bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Job 42
Job 42
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 41
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
1
A Job a atebodd yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd,
2
Myfi a wn y gelli di bob peth; ac na atelir un meddwl oddi wrthyt.
3
Pwy ydyw yr hwn sydd yn cuddio cyngor heb wybodaeth? am hynny y lleferais yr hyn nis deellais; pethau rhy ryfedd i mi, y rhai nis gwyddwn.
4
Gwrando, atolwg, a myfi a lefaraf: gofynnaf i ti, dysg dithau finnau.
5
Myfi a glywais â'm clustiau sôn amdanat: ond yn awr fy llygad a'th welodd di.
6
Am hynny y mae yn ffiaidd gennyf fi fy hun; ac yr ydwyf yn edifarhau mewn llwch a lludw.
7
Ac wedi dywedyd o'r ARGLWYDD y geiriau hyn wrth Job, yr ARGLWYDD a ddywedodd wrth Eliffas y Temaniad, Fy nigofaint a gyneuodd yn dy erbyn di, ac yn erbyn dy ddau gyfaill; am na ddywedasoch amdanaf fi yn uniawn fel fy ngwasanaethwr Job.
8
Yn awr gan hynny cymerwch i chwi saith o fustych, a saith o hyrddod, ac ewch at fy ngwasanaethwr Job, ac offrymwch boethaberth drosoch; a gweddïed fy ngwasanaethwr Job drosoch: canys mi a dderbyniaf ei wyneb ef: fel na wnelwyf i chwi yn ôl eich ffolineb, am na ddywedasoch yr uniawn amdanaf fi, fel fy ngwasanaethwr Job.
9
Felly Eliffas y Temaniad, a Bildad y Suhiad, a Soffar y Naamathiad, a aethant ac a wnaethant fel y dywedasai yr ARGLWYDD wrthynt. A'r ARGLWYDD a dderbyniodd wyneb Job.
10
Yna yr ARGLWYDD a ddychwelodd gaethiwed Job, pan weddïodd efe dros ei gyfeillion: a'r ARGLWYDD a chwanegodd yr hyn oll a fuasai gan Job yn ddauddyblyg.
11
Yna ei holl geraint, a'i holl garesau, a phawb o'i gydnabod ef o'r blaen, a ddaethant ato, ac a fwytasant fwyd gydag ef yn ei dŷ, ac a gwynasant iddo, ac a'i cysurasant ef, am yr holl ddrwg a ddygasai yr ARGLWYDD arno ef: a hwy a roddasant iddo bob un ddarn o arian, a phob un dlws o aur.
12
Felly yr ARGLWYDD a fendithiodd ddiwedd Job yn fwy na'i ddechreuad: canys yr oedd ganddo bedair mil ar ddeg o ddefaid, a chwe mil o gamelod, a mil o gyplau ychen, a mil o asynnod.
13
Ac yr oedd iddo saith o feibion, a thair o ferched.
14
Ac efe a alwodd enw y gyntaf, Jemima; ac enw yr ail Ceseia; ac enw y drydedd, Ceren‐happuc.
15
Ac ni cheid gwragedd mor lân â merched Job yn yr holl wlad honno: a'u tad a roddes iddynt hwy etifeddiaeth ymhlith eu brodyr.
16
A Job a fu fyw wedi hyn gant a deugain o flynyddoedd; ac a welodd o'i feibion, a meibion ei feibion, bedair cenhedlaeth.
17
Felly Job a fu farw yn hen, ac yn llawn o ddyddiau.
← Chapter 41
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
Recommended Reading
Commentary
Job Commentaries
→
Devotional
Job Devotional Guide
→
Get This Bible
Welsh (Beibl William Morgan - Argraffiad ) Study Bible
→