bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Job 13
Job 13
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 14 →
1
Wele, fy llygad a welodd hyn oll; fy nghlust a'i clywodd ac a'i deallodd.
2
Mi a wn yn gystal â chwithau: nid ydwyf waeth na chwithau.
3
Yn wir myfi a lefaraf wrth yr Hollalluog, ac yr ydwyf yn chwenychu ymresymu â DUW.
4
Ond rhai yn asio celwydd ydych chwi: meddygon diddim ydych chwi oll.
5
O gan dewi na thawech! a hynny a fyddai i chwi yn ddoethineb.
6
Clywch, atolwg, fy rheswm, a gwrandewch ar ddadl fy ngwefusau.
7
A ddywedwch chwi anwiredd dros DDUW? ac a ddywedwch chwi dwyll er ei fwyn ef?
8
A dderbyniwch chwi ei wyneb ef? a ymrysonwch chwi dros DDUW?
9
Ai da fydd hyn pan chwilio efe chwi? a dwyllwch chwi ef fel twyllo dyn?
10
Gan geryddu efe a'ch cerydda chwi, os derbyniwch wyneb yn ddirgel.
11
Oni ddychryna ei ardderchowgrwydd ef chwi? ac oni syrth ei arswyd ef arnoch?
12
Cyffelyb i ludw ydyw eich coffadwriaeth chwi; a'ch cyrff i gyrff o glai.
13
Tewch, gadewch lonydd, fel y llefarwyf finnau; a deued arnaf yr hyn a ddelo.
14
Paham y cymeraf fy nghnawd â'm dannedd? ac y gosodaf fy einioes yn fy llaw?
15
Pe lladdai efe fi, eto mi a obeithiaf ynddo ef: er hynny fy ffyrdd a ddiffynnaf ger ei fron ef.
16
Hefyd efe fydd iachawdwriaeth i mi: canys ni ddaw rhagrithiwr yn ei ŵydd ef.
17
Gan wrando gwrandewch fy ymadrodd, ac a fynegwyf, â'ch clustiau.
18
Wele yn awr, trefnais fy achos; gwn y'm cyfiawnheir.
19
Pwy ydyw yr hwn a ymddadlau â mi? canys yn awr os tawaf, mi a drengaf.
20
Ond dau beth na wna i mi: yna nid ymguddiaf rhagot.
21
Pellha dy law oddi arnaf: ac na ddychryned dy ddychryn fi.
22
Yna galw, a myfi a atebaf: neu myfi a lefaraf, ac ateb di fi.
23
Pa faint o gamweddau ac o bechodau sydd ynof? pâr i mi wybod fy nghamwedd a'm pechod.
24
Paham y cuddi dy wyneb, ac y cymeri fi yn elyn i ti?
25
A ddrylli di ddeilen ysgydwedig? a ymlidi di soflyn sych?
26
Canys yr wyt ti yn ysgrifennu pethau chwerwon yn fy erbyn; ac yn gwneuthur i mi feddiannu camweddau fy ieuenctid.
27
Ac yr ydwyt ti yn gosod fy nhraed mewn cyffion, ac yn gwylied ar fy holl lwybrau; ac yn nodi gwadnau fy nhraed.
28
Ac efe, megis pydrni, a heneiddia, fel dilledyn yr hwn a ysa gwyfyn.
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 14 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
Recommended Reading
Commentary
Job Commentaries
→
Devotional
Job Devotional Guide
→
Get This Bible
Welsh (Beibl William Morgan - Argraffiad ) Study Bible
→