bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Matthew 7
Matthew 7
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 8 →
1
Na fernwch, fel na’ch barner; canys â’r farn y bernwch y’ch bernir, ac â’r mesur y mesurwch y mesurir i chwi.
3
A pham y sylwi ar y fflewyn sydd yn llygad dy frawd, ac nad ystyri’r trawst sydd yn dy lygad di?
4
Neu pa fodd y dywedi wrth dy frawd, ‘Gad imi dynnu’r fflewyn o’th lygad,’ a dyna’r trawst yn dy lygad di?
5
Ragrithiwr, tyn yn gyntaf y trawst o’th lygad, ac yna y gweli’n glir i dynnu’r fflewyn o lygad dy frawd.
6
Na rowch y peth sy santaidd i’r cŵn, ac na theflwch eich perlau o flaen y moch, rhag iddynt eu sathru dan eu traed, a throi a’ch rhwygo chwi.
7
Gofynnwch, ac fe roddir i chwi; ceisiwch, a chwi gewch; curwch, ac fe agorir i chwi.
8
Canys pawb a ofyn a dderbyn, a’r neb a gais a gaiff, ac i’r neb a gura yr agorir.
9
Neu ba ddyn sydd ohonoch, y gofyn ei fab iddo am dorth, — a ddyry garreg iddo?
10
neu os gofyn iddo am bysgodyn, — a ddyry sarff iddo?
11
Os chwi, ynteu, a chwithau’n ddrwg, a wyddoch sut i roi rhoddion da i’ch plant, pa faint mwy y rhydd eich Tad sydd yn y nefoedd bethau da i’r rhai a ofyn iddo?
12
Popeth, ynteu, a fynnoch i ddynion eu gwneuthur i chwi, gwnewch chwithau felly iddynt hwy; canys hyn yw’r gyfraith a’r proffwydi.
13
Ewch i mewn trwy’r porth cul; canys eang yw’r porth a llydan yw’r ffordd sy’n arwain i ddistryw, a llawer yw’r rhai sy’n mynd i mewn ar hyd-ddi;
14
canys cul yw’r porth a chyfyng yw’r ffordd sy’n arwain i’r bywyd, ac ychydig yw’r rhai sy’n cael hyd iddi.
15
Gochelwch y gau broffwydi, sy’n dyfod atoch yng ngwisgoedd defaid, ond oddi mewn sy’n lleiddiaid rheibus.
16
Wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt. Yn sicr ni chasgl neb rawnwin oddi ar ddrain neu ffigys oddi ar ysgall?
17
Felly pob pren da a rydd ffrwythau da, ond y pren sâl a rydd ffrwythau gwael.
18
Ni all pren da ddwyn ffrwythau gwael, na phren sâl ddwyn ffrwythau da.
19
Pob pren ni roddo ffrwyth da a dorrir i lawr, ac a deflir yn tân.
20
Gan hynny wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt.
21
Nid pob un sy’n dywedyd wrthyf, ‘Arglwydd, Arglwydd,’ a â i mewn i deyrnas nefoedd, ond y neb a wnêl ewyllys fy Nhad sydd yn y nefoedd.
22
Llawer a ddywed wrthyf yn y dydd hwnnw, ‘Arglwydd, Arglwydd, oni phroffwydasom yn dy enw, a bwrw allan gythreuliaid yn dy enw, a gwneuthur grymusterau lawer yn dy enw?’
23
Ac yna y cyfaddefaf wrthynt, ‘Ni’ch adnabûm chwi erioed; ewch ymaith oddi wrthyf, weithredwyr anghyfraith.’
24
Pob un, ynteu, a glyw fy ngeiriau hyn, ac a’u gwna, a gyffelybir i ŵr call a adeiladodd ei dŷ ar y graig;
25
a disgynnodd y glaw, a daeth y llifogydd, a chwythodd y gwyntoedd, a syrthiasant ar y tŷ hwnnw, ac ni syrthiodd, canys sylfaenesid ef ar y graig.
26
A phawb a glyw fy ngeiriau hyn, ac nis gwna, a gyffelybir i ŵr ffôl a adeiladodd ei dŷ ar y tywod;
27
a disgynnodd y glaw, a daeth y llifogydd, a chwythodd y gwyntoedd a churasant ar y tŷ hwnnw, ac fe syrthiodd, a’i gwymp a fu fawr.”
28
A phan orffennodd yr Iesu’r geiriau hyn fe synnai’r torfeydd at ei ddysgeidiaeth;
29
canys yr oedd yn eu dysgu hwynt fel un ag awdurdod ganddo, ac nid fel eu hysgrifenyddion hwy.
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 8 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28