bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Job 24
Job 24
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 23
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 25 →
1
Paham, gan na chuddiwyd yr amseroedd rhag yr Hollalluog, na welai y rhai sydd yn ei adnabod ef, ei ddyddiau ef?
2
Y mae rhai yn symudo terfynau; yn ysglyfaethu defaid, ac yn ymborthi arnynt.
3
Y maent yn gyrru asynnod yr amddifad ymaith: maent yn cymryd ych y wraig weddw ar wystl.
4
Maent yn troi yr anghenog allan o'r ffordd: tlodion y ddaear a ymgydlechant.
5
Wele, y maent fel asynnod gwylltion yn yr anialwch, yn myned allan i'w gwaith, gan geisio ysglyfaeth yn fore: y diffeithwch sydd yn dwyn iddynt fwyd, ac i'w plant.
6
Medant eu hŷd yn y maes; a gwinllan yr annuwiol a gasglant.
7
Gwnânt i'r tlawd letya yn noeth heb ddillad, ac heb wisg mewn oerni.
8
Gwlychant gan lifeiriant y mynyddoedd; ac o eisiau diddosrwydd y cofleidiant graig.
9
Tynnant yr amddifad oddi wrth y fron: cymerant wystl gan y tlawd.
10
Gwnânt iddo fyned yn noeth heb ddillad; a dygant ddyrneidiau lloffa y rhai newynog.
11
Y rhai sydd yn gwneuthur olew o fewn eu parwydydd hwynt, ac sydd yn sathru eu cafnau gwin, ydynt sychedig.
12
Y mae gwŷr yn griddfan o'r ddinas, ac y mae eneidiau y rhai archolledig yn gweiddi; ac nid yw DUW yn rhoi ffolineb yn eu herbyn.
13
Y rhai hynny sydd ymhlith y rhai sydd yn gwrthwynebu goleuni; nid ydynt yn adnabod ei ffyrdd, nac yn aros yn ei lwybrau.
14
Gyda'r goleuad y cyfyd y lleiddiad, ac y lladd efe y tlawd a'r anghenog; a'r nos y bydd efe fel lleidr.
15
A llygad y godinebwr sydd yn gwylied am y cyfnos, gan ddywedyd, Ni chaiff llygad fy ngweled; ac efe a esyd hug ar ei wyneb.
16
Yn y tywyll y maent yn cloddio trwy dai, y thai a nodasant iddynt eu hunain liw dydd: nid adwaenant hwy oleuni.
17
Canys megis cysgod marwolaeth ydyw y bore iddynt hwy: dychryn cysgod marwolaeth yw, os edwyn neb hwynt.
18
Ysgafn ydyw ar wyneb y dyfroedd; melltigedig ydyw eu rhandir hwy ar y ddaear: ni thry efe ei wyneb at ffordd y gwinllannoedd.
19
Sychder a gwres sydd yn cipio dyfroedd eira: felly y bedd y rhai a bechasant.
20
Y groth a'i gollwng ef dros gof, melys fydd gan y pryf ef; ni chofir ef mwy: ac anwiredd a dorrir fel pren.
21
Y mae efe yn dryllio yr amhlantadwy, yr hon ni phlanta; ac nid ydyw yn gwneuthur daioni i'r weddw.
22
Ac y mae efe yn tynnu y rhai cedyrn wrth ei nerth: y mae efe yn codi, ac nid oes neb diogel o'i einioes.
23
Er rhoddi iddo fod mewn diogelwch, ar yr hyn y mae ei bwys; eto y mae ei lygaid ef ar eu ffyrdd hwy.
24
Hwynt‐hwy a ddyrchafwyd dros ychydig, ond hwy a ddarfuant, ac a ostyngwyd; hwy a dducpwyd ymaith fel pawb eraill, ac a dorrwyd ymaith fel pen tywysen.
25
Ac onid ydyw felly yn awr, pwy a'm gwna i yn gelwyddog, ac a esyd fy ymadrodd yn ddiddim?
← Chapter 23
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 25 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
Recommended Reading
Commentary
Job Commentaries
→
Devotional
Job Devotional Guide
→
Get This Bible
Welsh (Beibl William Morgan - Argraffiad ) Study Bible
→