bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Matthew 16
Matthew 16
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 17 →
1
A daeth y Phariseaid a’r Sadwceaid ato i’w brofi, a gofynasant iddo ddangos iddynt arwydd, o’r nef.
2
Atebodd yntau, “[Pan ddêl yr hwyr chwi ddywedwch, ‘Hindda fydd, canys coch yw’r awyr’;
3
ac yn y bore ‘Heddiw drycin fydd, canys coch wgus yw’r awyr,’ Chwi ellwch ddirnad wyneb yr awyr, ond arwyddion yr amserau nis medrwch.]
4
Cenhedlaeth ddrwg a godinebus sy’n ceisio arwydd, ac arwydd nis rhoddir iddi oddieithr arwydd. Ionas.” A gadawodd hwynt ac aeth ymaith.
5
Ac erbyn i’r disgyblion fyned i’r ochr draw yr oeddent wedi anghofio dyfod â bara.
6
A dywedodd yr Iesu wrthynt, “Gwyliwch ac ymogelwch rhag surdoes y Phariseaid a’r Sadwceaid.”
7
Ymresyment hwythau yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, “Am na ddaethom ni â bara!”
8
A gwybu’r Iesu, a dywedodd, “Paham yr ymresymwch yn eich plith eich hunain, rai bychain eu ffydd, am nad oes gennych fara?
9
Onid ydych yn deall eto, ac onid ydych yn cofio pum torth y pum mil, a pha sawl basgedaid a gawsoch?
10
Na saith dorth y pedair mil a pha sawl cawellaid a gawsoch?
11
Pa fodd na welwch nad am fara y dywedais wrthych? Ond ymogelwch rhag surdoes y Phariseaid a’r Sadwceaid.”
12
Yna y deallasant na ddywedodd wrthynt am ymogelu rhag surdoes bara, eithr rhag dysgeidiaeth y Phariseaid a’r Sadwceaid.
13
Ac wedi i’r Iesu ddyfod i dueddau Cesarea Philippi, gofynnodd i’w ddisgyblion, “Pwy medd dynion yw Mab y dyn?”
14
Dywedasant hwythau, “Rhai Ioan Fedyddiwr, ac eraill Elïas, ac eraill Ieremïas neu un o’r proffwydi.”
15
Medd ef wrthynt, “Ond chwi, pwy meddwch chwi ydwyf?”
16
Atebodd Simon Pedr, “Ti yw’r Crist, Mab y Duw byw.”
17
Atebodd yr Iesu iddo, “Gwyn dy fyd di, Simon Barionas, canys nid cig a gwaed a’i datguddiodd i ti, ond fy Nhad sydd yn y nefoedd.
18
A minnau a ddywedaf wrthyt mai Pedr (Craig) wyt ti, ac ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys, a phyrth Annwn ni orfydd arni.
19
Rhoddaf i ti allweddau teyrnas nefoedd, a pha beth bynnag a rwymych ar y ddaear, bydd wedi ei rwymo yn y nefoedd; a pha beth bynnag a ryddhaech ar y ddaear, bydd wedi ei ryddhau yn y nefoedd.”
20
Yna rhybuddiodd ei ddisgyblion na ddywedent wrth neb mai ef oedd y Crist.
21
O hynny allan dechreuodd Iesu Grist ddangos i’w ddisgyblion fod yn rhaid iddo fyned ymaith i Gaersalem, a dioddef llawer gan yr henuriaid a’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion, a’i ladd, a chyfodi’r trydydd dydd.
22
A chymerth Pedr ef ato, a dechreuodd ei geryddu, gan ddywedyd “Nawdd drosot, Arglwydd! Ni chaiff hyn byth fod i ti.”
23
Troes yntau, a dywedodd wrth Bedr, “Dos yn fy ôl i, Satan; magl wyt i mi; canys nid ar bethau Duw y mae dy fryd, ond ar bethau dynion.”
24
Yna dywedodd yr Iesu wrth ei ddisgyblion, “Os myn neb ddyfod ar fy ôl i, ymwaded ag ef ei hun, a chyfoded ei groes, a dilyned fi.
25
Canys pwy bynnag a fynno gadw ei fywyd, fe’i cyll; ond pwy bynnag a gollo ei fywyd er fy mwyn i, fe’i caiff.
26
Canys pa faint gwell fydd dyn, os ennill yr holl fyd, a’i golledu o’i fywyd? Neu, pa beth a rydd dyn yn gyfnewid am ei fywyd?
27
Canys y mae Mab y dyn ar ddyfod yng ngogoniant ei Dad gyda’i angylion, ac yna y tâl i bob un yn ôl ei ymddygiad.
28
Yn wir meddaf i chwi, y mae rhai o’r sawl sy’n sefyll yma na phrofant flas angau nes gweled Mab y dyn yn dyfod yn ei deyrnas.”
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 17 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28