bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Matthew 2
Matthew 2
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 3 →
1
Wedi geni’r Iesu ym Methlehem Iwdea yn nyddiau Herod frenin, dyma ddewiniaid o’r dwyrain yn dyfod i Gaersalem,
2
gan ddywedyd, “Pa le mae’r hwn a aned yn Frenin yr Iddewon? Canys gwelsom ei seren ef pan gododd, a daethom i’w addoli ef.”
3
A phan glywodd y brenin Herod, fe’i cyffrowyd, a holl Gaersalem gydag ef;
4
ac wedi casglu ynghyd yr holl archoffeiriaid ac ysgrifenyddion y bobl, ymofynnodd â hwynt pa le y genid y Crist.
5
Dywedasant hwythau wrtho, “Ym Methlehem Iwdea; canys fel hyn y mae’n ysgrifenedig drwy’r proffwyd:
6
A thithau, Fethlehem tir Iwda, nid lleiaf o gwbl wyt ymhlith llywodraethwyr Iwda; canys ohonot ti y daw Arweinydd, ac ef a fugeilia fy mhobl Israel.”
7
Yna, wedi i Herod alw’r dewiniaid yn ddirgel, mynnodd wybod yn fanwl ganddynt am amser ymddangosiad y seren;
8
ac anfonodd hwynt i Fethlehem, a dywedodd, “Ewch, a holwch yn fanwl am y plentyn, a phan gaffoch ef, mynegwch i mi, fel y delwyf innau i’w addoli.”
9
Hwythau, wedi clywed y brenin, a aethant; a dyna’r seren a welsent pan gododd yn eu rhagflaenu, nes iddi ddyfod a sefyll uwchben y fan yr oedd y plentyn.
10
Ac wedi canfod y seren, llawenychasant â llawenydd mawr dros ben.
11
Ac wedi dyfod i’r tŷ, gwelsant y plentyn gyda Mair ei fam, a syrthio a’i addoli; ac agorasant eu trysorau ac offrwm iddo anrhegion — aur a thus a myrr.
12
Ac wedi eu rhybuddio oddi uchod mewn breuddwyd i beidio â dychwelyd at Herod, diangasant i’w gwlad ar hyd ffordd arall.
13
Ac wedi iddynt ddianc, dyma angel yr Arglwydd yn ymddangos mewn breuddwyd i Ioseff gan ddywedyd, ’“Cyfod, cymer y plentyn a’i fam, a ffo i’r Aifft, ac aros yno nes i mi ddywedyd wrthyt; canys y mae Herod ar fedr ceisio’r plentyn i’w ddistrywio.”
14
Cododd yntau, a chymerth y plentyn a’i fam liw nos, a dianc i’r Aifft;
15
a bu yno hyd farwolaeth Herod, fel y cyflawnid yr hyn a lefarwyd gan yr Arglwydd trwy’r proffwyd, O’r Aifft y gelwais fy mab.
16
Yna pan welodd Herod mai cellwair ag ef a wnaethai’r dewiniaid, fe ffromodd yn aruthr, ac anfonodd a lladd yr holl fechgyn a oedd ym Methlehem ac yn ei holl ororau o ddwyflwydd ac isod, yn ôl yr amser yr holodd yn fanwl amdano gan y dewiniaid.
17
Yna y cyflawnwyd yr hyn a lefarwyd trwy Ieremïas y proffwyd:
18
Llef yn Rama a glywyd, wylofain a galar mawr: Rahel yn wylo am ei phlant, ac ni fynnai ei chysuro, am nad ydynt.
19
Ond wedi marw Herod, dyma angel yr Arglwydd yn ymddangos mewn breuddwyd i Ioseff yn yr Aifft
20
gan ddywedyd, “Cyfod a chymer y plentyn a’i fam, a dos i wlad Israel; canys meirw yw’r rhai a geisiai einioes y plentyn.”
21
Cododd yntau, a chymerth y plentyn a’i fam, ac aeth i wlad Israel.
22
Ond wedi clywed bod Archelaus yn teyrnasu yn Iwdea yn lle ei dad Herod, ofnodd fynd yno; ac wedi ei rybuddio oddi uchod mewn breuddwyd dihangodd i barthau Galilea,
23
ac aeth i gartrefu mewn dinas a elwir Nasareth, fel y cyflawnid yr hyn a lefarwyd trwy’r proffwydi mai Nasaread y gelwid ef.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28