bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Job 37
Job 37
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 36
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 38 →
1
Wrth hyn hefyd y crŷn fy nghalon, ac y dychlama hi o'i lle.
2
Gan wrando gwrandewch ar sŵn ei lef, ac ar y sain a ddaw allan o'i enau ef.
3
Efe a'i hyfforddia dan yr holl nefoedd, a'i fellt hyd eithafoedd y ddaear.
4
Sŵn a rua ar ei ôl ef: efe a wna daranau â llais ei odidowgrwydd, ac ni oeda efe hwynt, pan glywir ei dwrf ef.
5
DUW a wna daranau â'i lais yn rhyfedd: y mae yn gwneuthur pethau mwy nag a wyddom ni.
6
Canys efe a ddywed wrth yr eira, Bydd ar y ddaear; ac wrth gawod o law, ac wrth law mawr ei nerth ef.
7
Efe a selia law pob dyn, fel yr adwaeno pawb ei waith ef.
8
Yna yr â y bwystfil i'w loches, ac y trig yn ei le.
9
O'r deau y daw corwynt; ac oerni oddi wrth y gogledd.
10
Â'i wynt y rhydd DUW rew: a lled y dyfroedd a gyfyngir.
11
Hefyd efe a flina gwmwl yn dyfrhau; efe a wasgar ei gwmwl golau.
12
Ac y mae hwnnw yn ymdroi oddi amgylch wrth ei lywodraeth ef: fel y gwnelont hwy beth bynnag a orchmynno efe iddynt, ar hyd wyneb y byd ar y ddaear.
13
Pa un bynnag ai yn gosbedigaeth, ai i'w ddaear, ai er daioni, efe a bair iddo ddyfod.
14
Gwrando hyn, Job; saf, ac ystyria ryfeddodau DUW.
15
A wyddost ti pa bryd y dosbarthodd DUW hwynt, ac y gwnaeth efe i oleuni ei gwmwl lewyrchu?
16
A wyddost ti oddi wrth bwysau y cymylau, rhyfeddodau yr hwn sydd berffaith‐gwbl o wybodaeth?
17
Pa fodd y mae dy ddillad yn gynnes, pan baro efe y ddaear yn dawel â'r deheuwynt?
18
A daenaist ti gydag ef yr wybren, yr hon a sicrhawyd fel drych toddedig?
19
Gwna i ni wybod pa beth a ddywedwn wrtho: ni fedrwn ni gyfleu ein geiriau gan dywyllwch.
20
A fynegir iddo ef os llefaraf? os dywed neb, diau y llyncir ef.
21
Ac yn awr, ni wêl neb y goleuni disglair sydd yn y cymylau: ond myned y mae y gwynt, a'u puro hwynt.
22
O'r gogleddwynt y daw hindda: y mae yn NUW ogoniant mwy ofnadwy.
23
Am yr Hollalluog, ni allwn ni mo'i gael ef: ardderchog yw o nerth, a barn, a helaethrwydd cyfiawnder: ni chystuddia efe.
24
Am hynny yr ofna dynion ef: nid edrych efe ar neb doeth eu calon.
← Chapter 36
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 38 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42