bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Matthew 28
Matthew 28
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 27
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
1
Ac yn hwyr ar y Sabbath, a hi’n nesau at ddydd cyntaf yr wythnos, daeth Mair o Fagdala a’r Fair arall i edrych y bedd.
2
Ac wele, bu daeargryn mawr; canys disgynasai angel yr Arglwydd o’r nef, a dyfod a threiglo’r maen ymaith, ac yr oedd yn eistedd arno.
3
Yr oedd ei wedd fel mellten, a’i wisg yn wen fel eira.
4
A rhag ei ofn crynodd y gwylwyr, ac aethant fel rhai meirw.
5
A llefarodd yr angel a dywedodd wrth y gwragedd, “Peidiwch chwi ag ofni; canys gwn mai’r Iesu croeshoeliedig a geisiwch.
6
Nid yw yma; canys cyfododd, megis y dywedodd; dowch, gwelwch y fan lle gorweddai.
7
Ac ewch ar frys a dywedwch wrth ei ddisgyblion, ‘Cyfododd oddi wrth y meirw, ac wele, y mae’n mynd o’ch blaen i Galilea; yno y gwelwch ef.’ Wele, dywedais wrthych.”
8
Ac aethant ymaith ar frys oddi wrth y bedd mewn ofn a llawenydd mawr, a rhedasant i fynegi i’w ddisgyblion.
9
Ac wele Iesu yn eu cyfarfod a dywedyd, “Henffych well.” Daethant hwythau ato, ac ymafael yn ei draed, ac ymgrymu iddo.
10
Yna medd yr Iesu wrthynt, “Peidiwch ag ofni; ewch, mynegwch i’m brodyr am iddynt fyned ymaith i Galilea, ac yno y’m gwelant.”
11
A phan oeddent ar eu ffordd, dyma rai o’r gwarchodlu yn mynd i mewn i’r ddinas, ac yn mynegi i’r archoffeiriaid yr holl bethau a ddigwyddodd.
12
Ac wedi iddynt ymgynnull gyda’r henuriaid ac ymgynghori, rhoesant gryn swm o arian i’r milwyr,
13
gan ddywedyd, “Dywedwch, ‘Ei ddisgyblion a ddaeth yn y nos, a’i ddwyn ef, pan oeddem ni’n cysgu.’
14
Ac os codir hyn o flaen y rhaglaw, fe’i perswadiwn ni ef, a pharwn na bydd rhaid i chwi ofalu.”
15
Cymerasant hwythau’r arian, a gwnaethant fel y cyfarwyddwyd hwynt. A thaenwyd yr hanes hwn ymhlith yr Iddewon hyd y dydd heddiw.
16
Ac aeth yr un disgybi ar ddeg i Galilea, i’r mynydd lle y trefnasai’r Iesu iddynt fyned;
17
a phan welsant ef ymgrymasant iddo; ond amau a wnaeth rhai.
18
A daeth yr Iesu atynt, a llefaru wrthynt, gan ddywedyd, “Rhoddwyd i mi lawn awdurdod yn y nef ac ar y ddaear.
19
Ewch, ynteu, a gwnewch ddisgyblion o’r holl genhedloedd, gan eu bedyddio i enw y Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glân,
20
gan ddysgu iddynt gadw yr holl orchmynion a roddais i chwi. Ac wele, yr wyf i gyda chwi bob dydd hyd derfyniad yr oes.”
← Chapter 27
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28