bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Job 10
Job 10
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 11 →
1
Y mae fy enaid yn blino ar fy einioes: arnaf fy hun y gadawaf fy nghwyn; ac yn chwerwder fy enaid y llefaraf.
2
Dywedaf wrth DDUW, Na farn fi yn euog; gwna i mi wybod paham yr ymrysoni â mi.
3
Ai da i ti orthrymu, fel y diystyrit waith dy ddwylo, ac y llewyrchit gyngor yr annuwiol?
4
Ai llygaid o gnawd sydd i ti? ai fel y gwêl dyn y gweli di?
5
A ydyw dy ddyddiau di fel dyddiau dyn? a ydyw dy flynyddoedd di fel dyddiau gŵr,
6
Pan geisi fy anwiredd, a phan ymofynni am fy mhechod?
7
Ti a wyddost nad ydwyf annuwiol; ac nid oes a waredo o'th law di.
8
Dy ddwylo di a'm gweithiasant, ac a'm cydluniasant o amgylch; eto fy nifetha yr wyt.
9
Cofia, atolwg, mai fel clai y gwnaethost fi; ac a ddygi di fi i'r pridd drachefn?
10
Oni thywelltaist fi fel llaeth; ac oni cheulaist fi fel caws?
11
Ti a'm gwisgaist i â chroen, ac â chnawd; ti a'm diffynnaist i ag esgyrn ac â giau.
12
Bywyd a thrugaredd a ddarperaist i mi, a'th ymgeledd a gadwodd fy ysbryd.
13
A'r pethau hyn a guddiaist ti yn dy galon: gwn fod hyn gyda thi.
14
Os pechaf, ti a'm gwyli, ac ni'm glanhei oddi wrth fy anwiredd.
15
Os ydwyf annuwiol, gwae fi; ac os cyfiawn ydwyf, er hynny ni chodaf fy mhen: yr ydwyf yn llawn o warthrudd, am hynny gwêl fy nghystudd;
16
Canys cynyddu y mae: fy hela yr ydwyt fel llew creulon: er hynny drachefn ti a wnei yn rhyfedd â mi.
17
Yr wyt ti yn adnewyddu dy dystion i'm herbyn, ac yn amlhau dy ddigofaint wrthyf; cyfnewidiau a rhyfel sydd i'm herbyn.
18
Paham gan hynny y dygaist fi allan o'r groth? O na buaswn farw, ac na'm gwelsai llygad!
19
Mi a fuaswn megis pe na buaswn, a myfi a ddygasid o'r bru i'r bedd.
20
Onid ychydig yw fy nyddiau? paid gan hynny, gad im lonydd, fel yr ymgysurwyf ychydig;
21
Cyn myned ohonof lle ni ddychwelwyf, i dir tywyllwch a chysgod angau;
22
Tir tywyllwch fel y fagddu, a chysgod angau, a heb drefn; lle y mae y goleuni fel y tywyllwch.
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 11 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
Recommended Reading
Commentary
Job Commentaries
→
Devotional
Job Devotional Guide
→
Get This Bible
Welsh (Beibl William Morgan - Argraffiad ) Study Bible
→