bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Job 29
Job 29
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 28
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 30 →
1
Yna Job a barablodd drachefn, ac a ddywedodd,
2
O na bawn i fel yn y misoedd o'r blaen, fel yn y dyddiau pan gadwai DUW fi;
3
Pan wnâi efe i'w oleuni lewyrchu ar fy mhen, wrth oleuni yr hwn y rhodiwn trwy dywyllwch;
4
Pan oeddwn yn nyddiau fy ieuenctid, a dirgelwch DUW ar fy mhabell;
5
Pan oedd yr Hollalluog eto gyda mi, a'm plant o'm hamgylch;
6
Pan olchwn fy nghamre ag ymenyn, a phan dywalltai y graig i mi afonydd o olew!
7
Pan awn i allan i'r porth trwy y dref; pan baratown fy eisteddfa yn yr heol,
8
Llanciau a'm gwelent, ac a ymguddient; a henuriaid a gyfodent, ac a safent i fyny.
9
Tywysogion a atalient eu hymadroddion, ac a osodent eu llaw ar eu genau.
10
Pendefigion a dawent â sôn, a'u tafod a lynai wrth daflod eu genau.
11
Pan y'm clywai clust, hi a'm bendithiai; a phan y'm gwelai llygad, efe a dystiolaethai gyda mi:
12
Am fy mod yn gwaredu'r tlawd a fyddai yn gweiddi, a'r amddifad, a'r hwn ni byddai gynorthwywr iddo.
13
Bendith yr hwn oedd ar ddarfod amdano a ddeuai arnaf; a gwnawn i galon y wraig weddw lawenychu.
14
Gwisgwn gyfiawnder, a hithau a wisgai amdanaf fi: a'm barn fyddai fel mantell a choron.
15
Llygaid oeddwn i'r dall; a thraed oeddwn i'r cloff.
16
Tad oeddwn i'r anghenog; a'r cwyn ni wyddwn a chwiliwn allan.
17
Drylliwn hefyd gilddannedd yr anghyfiawn, ac a dynnwn yr ysglyfaeth allan o'i ddannedd ef.
18
Yna y dywedwn, Byddaf farw yn fy nyth; a byddaf mor aml fy nyddiau â'r tywod.
19
Fy ngwreiddyn oedd yn ymdaenu wrth y dyfroedd; a'r gwlith a arhosodd ar hyd nos ar fy mrig.
20
Fy ngogoniant oedd ir ynof fi; a'm bwa a adnewyddai yn fy llaw.
21
Hwy a wrandawent arnaf, ac a ddisgwylient; distawent wrth fy nghyngor.
22
Ar ôl fy ymadrodd ni ddywedent hwy eilwaith; a'm hymadrodd a ddiferai arnynt hwy.
23
A hwy a ddisgwylient amdanaf fel am y glaw; ac a ledent eu genau fel am y diweddar‐law.
24
Os chwarddwn arnynt hwy, ni chredent; ac ni wnaent hwy i lewyrch fy wyneb syrthio.
25
Dewiswn eu ffordd hwynt, eisteddwn yn bennaf, a thrigwn fel brenin mewn llu, megis yr hwn a gysura rai galarus.
← Chapter 28
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 30 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42