bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Job 9
Job 9
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 10 →
1
Yna Job a atebodd ac a ddywedodd,
2
Yn wir mi a wn mai felly y mae: canys pa fodd y cyfiawnheir dyn gyda DUW?
3
Os myn efe ymryson ag ef, ni all ateb iddo am un peth o fil.
4
Y mae efe yn ddoeth o galon, ac yn alluog o nerth: pwy a ymgaledodd yn ei erbyn ef, ac a lwyddodd?
5
Yr hwn sydd yn symud mynyddoedd, ac heb wybod iddynt: yr hwn sydd yn eu dymchwelyd hwynt yn ei ddigofaint.
6
Yr hwn sydd yn cynhyrfu y ddaear allan o'i lle, fel y cryno ei cholofnau hi.
7
Yr hwn a ddywed wrth yr haul, ac ni chyfyd: ac a selia ar y sêr.
8
Yr hwn yn unig sydd yn taenu y nefoedd, ac yn sathru ar donnau y môr.
9
Yr hwn sydd yn gwneuthur Arcturus, Orion, a Phleiades, ac ystafelloedd y deau.
10
Yr hwn sydd yn gwneuthur pethau mawrion anchwiliadwy, a rhyfeddodau aneirif.
11
Wele, efe a â heibio i mi, ac nis gwelaf ef; ac efe a â rhagddo, ac ni chanfyddaf ef.
12
Wele, efe a ysglyfaetha, pwy a'i lluddia? pwy a ddywed wrtho, Pa beth yr wyt yn ei wneuthur?
13
Oni thry DUW ei ddicllonedd ymaith, dano ef y cryma cynorthwywyr balchder.
14
Pa faint llai yr atebaf iddo ef, ac y gallaf ddewis fy ngeiriau i ymresymu ag ef?
15
I'r hwn, pe bawn gyfiawn, nid atebwn, eithr ymbiliwn â'm barnwr.
16
Pe galwaswn, a phed atebasai efe i mi, ni chredwn y gwrandawai efe fy lleferydd.
17
Canys efe a'm dryllia â chorwynt, ac a amlha fy archollion yn ddiachos.
18
Ni ddioddef efe i mi gymryd fy anadl: ond efe a'm lleinw â chwerwder.
19
Os soniaf am gadernid, wele ef yn gadarn: ac os am farn, pwy a ddadlau drosof fi?
20
Os myfi a ymgyfiawnhaf, fy ngenau a'm barn yn euog: os perffaith y dywedaf fy mod, efe a'm barn yn gildyn.
21
Pe byddwn berffaith, eto nid adwaenwn fy enaid; ffiaidd fyddai gennyf fy einioes.
22
Dyma un peth, am hynny mi a'i dywedais: y mae efe yn difetha y perffaith a'r annuwiol.
23
Os lladd y ffrewyll yn ddisymwth, efe a chwardd am ben profedigaeth y diniwed.
24
Y ddaear a roddwyd yn llaw yr annuwiol: efe a fwrw hug dros wynebau ei barnwyr hi: onid e, pa le y mae, a phwy yw efe?
25
A'm dyddiau i sydd gynt na rhedegwr: ffoant ymaith heb weled daioni.
26
Aethant heibio megis llongau buain; megis yr eheda eryr at ymborth.
27
Os dywedaf, Gollyngaf fy nghwyn dros gof; mi a adawaf fy nhrymder, ac a ymgysuraf:
28
Yr wyf yn ofni fy holl ddoluriau: gwn na'm berni yn wirion.
29
Os euog fyddaf, paham yr ymflinaf yn ofer?
30
Os ymolchaf mewn dwfr eira, ac os glanhaf fy nwylo yn lân;
31
Eto ti a'm trochi yn y pwll; a'm dillad a'm ffieiddiant.
32
Canys nid gŵr fel myfi yw efe, fel yr atebwn iddo, ac y delem ynghyd i farn.
33
Nid oes rhyngom ni ddyddiwr a all osod ei law arnom ein dau.
34
Tynned ymaith ei wialen oddi arnaf; ac na ddychryned ei ofn ef fyfi:
35
Yna y dywedwn, ac nid ofnwn ef: ond nid felly y mae gyda myfi.
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 10 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42