bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Job 22
Job 22
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 21
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 23 →
1
Yna Eliffas y Temaniad a atebodd ac a ddywedodd,
2
A wna gŵr lesâd i DDUW, fel y gwna y synhwyrol lesâd iddo ei hun?
3
Ai digrifwch ydyw i'r Hollalluog dy fod di yn gyfiawn? neu ai elw dy fod yn perffeithio dy ffyrdd?
4
Ai rhag dy ofn y cerydda efe dydi? neu yr â efe gyda thi i farn?
5
Onid ydyw dy ddrygioni di yn aml? a'th anwireddau heb derfyn?
6
Canys cymeraist wystl gan dy frawd yn ddiachos; a diosgaist ddillad y rhai noethion.
7
Ni roddaist ddwfr i'w yfed i'r lluddedig; a thi a ateliaist fara oddi wrth y newynog.
8
Ond y gŵr cadarn, efe bioedd y ddaear; a'r anrhydeddus a drigai ynddi.
9
Danfonaist ymaith wragedd gweddwon yn waglaw; a breichiau y rhai amddifaid a dorrwyd.
10
Am hynny y mae maglau o'th amgylch, ac ofn disymwth yn dy ddychrynu di;
11
Neu dywyllwch rhag gweled ohonot: a llawer o ddyfroedd a'th orchuddiant.
12
Onid ydyw DUW yn uchelder y nefoedd? gwêl hefyd uchder y sêr, mor uchel ydynt.
13
A thi a ddywedi, Pa fodd y gŵyr DUW? a farn efe trwy'r cwmwl tywyll?
14
Y tew gymylau sydd loches iddo, ac ni wêl; ac y mae efe yn rhodio ar gylch y nefoedd.
15
A ystyriaist di yr hen ffordd a sathrodd y gwŷr anwir?
16
Y rhai a dorrwyd pan nid oedd amser; afon a dywalltwyd ar eu sylfaen hwy.
17
Hwy a ddywedasant wrth DDUW, Cilia oddi wrthym: a pha beth a wna'r Hollalluog iddynt hwy?
18
Eto efe a lanwasai eu tai hwy o ddaioni: ond pell yw cyngor yr annuwiolion oddi wrthyf fi.
19
Y rhai cyfiawn a welant, ac a lawenychant: a'r diniwed a'u gwatwar hwynt.
20
Gan na thorred ymaith ein sylwedd ni, eithr y tân a ysodd eu gweddill hwy.
21
Ymarfer, atolwg, ag ef, a bydd heddychlon: o hyn y daw i ti ddaioni.
22
Cymer y gyfraith, atolwg, o'i enau ef, a gosod ei eiriau ef yn dy galon.
23
Os dychweli at yr Hollalluog, ti a adeiledir, symudi anwiredd ymhell oddi wrth dy luestai.
24
Rhoddi aur i gadw fel pridd, ac aur Offir fel cerrig yr afonydd.
25
A'r Hollalluog fydd yn amddiffyn i ti, a thi a gei amldra o arian.
26
Canys yna yr ymhoffi yn yr Hollalluog, ac a ddyrchefi dy wyneb at DDUW.
27
Ti a weddïi arno ef, ac efe a'th wrendy; a thi a deli dy addunedau.
28
Pan ragluniech di beth, efe a sicrheir i ti; a'r goleuni a lewyrcha ar dy ffyrdd.
29
Pan ostynger hwynt, yna y dywedi di, Y mae goruchafiaeth; ac efe a achub y gostyngedig ei olwg.
30
Efe a wareda ynys y diniwed: a thrwy lendid dy ddwylo y gwaredir hi.
← Chapter 21
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 23 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42