bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Job 3
Job 3
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 4 →
1
Wedi hyn Job a agorodd ei enau, ac a felltithiodd ei ddydd.
2
A Job a lefarodd, ac a ddywedodd,
3
Darfydded am y dydd y'm ganwyd ynddo, a'r nos y dywedwyd, Enillwyd gwryw.
4
Bydded y dydd hwnnw yn dywyllwch, a DUW oddi uchod heb ei ystyried; ac na thywynned llewyrch arno.
5
Tywyllwch a chysgod marwolaeth a'i halogo, ac arhosed cwmwl arno; dued y diwrnod a'i dychryno.
6
Y nos honno, tywyllwch a'i cymero; na chydier hi â dyddiau y flwyddyn, ac na ddeued i rifedi y misoedd.
7
Bydded y noswaith honno yn unig, ac na fydded gorfoledd ynddi.
8
A'r rhai a felltithiant y dydd, ac sydd barod i gyffroi eu galar, a'i melltithio hi.
9
A bydded sêr ei chyfddydd hi yn dywyll: disgwylied am oleuni ac na fydded iddi; ac na chaffed weled y wawrddydd:
10
Am na chaeodd ddrysau croth fy mam, ac na chuddiodd ofid oddi wrth fy llygaid.
11
Paham na bûm farw o'r bru? na threngais pan ddeuthum allan o'r groth?
12
Paham y derbyniodd gliniau fyfi? a phaham y cefais fronnau i sugno?
13
Oherwydd yn awr mi a gawswn orwedd, a gorffwys, a huno: yna y buasai llonyddwch i mi.
14
Gyda brenhinoedd a chynghorwyr y ddaear, y rhai a adeiladasant iddynt eu hunain fannau anghyfannedd;
15
Neu gyda thywysogion ag aur ganddynt, y rhai a lanwasant eu tai ag arian;
16
Neu fel erthyl cuddiedig, ni buaswn ddim; megis plant bychain heb weled goleuni.
17
Yno yr annuwiolion a beidiant â'u cyffro; ac yno y gorffwys y rhai lluddedig.
18
Y rhai a garcharwyd a gânt yno lonydd ynghyd; ni chlywant lais y gorthrymydd.
19
Bychan a mawr sydd yno; a'r gwas a ryddhawyd oddi wrth ei feistr.
20
Paham y rhoddir goleuni i'r hwn sydd mewn llafur, a bywyd i'r gofidus ei enaid?
21
Y rhai sydd yn disgwyl am farwolaeth, ac heb ei chael; ac yn cloddio amdani yn fwy nag am drysorau cuddiedig?
22
Y rhai a lawenychant mewn hyfrydwch, ac a orfoleddant, pan gaffont y bedd?
23
Paham y rhoddir goleuni i'r dyn y mae ei ffordd yn guddiedig, ac y caeodd DUW arno?
24
Oblegid o flaen fy mwyd y daw fy uchenaid; a'm rhuadau a dywelltir megis dyfroedd.
25
Canys yr hyn a fawr ofnais a ddaeth arnaf, a'r hyn a arswydais a ddigwyddodd i mi.
26
Ni chefais na llonydd nac esmwythdra, ac ni orffwysais: er hynny daeth cynnwrf.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42