bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Job 1
Job 1
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 2 →
1
Yr oedd gŵr yng ngwlad Us a'i enw Job; ac yr oedd y gŵr hwnnw yn berffaith ac yn uniawn, ac yn ofni DUW, ac yn cilio oddi wrth ddrygioni.
2
Ac iddo y ganwyd saith o feibion, a thair o ferched.
3
A'i olud oedd saith mil o ddefaid, a thair mil o gamelod, a phum can iau o ychen, a phum cant o asynnod, a llawer iawn o wasanaethyddion; ac yr oedd y gŵr hwn yn fwyaf o holl feibion y dwyrain.
4
A'i feibion ef a aent ac a wnaent wledd yn eu tai, bob un ar ei ddiwrnod; ac a anfonent ac a wahoddent eu tair chwaer i fwyta ac i yfed gyda hwynt.
5
A phan ddeuai dyddiau y wledd oddi amgylch, yna Job a anfonai ac a'u sancteiddiai hwynt, ac a gyfodai yn fore, ac a offrymai boethoffrymau yn ôl eu rhifedi hwynt oll: canys dywedodd Job, Fy meibion ond odid a bechasant, ac a felltithiasant DDUW yn eu calonnau. Felly y gwnâi Job yr holl ddyddiau hynny.
6
A dydd a ddaeth i feibion DUW ddyfod i sefyll gerbron yr ARGLWYDD; a Satan hefyd a ddaeth yn eu plith hwynt.
7
A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Satan, O ba le yr ydwyt ti yn dyfod? A Satan a atebodd yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, O dramwy ar hyd y ddaear, ac o ymrodio ynddi.
8
A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Satan, A ddeliaist ti ar fy ngwas Job, nad oes gyffelyb iddo ar y ddaear, yn ŵr perffaith ac uniawn, yn ofni DUW, ac yn cilio oddi wrth ddrygioni?
9
Yna Satan a atebodd yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, Ai yn ddiachos y mae Job yn ofni DUW?
10
Oni chaeaist o'i amgylch ef, ac o amgylch ei dŷ, ac ynghylch yr hyn oll sydd eiddo oddi amgylch? ti a fendithiaist waith ei ddwylo ef, a'i dda ef a gynyddodd ar y ddaear.
11
Eithr estyn yn awr dy law, a chyffwrdd â'r hyn oll sydd ganddo, ac efe a'th felltithia o flaen dy wyneb.
12
A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Satan, Wele, yr hyn oll sydd eiddo ef yn dy law di; yn unig yn ei erbyn ef ei hun nac estyn dy law. Felly Satan a aeth allan oddi gerbron yr ARGLWYDD.
13
A dydd a ddaeth, pan oedd ei feibion ef a'i ferched yn bwyta ac yn yfed gwin yn nhŷ eu brawd hynaf.
14
A daeth cennad at Job, ac a ddywedodd, Yr ychen oedd yn aredig, a'r asynnod oedd yn pori gerllaw iddynt;
15
A'r Sabeaid a ruthrasant, ac a'u dygasant ymaith; y llanciau hefyd a drawsant hwy â min y cleddyf, a mi fy hunan yn unig a ddihengais i fynegi i ti.
16
Tra yr oedd hwn yn llefaru, un arall hefyd a ddaeth, ac a ddywedodd, Tân DUW a syrthiodd o'r nefoedd, ac a losgodd y defaid, a'r gweision, ac a'u hysodd hwynt; ond myfi fy hunan yn unig a ddihengais i fynegi i ti.
17
Tra yr ydoedd hwn yn llefaru, un arall hefyd a ddaeth, ac a ddywedodd, Y Caldeaid a osodasant dair byddin, ac a ruthrasant i'r camelod, ac a'u dygasant ymaith, ac a drawsant y llanciau â min y cleddyf; a minnau fy hun yn unig a ddihengais i fynegi i ti.
18
Tra yr ydoedd hwn yn llefaru, un arall hefyd a ddaeth, ac a ddywedodd, Dy feibion a'th ferched oedd yn bwyta ac yn yfed gwin yn nhŷ eu brawd hynaf:
19
Ac wele, gwynt mawr a ddaeth oddi ar yr anialwch, ac a drawodd wrth bedair congl y tŷ, ac efe a syrthiodd ar y llanciau, a buant feirw; ond myfi fy hun yn unig a ddihengais i fynegi i ti.
20
Yna y cyfododd Job, ac a rwygodd ei fantell, ac a eilliodd ei ben, ac a syrthiodd i lawr, ac a addolodd;
21
Ac a ddywedodd, Noeth y deuthum o groth fy mam, a noeth y dychwelaf yno. Yr ARGLWYDD a roddodd, ar ARGLWYDD a ddygodd ymaith; bendigedig fyddo enw yr ARGLWYDD.
22
Yn hyn i gyd ni phechodd Job, ac ni roddodd yn ynfyd ddim yn erbyn DUW.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42