bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Job 41
Job 41
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 40
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 42 →
1
A dynni di y lefiathan allan â bach? neu a rwymi di ei dafod ef â rhaff?
2
A osodi di fach yn ei drwyn ef? neu a dylli di asgwrn ei ên ef â mynawyd?
3
A fawr ymbil efe â thi? a ddywed efe wrthyt ti yn deg?
4
A wna efe amod â thi? a gymeri di ef yn was tragwyddol?
5
A chwaraei di ag ef fel ag aderyn? neu a rwymi di ef i'th lancesau?
6
A swpera cyfeillion arno? a gyfrannant hwy ef rhwng marsiandwyr?
7
A lenwi di ei groen ef â phigau heyrn? neu ei ben â thryferau?
8
Gosod dy law arno ef; cofia y rhyfel; na wna mwy.
9
Wele, ofer ydyw ei obaith ef: oni chwymp un gan ei olwg ef?
10
Nid oes neb mor hyderus â'i godi ef: a phwy a saif ger fy mron i?
11
Pwy a roddodd i mi yn gyntaf, a mi a dalaf? beth bynnag sydd dan yr holl nefoedd, eiddof fi yw.
12
Ni chelaf ei aelodau ef, na'i gryfder, na gweddeidd‐dra ei ystum ef.
13
Pwy a ddatguddia wyneb ei wisg ef? pwy a ddaw ato ef â'i ffrwyn ddauddyblyg?
14
Pwy a egyr ddorau ei wyneb ef? ofnadwy yw amgylchoedd ei ddannedd ef.
15
Ei falchder yw ei emau, wedi eu cau ynghyd megis â sêl gaeth.
16
Y mae y naill mor agos at y llall, fel na ddaw gwynt rhyngddynt.
17
Pob un a lŷn wrth ei gilydd; hwy a gydymgysylltant, fel na wahenir hwy.
18
Wrth ei disian ef y tywynna goleuni, a'i lygaid ef sydd fel amrantau y bore.
19
Ffaglau a ânt allan, a gwreichion tanllyd a neidiant o'i enau ef.
20
Mwg a ddaw allan o'i ffroenau, fel o bair neu grochan berwedig.
21
Ei anadl a wna i'r glo losgi, a fflam a ddaw allan o'i enau.
22
Yn ei wddf y trig cryfder, a thristwch a dry yn llawenydd o'i flaen ef.
23
Llywethau ei gnawd a lynant ynghyd: caledodd ynddo ei hun, fel na syflo.
24
Caled ydyw ei galon fel carreg: a chaled fel darn o'r maen isaf i felin.
25
Rhai cryfion a ofnant pan godo efe: rhag ei ddrylliadau ef yr ymlanhânt.
26
Cleddyf yr hwn a'i trawo, ni ddeil; y waywffon, y bicell, na'r llurig.
27
Efe a gyfrif haearn fel gwellt, a phres fel pren pwdr.
28
Ni phair saeth iddo ffoi: cerrig tafl a droed iddo yn sofl.
29
Picellau a gyfrifir fel soflyn; ac efe a chwardd wrth ysgwyd gwaywffon.
30
Dano ef y bydd megis darnau llymion o lestri pridd: efe a daena bethau llymion ar hyd y clai.
31
Efe a wna i'r dyfnder ferwi fel crochan: efe a esyd y môr fel crochan o ennaint.
32
Efe a wna lwybr golau ar ei ôl; fel y tybygid fod y dyfnder yn frigwyn.
33
Nid oes ar y ddaear gyffelyb iddo, yr hwn a wnaethpwyd heb ofn.
34
Efe a edrych ar bob peth uchel: brenin ydyw ar holl feibion balchder.
← Chapter 40
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 42 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42