bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Job 38
Job 38
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 37
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 39 →
1
Yna yr ARGLWYDD a atebodd Job allan o'r corwynt, ac a ddywedodd,
2
Pwy yw hwn sydd yn tywyllu cyngor ag ymadroddion heb wybodaeth.
3
Gwregysa dy lwynau yn awr fel gŵr; a mynega i mi yr hyn a ofynnwyf i ti.
4
Pa le yr oeddit ti pan sylfaenais i y ddaear? mynega, os medri ddeall.
5
Pwy a osododd ei mesurau hi, os gwyddost? neu pwy a estynnodd linyn arni hi?
6
Ar ba beth y sicrhawyd ei sylfeini hi? neu pwy a osododd ei chonglfaen hi,
7
Pan gydganodd sêr y bore, ac y gorfoleddodd holl feibion DUW?
8
A phwy a gaeodd y môr â dorau, pan ruthrodd efe allan megis pe delai allan o'r groth?
9
Pan osodais i y cwmwl yn wisg iddo, a niwl tew yn rhwymyn iddo,
10
Pan osodais fy ngorchymyn arno, a phan osodais drosolion a dorau,
11
Gan ddywedyd, Hyd yma y deui, ac nid ymhellach; ac yma yr atelir ymchwydd dy donnau di.
12
A orchmynnaist ti y bore er dy ddyddiau? a ddangosaist ti i'r wawrddydd ei lle,
13
I ymaflyd yn eithafoedd y ddaear, fel yr ysgydwer yr annuwiol allan ohoni hi?
14
Canys hi a ymnewidia fel clai y sêl; a hwy a safant fel dillad.
15
Ac atelir eu goleuni oddi wrth yr annuwiol: dryllir y braich dyrchafedig.
16
A ddaethost ti i eigion y môr? ac a rodiaist ti yng nghilfachau y dyfnder?
17
A agorwyd pyrth marwolaeth i ti? neu a welaist ti byrth cysgod angau?
18
A ystyriaist ti led y ddaear? mynega, os adwaenost ti hi i gyd.
19
Pa ffordd yr eir lle y trig goleuni? a pha le y mae lle y tywyllwch,
20
Fel y cymerit ef hyd ei derfyn, ac y medrit y llwybrau i'w dŷ ef?
21
A wyddit ti yna y genid tydi? ac y byddai rhifedi dy ddyddiau yn fawr?
22
A aethost ti i drysorau yr eira? neu a welaist ti drysorau y cenllysg,
23
Y rhai a gedwais i hyd amser cyfyngder, hyd ddydd ymladd a rhyfel?
24
Pa ffordd yr ymranna goleuni, yr hwn a wasgar y dwyreinwynt ar y ddaear?
25
Pwy a rannodd ddyfrlle i'r llifddyfroedd? a ffordd i fellt y taranau,
26
I lawio ar y ddaear lle ni byddo dyn; ar yr anialwch, sydd heb ddyn ynddo?
27
I ddigoni y tir diffaith a gwyllt, ac i beri i gnwd o laswellt dyfu?
28
A oes dad i'r glaw? neu pwy a genhedlodd ddefnynnau y gwlith?
29
O groth pwy y daeth yr iâ allan? a phwy a genhedlodd lwydrew y nefoedd?
30
Y dyfroedd a guddir megis â charreg, ac wyneb y dyfnder a rewodd.
31
A rwymi di hyfrydwch Pleiades? neu a ddatodi di rwymau Orion?
32
A ddygi di allan Massaroth yn eu hamser? neu a dywysi di Arcturus a'i feibion?
33
A adwaenost ti ordeiniadau y nefoedd? a osodi di ei lywodraeth ef ar y ddaear?
34
A ddyrchefi di dy lef ar y cwmwl, fel y gorchuddio helaethrwydd o ddyfroedd dydi?
35
A ddanfoni di fellt allan, fel yr elont, ac y dywedont wrthyt, Wele ni?
36
Pwy a osododd ddoethineb yn yr ymysgaroedd? neu pwy a roddodd ddeall i'r galon?
37
Pwy a gyfrif y cymylau trwy ddoethineb? a phwy a all atal costrelau y nefoedd.
38
Pan droer y llwch yn dom, fel y glyno y priddellau ynghyd?
39
A elli di hela ysglyfaeth i'r llew? neu a elli di lenwi gwanc cenawon y llewod,
40
Pan ymgrymant yn eu llochesau, pan eisteddant mewn ffau i gynllwyn?
41
Pwy a ddarpar i'r gigfran ei bwyd? pan lefo ei chywion ar DDUW, gwibiant o eisiau bwyd.
← Chapter 37
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 39 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
Recommended Reading
Commentary
Job Commentaries
→
Devotional
Job Devotional Guide
→
Get This Bible
Welsh (Beibl William Morgan - Argraffiad ) Study Bible
→