bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Job 31
Job 31
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 30
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 32 →
1
Myfi a wneuthum amod â'm llygaid; paham gan hynny y meddyliwn am forwyn?
2
Canys pa ran sydd oddi wrth DDUW oddi uchod? a pha etifeddiaeth sydd oddi wrth yr Hollalluog o'r uchelder?
3
Onid oes dinistr i'r anwir? a dialedd dieithr i'r rhai sydd yn gwneuthur anwiredd?
4
Onid ydyw efe yn gweled fy ffyrdd i? ac yn cyfrif fy holl gamre?
5
Os rhodiais mewn oferedd, ac os prysurodd fy nhroed i dwyllo;
6
Pwysed fi mewn cloriannau cyfiawn, a mynned DUW wybod fy mherffeithrwydd.
7
Os gwyrodd fy ngherddediad allan o'r ffordd; a myned o'm calon ar ôl fy llygaid; neu lynu dim aflan wrth fy nwylo:
8
Yna heuwyf fi, a bwytaed arall; ie, dadwreiddier fy hiliogaeth i.
9
Os twylled fy nghalon gan wraig, ac os cynllwynais wrth ddrws fy nghymydog;
10
Maled fy ngwraig innau i ŵr arall; ac ymgrymed eraill arni hi.
11
Canys ysgelerder ydyw hyn, ac anwiredd ydyw i'w gosbi gan farnwyr.
12
Canys tân ydyw a ysa oni anrheithio, ac efe a ddadwreiddia fy holl ffrwyth.
13
Os diystyrais achos fy ngwas a'm gwasanaethferch, pan ymrysonent â mi;
14
Pa beth gan hynny a wnaf pan godo DUW? a phan ymwelo efe, pa beth a atebaf iddo?
15
Onid yr hwn a'm gwnaeth i yn y groth, a'i gwnaeth yntau? ac onid yr un a'n lluniodd yn y bru?
16
Os ateliais ddim o ddeisyfiad y tlawd, ac os gwneuthum i lygaid y weddw ddiffygio;
17
Ac os bwyteais fy mwyd yn unig, ac oni fwytaodd yr amddifad ohono;
18
(Canys efe a gynyddodd gyda mi, fel gyda thad, o'm hieuenctid; ac o groth fy mam mi a'i tywysais hi;)
19
Os gwelais neb yn marw o eisiau dillad, a'r anghenog heb wisg:
20
Os ei lwynau ef ni'm bendithiasant, ac oni chynhesodd efe gan gnu fy nefaid i;
21
Os codais fy llaw yn erbyn yr amddifad, pan welwn fy nghymorth yn y porth:
22
Syrthied fy mraich oddi wrth fy ysgwydd, a thorrer fy mraich oddi wrth y cymal.
23
Canys ofn dinistr DUW oedd arnaf; a chan ei uchelder ef ni allwn oddef.
24
Os gosodais fy ngobaith mewn aur; ac os dywedais wrth aur coeth, Fy ymddiried wyt;
25
Os llawenychais am fod fy nghyfoeth yn fawr, ac oblegid i'm llaw gael llawer;
26
Os edrychais ar yr haul pan dywynnai, a'r lleuad yn cerdded yn ddisglair;
27
Ac os hudwyd fy nghalon yn guddiedig, ac os fy ngenau a gusanodd fy llaw:
28
Hyn hefyd fuasai anwiredd i'w gosbi gan y barnwyr: canys gwadaswn DDUW uchod.
29
Os llawenychais i am drychineb yr hwn a'm casâi, ac os ymgodais pan ddigwyddodd drwg iddo:
30
(Ac ni ddioddefais i daflod fy ngenau bechu; gan ofyn ei einioes ef trwy felltithio.)
31
Oni ddywedodd dynion fy mhabell, O na chaem o'i gnawd ef! ni ddigonir ni.
32
Ni letyodd dieithrddyn yn yr heol: agorais fy nrysau i'r fforddolion.
33
Os cuddiais fy nghamweddau fel Adda; gan guddio fy anwiredd yn fy mynwes;
34
A ofnais i dyrfa luosog, neu a'm dychrynai dirmyg teulu; fel y tawn, heb fyned allan o'm drws?
35
O am un a'm gwrandawai! wele, fy nymuniad yw, i'r Hollalluog fy ateb i, ac ysgrifennu o'm gwrthwynebwr lyfr.
36
Diau y dygwn ef ar fy ysgwydd; a rhwymwn ef yn lle coron i mi.
37
Mynegwn iddo rifedi fy nghamre; fel tywysog y nesawn ato.
38
Os ydyw fy nhir i yn llefain yn fy erbyn, ac os ydyw ei gwysau ef yn cyd-wylo;
39
Os bwyteais i ei gnwd ef heb arian, ac os cystuddiais enaid ei berchenogion ef:
40
Tyfed ysgall yn lle gwenith, a bulwg yn lle haidd. Diweddwyd geiriau Job.
← Chapter 30
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 32 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
Recommended Reading
Commentary
Job Commentaries
→
Devotional
Job Devotional Guide
→
Get This Bible
Welsh (Beibl William Morgan - Argraffiad ) Study Bible
→