bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Job 30
Job 30
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 29
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 31 →
1
Ond yn awr y rhai sydd ieuangach na mi sydd yn fy ngwatwar, y rhai y diystyraswn eu tadau i'w gosod gyda chŵn fy nefaid.
2
I ba beth y gwasanaethai cryfdwr eu dwylo hwynt i mi? darfuasai am henaint ynddynt hwy.
3
Gan angen a newyn, unig oeddynt: yn ffoi i'r anialwch gynt, yn ddiffaith ac yn wyllt:
4
Y rhai a dorrent yr hocys mewn brysglwyni, a gwraidd meryw yn fwyd iddynt.
5
Hwy a yrrid ymaith o fysg dynion, (gwaeddent ar eu hôl hwy, fel ar ôl lleidr;)
6
I drigo mewn holltau afonydd, mewn tyllau y ddaear, ac yn y creigiau.
7
Hwy a ruent ymhlith perthi: hwy a ymgasglent dan ddanadl.
8
Meibion yr ynfyd, a meibion rhai anenwog oeddynt: gwaelach na'r ddaear oeddynt.
9
Ac yn awr eu cân hwy ydwyf fi, a myfi sydd yn destun iddynt.
10
Y maent yn fy ffieiddio, yn cilio ymhell oddi wrthyf: ac nid arbedant boeri yn fy wyneb.
11
Oblegid iddo ddatod fy rhaff, a'm cystuddio; hwythau a ollyngasant y ffrwyn yn fy ngolwg i.
12
Y rhai ieuainc sydd yn codi ar fy llaw ddeau; y maent yn gwthio fy nhraed, ac yn sarnu i'm herbyn ffyrdd eu dinistr.
13
Anrheithiant fy llwybr, ychwanegant fy nhrueni, heb fod help iddynt.
14
Y maent hwy yn dyfod arnaf megis dwfr trwy adwy lydan: y maent yn ymdreiglo arnaf wrth yr anrhaith.
15
Dychryniadau a drowyd arnaf: fel gwynt yr erlidiant fy enaid: a'm hiachawdwriaeth a â heibio fel cwmwl.
16
Am hynny yr ymdywallt fy enaid yn awr arnaf; dyddiau cystudd a ymaflasant ynof.
17
Y nos y tyllir fy esgyrn o'm mewn: a'm gïau nid ydynt yn gorffwys.
18
Trwy fawr nerth fy nghlefyd, fy ngwisg a newidiodd: efe a'm hamgylcha fel coler fy mhais.
19
Efe a'm taflodd yn y clai; ac euthum yn gyffelyb i lwch a lludw.
20
Yr ydwyf yn llefain arnat ti, ac nid ydwyt yn gwrando: yr ydwyf yn sefyll, ac nid ystyri wrthyf.
21
Yr wyt yn troi yn greulon yn fy erbyn; yr wyt yn fy ngwrthwynebu â nerth dy law.
22
Yr wyt yn fy nyrchafu i'r gwynt; yr ydwyt yn gwneuthur i mi farchogaeth arno, ac yr ydwyt yn toddi fy sylwedd.
23
Canys myfi a wn y dygi di fi i farwolaeth; ac i'r tŷ rhagderfynedig i bob dyn byw.
24
Diau nad estyn ef law i'r bedd, er bod gwaedd ganddynt yn ei ddinistr ef.
25
Oni wylais i dros yr hwn oedd galed ei fyd? oni ofidiodd fy enaid dros yr anghenog?
26
Pan edrychais am ddaioni, drygfyd a ddaeth: pan ddisgwyliais am oleuni, tywyllwch a ddaeth.
27
Fy ymysgaroedd a ferwasant, ac ni orffwysasant: dyddiau cystudd a'm rhagflaenasant.
28
Cerddais yn alarus heb yr haul: codais, a gwaeddais yn y gynulleidfa.
29
Yr ydwyf yn frawd i'r dreigiau, ac yn gyfaill i gywion yr estrys.
30
Fy nghroen a dduodd amdanaf, a'm hesgyrn a losgasant gan wres.
31
Aeth fy nhelyn hefyd yn alar, a'm horgan fel llais rhai yn wylo.
← Chapter 29
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 31 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42