bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Job 40
Job 40
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 39
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 41 →
1
Yr ARGLWYDD hefyd a atebodd Job, ac a ddywedodd,
2
Ai dysgeidiaeth yw ymryson â'r Hollalluog? a argyhoeddo DDUW, atebed i hynny.
3
A Job a atebodd yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd,
4
Wele, gwael ydwyf; pa beth a atebaf i ti? mi a osodaf fy llaw ar fy ngenau.
5
Dywedais unwaith; ond nid atebaf: ie, ddwywaith; ond ni chwanegaf.
6
A'r ARGLWYDD a atebodd Job allan o'r corwynt, ac a ddywedodd,
7
Gwregysa yn awr dy lwynau fel gŵr; a myfi a ofynnaf i ti, mynega dithau i mi.
8
A wnei di fy marn i yn ofer? a ferni di fi yn anghyfiawn, i'th gyfiawnhau dy hun?
9
A oes i ti fraich fel i DDUW? neu a wnei di daranau â'th lais fel yntau?
10
Ymdrwsia yn awr â mawredd ac â godidowgrwydd, ac ymwisg â gogoniant ac â phrydferthwch.
11
Gwasgar gynddaredd dy ddigofaint; ac edrych ar bob balch, a thafl ef i lawr.
12
Edrych ar bob balch, a gostwng ef; a mathra yr annuwiol yn eu lle.
13
Cuddia hwynt ynghyd yn y pridd, a rhwym eu hwynebau hwynt mewn lle cuddiedig.
14
Yna hefyd myfi a addefaf i ti, y gall dy ddeheulaw dy achub.
15
Yn awr wele y behemoth, yr hwn a wneuthum gyda thi; glaswellt a fwyty efe fel ych.
16
Wele yn awr, ei gryfder ef sydd yn ei lwynau, a'i nerth ym mogel ei fol.
17
Efe a gyfyd ei gynffon fel cedrwydden: gewynnau ei arennau ef sydd blethedig.
18
Pibellau pres ydyw ei esgyrn ef: ei esgyrn sydd fel ffyn heyrn.
19
Pennaf o ffyrdd DUW ydyw efe: yr hwn a'i gwnaeth a all beri i'w gleddyf nesáu ato ef.
20
Y mynyddoedd yn ddiau a ddygant laswellt iddo: ac yno y chwery holl anifeiliaid y maes.
21
Efe a orwedd dan goedydd cysgodfawr, mewn lloches o gyrs a siglennydd.
22
Coed cysgodfawr a'i gorchuddiant â'u cysgod: helyg yr afon a'i hamgylchant.
23
Wele, efe a yf yr afon, ac ni phrysura: efe a obeithiai y tynnai efe'r Iorddonen i'w safn.
24
A ddeil neb ef o flaen ei lygaid? a dylla neb ei drwyn ef â bachau?
← Chapter 39
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 41 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42