bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Job 39
Job 39
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 38
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 40 →
1
A wyddost ti yr amser i eifr gwylltion y creigiau lydnu? a fedri di wylied yr amser y bwrw yr ewigod loi?
2
A gyfrifi di y misoedd a gyflawnant hwy? ac a wyddost ti yr amser y llydnant?
3
Ymgrymant, bwriant eu llydnod, ac ymadawant â'u gofid.
4
Eu llydnod a gryfha, cynyddant yn y maes: ânt allan, ac ni ddychwelant atynt hwy.
5
Pwy a ollyngodd yr asyn gwyllt yn rhydd? neu pwy a ddatododd rwymau yr asyn gwyllt?
6
Yr hwn y gosodais yr anialwch yn dŷ iddo, a'r diffeithwch yn drigfa iddo.
7
Efe a chwardd am ben lliaws tref: ni wrendy ar lais y geilwad.
8
Cilfachau y mynyddoedd yw ei borfa ef, ac efe a chwilia am bob glaswelltyn.
9
A gytuna yr unicorn i'th wasanaethu di? a erys efe wrth dy bresebau di?
10
A rwymi di unicorn â'i did mewn rhych? a lyfna efe y dolydd ar dy ôl di?
11
A ymddiriedi wrtho, am fod ei gryfder yn fawr? a adewi di dy lafur iddo?
12
A goeli di ef, y dwg efe dy had di drachefn, ac y casgl efe ef i'th lawr dyrnu di?
13
A roddaist ti adenydd hyfryd i'r peunod? neu adenydd a phlu i'r estrys?
14
Yr hon a ad ei hwyau yn y ddaear, ac a'u cynhesa yn y llwch;
15
Ac y mae hi yn gollwng dros gof y gallai droed eu dryllio hwynt, neu anifail y maes eu sathru.
16
Caled yw hi wrth ei chywion, fel pe na byddent eiddi hi: ei gwaith hi sydd ofer, heb ofn;
17
Oblegid na roddes DUW iddi ddoethineb, ac na chyfrannodd iddi ddeall.
18
Yr amser yr ymgodo hi yn uchel, hi a ddiystyra y march a'i farchog.
19
A roddaist ti gryfder i farch? neu a ddysgaist iddo weryru?
20
A ddychryni di ef fel ceiliog rhedyn? dychryn ydyw ardderchowgrwydd ei ffroen ef.
21
Ei draed ef a gloddiant yn y dyffryn, ac efe a lawenycha yn ei gryfder: efe a â allan i gyfarfod arfau.
22
Efe a ddiystyra arswyd, ac ni ddychryna efe; ac ni ddychwel yn ei ôl rhag y cleddyf.
23
Y cawell saethau a drystia yn ei erbyn, y ddisglair waywffon a'r darian.
24
Efe a lwnc y ddaear gan greulondeb a chynddaredd: ac ni chred mai llais yr utgorn yw.
25
Efe a ddywed ymhlith yr utgyrn, Ha, ha; ac a arogla o bell ryfel, twrf tywysogion, a'r bloeddio.
26
Ai trwy dy ddoethineb di yr eheda y gwalch, ac y lleda efe ei adenydd tua'r deau?
27
Ai wrth dy orchymyn di yr ymgyfyd yr eryr, ac y gwna efe ei nyth yn uchel?
28
Y trig efe ac yr erys mewn craig; ac ar ysgithredd y graig, a'r lle cadarn?
29
Oddi yno y chwilia am fwyd; ei lygaid a ganfyddant o bell.
30
Ei gywion hefyd a sugnant waed: a lle y byddo celanedd, yno y bydd efe.
← Chapter 38
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 40 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42