bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Job 6
Job 6
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 7 →
1
A Job a atebodd ac a ddywedodd,
2
O gan bwyso na phwysid fy ngofid, ac na chydgodid fy nhrychineb mewn cloriannau!
3
Canys yn awr trymach fyddai na thywod y môr: am hynny y pallodd geiriau gennyf.
4
Oherwydd y mae saethau yr Hollalluog ynof, y rhai y mae eu gwenwyn yn yfed fy ysbryd: dychrynfâu DUW a ymfyddinasant i'm herbyn.
5
A rua asyn gwyllt uwchben glaswellt? a fref ych uwchben ei borthiant?
6
A fwyteir peth diflas heb halen? a oes blas ar wyn wy?
7
Y pethau a wrthododd fy enaid eu cyffwrdd, sydd megis bwyd gofidus i mi.
8
O na ddeuai fy nymuniad! ac na roddai DUW yr hyn yr ydwyf yn ei ddisgwyl!
9
Sef rhyngu bodd i DDUW fy nryllio, a gollwng ei law yn rhydd, a'm torri ymaith.
10
Yna cysur a fyddai eto i mi, ie, mi a ymgaledwn mewn gofid; nac arbeded, canys ni chelais ymadroddion y Sanctaidd.
11
Pa nerth sydd i mi i obeithio? a pha ddiwedd fydd i mi, fel yr estynnwn fy hoedl?
12
Ai cryfder cerrig yw fy nghryfder? a ydyw fy nghnawd o bres?
13
Onid ydyw fy nghymorth ynof fi? a fwriwyd doethineb yn llwyr oddi wrthyf?
14
I'r cystuddiol y byddai trugaredd oddi wrth ei gyfaill; ond efe a adawodd ofn yr Hollalluog.
15
Fy mrodyr a'm twyllasant megis afon: aethant heibio fel llifeiriant afonydd;
16
Y rhai a dduasant gan rew, ac yr ymguddiodd eira ynddynt:
17
Yr amser y cynhesant, hwy a dorrir ymaith: pan wresogo yr hin, hwy a ddarfyddant allan o'u lle.
18
Llwybrau eu ffordd hwy a giliant: hwy a ânt yn ddiddim, ac a gollir.
19
Byddinoedd Tema a edrychasant, minteioedd Seba a ddisgwyliasant amdanynt.
20
Hwy a gywilyddiwyd, am iddynt obeithio; hwy a ddaethant hyd yno, ac a wladeiddiasant.
21
Canys yn awr nid ydych chwi ddim; chwi a welsoch fy nhaflu i lawr, ac a ofnasoch.
22
A ddywedais i, Dygwch i mi? neu, O'ch golud rhoddwch roddion drosof fi?
23
Neu, Gwaredwch fi o law y gelyn? neu, Rhyddhewch fi o law y cedyrn?
24
Dysgwch fi, a myfi a dawaf: a gwnewch i mi ddeall ym mha beth y camgymerais.
25
Mor gryfion ydyw geiriau uniondeb! ond pa beth a argyhoedda argyhoeddiad un ohonoch chwi?
26
Ai argyhoeddi ymadroddion a amcenwch chwi â geiriau un diobaith, y rhai sydd megis gwynt?
27
Chwi a ruthrwch hefyd am ben yr amddifad, ac a gloddiwch bwll i'ch cyfaill.
28
Yn awr gan hynny byddwch fodlon; edrychwch arnaf fi; canys y mae yn eglur i chwi os dywedaf gelwydd.
29
Dychwelwch, atolwg, na fydded anwiredd; ie, trowch eto, y mae fy nghyfiawnder yn hyn.
30
A oes anwiredd yn fy nhafod? oni ddeall taflod fy ngenau gam flas?
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 7 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42