbath i bwll, ni chydia ynddi a’i chodi?
12
Pa faint amgenach, ynteu, ydyw dyn na dafad? Felly fe ddylid gwneuthur da ar y Sabbath.”
13
Yna medd ef wrth y dyn, “Estyn dy law.” Ac fe’i hestynnodd, ac adferwyd hi’n iach fel y llall.
14
Ac aeth y Phariseaid allan, ac ymgyngorasant yn ei erbyn, pa fodd y difethent ef.
15
Ond gwybu’r Iesu, a chiliodd oddi yno. A dilynodd llawer ef, ac fe’u hiachaodd hwynt oll,
16
a rhybuddiodd hwynt nas amlygent ef,
17
fel y cyflawnid yr hyn a lefarwyd trwy Eseia’r proffwyd,
18
“Wele fy ngwas yr hwn a ddewisais, fy anwylyd a fu wrth fodd fy enaid; gosodaf fy ysbryd arno, a barn i’r cenhedloedd a gyhoedda.
19
Nid ymrafaelia ac ni chrochlefa, ac ni chlyw neb ei lais ef yn yr heolydd.
20
Corsen ysig nis tyr, a llin yn mygu nis diffydd, hyd oni ddygo’r farn i fuddugoliaeth.
21
Ac yn ei enw ef y gobeithia cenhedloedd.”
22
Yna y dygwyd ato un cythreulig, dall a mud; ac fe’i hiachaodd nes bod y mudan yn llefaru ac yn gweled.
23
A synnai’r holl dyrfaoedd, a dywedent, “Ai hwn yw mab Dafydd?”
24
A chlywodd y Phariseaid, a dywedasant, “Nid yw hwn yn bwrw allan y cythreuliaid ond trwy Feelsebwl, pennaeth y cythreuliaid.”
25
Yntau, yn gwybod eu meddyliau, a ddywedodd wrthynt, “Pob teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun a anghyfaneddir; a phob dinas neu dŷ wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun ni saif.
26
Ac os Satan a fwrw allan Satan, yn ei erbyn ei hun yr ymrannodd; pa fodd, ynteu, y saif ei deyrnas?
27
Ac os drwy Feelsebwl y bwriaf i’r cythreuliaid allan, trwy bwy y bwrw eich meibion chwi hwynt allan? Am hynny byddant hwy yn farnwyr arnoch.
28
Ond os drwy ysbryd Duw yr ydwyf i yn bwrw’r cythreuliaid allan, yna daeth teyrnas Dduw arnoch.
29
Neu pa fodd y dichon neb fynd i mewn i dŷ’r cadarn ac ysbeilio’i ddodrefn ef, heb yn gyntaf rwymo’r cadarn, ac yna ysbeilio’i dŷ ef?
30
Y neb nid yw gyda mi, yn fy erbyn y mae, a’r neb nid yw’n casglu gyda mi sy’n gwasgaru.
31
Am hyn meddaf i chwi, pob pechod a chabledd a faddeuir i ddynion, ond y cabledd yn erbyn yr Ysbryd nis maddeuir.
32
A phwy bynnag a ddywedo air yn erbyn Mab y dyn, fe faddeuir iddo; ond pwy bynnag a ddywedo yn erbyn yr Ysbryd Glân, ni faddeuir iddo nac yn yr oes hon nac yn yr oes a ddaw.
33
Naill ai cyfrifwch fod y pren yn dda a’i ffrwyth yn dda, ai cyfrifwch fod y pren yn sâl a’i ffrwyth yn sâl; canys wrth ei ffrwyth yr adweinir y pren.
34
Epil gwiberod, pa fodd y gellwch lefaru pethau da a chwithau’n ddrwg? Canys o orlawnder y galon y llefaraf genau.
35
Y dyn da o’i drysor da a ddwg allan bethau da, a’r dyn drwg o’i drysor drwg a ddwg allan bethau drwg.
36
Ac meddaf i chwi, pob gair ofer a lefaro dynion, rhoddant gyfrif amdano yn nydd y farn.
37
Canys wrth dy eiriau y’th gyfiawnheir, ac wrth dy eiriau y’th gondemnir.”
38
Yna’r atebodd rhai o’r ysgrifenyddion a’r Phariseaid ef, gan ddywedyd; “Athro, dymunwn weled arwydd gennyt.”
39
Atebodd yntau iddynt, “Cenhedlaeth ddrwg a godinebus sy’n ceisio arwydd, ac arwydd nis rhoddir iddi oddieithr arwydd Ionas y proffwyd.
40
Canys fel y bu Ionas ym mol y morfil dridiau a theirnos, felly y bydd Mab y dyn yng nghalon y ddaear dridiau a theirnos.
41
Gwŷr o Ninefeaid a saif i fyny yn y farn gyda’r genhedlaeth hon ac a’i condemnia; canys edifarhasant hwy wrth bregeth Ionas, ac wele fwy nag Ionas yma.
42
Brenhines y dehau a gyfyd yn y farn gyda’r genhedlaeth hon ac ai condemnia; canys daeth hi o eithafoedd y ddaear i glywed doethineb Solomon, ac wele fwy na Solomon yma.
43
Pan êl ysbryd aflan allan o ddyn, fe grwydro drwy leoedd sychion gan geisio egwyl, ac nis caiff.
44
Yna fe ddywed, ‘Dychwelaf i’m tŷ y deuthum allan ohono’; ac wedi dyfod fe’i caiff yn wag ac yn lân ac yn ddestlus.
45
Yna yr â, ac y cymer gydag ef saith o ysbrydion eraill gwaeth nag ef ei hun, ac ânt i mewn a chartrefant yno; ac y mae diwedd y dyn hwnnw yn waeth na’i ddechreuad. Felly y bydd hefyd i’r genhedlaeth ddrwg hon.”
46
Ac ef eto’n llefaru wrth y tyrfaoedd, dyma’i fam a’i frodyr yn sefyll y tu allan ac yn ceisio siarad ag ef.
47
[A dywedodd rhywun wrtho, “Dyma dy fam a’th frodyr yn sefyll y tu allan ac yn ceisio siarad â thi.”]
48
Atebodd yntau i’r hwn a lefarai wrtho, “Pwy yw fy mam, a phwy yw fy mrodyr?”
49
Ac estynnodd ei law at ei ddisgyblion, a dywedodd, “Dyma fy mam a’m brodyr;
50
canys pwy bynnag a wnêl ewyllys fy Nhad sydd yn y nefoedd, ef sy frawd i mi, a chwaer, a mam.”
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 13 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28