bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Job 20
Job 20
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 21 →
1
Yna Soffar y Naamathiad a atebodd ac a ddywedodd,
2
Am hynny y mae fy meddyliau yn peri i mi ateb: ac am hyn y mae brys arnaf.
3
Yr ydwyf yn clywed cerydd gwaradwyddus i mi; ac y mae ysbryd fy neall yn peri i mi ateb.
4
Oni wyddost ti hyn erioed, er pan osodwyd dyn ar y ddaear,
5
Mai byr yw gorfoledd yr annuwiolion, a llawenydd y rhagrithwyr dros funud awr?
6
Pe dyrchafai ei odidowgrwydd ef i'r nefoedd, a chyrhaeddyd o'i ben ef hyd y cymylau;
7
Efe a gollir yn dragywydd fel ei dom: y rhai a'i gwelsant a ddywedant, Pa le y mae efe?
8
Efe a eheda ymaith megis breuddwyd, ac ni cheir ef: ac efe a ymlidir fel gweledigaeth nos.
9
Y llygad a'i gwelodd, ni wêl ef mwy: a'i le ni chenfydd mwy ohono.
10
Ei feibion a gais fodloni'r tlodion: a'i ddwylo a roddant adref eu golud hwynt.
11
Ei esgyrn sydd yn llawn o bechod ei ieuenctid, yr hwn a orwedd gydag ef yn y pridd.
12
Er bod drygioni yn felys yn ei enau ef; er iddo ei gau dan ei dafod;
13
Er iddo ei arbed, ac heb ei ado; eithr ei atal o fewn taflod ei enau:
14
Ei fwyd a dry yn ei ymysgaroedd: bustl asbiaid ydyw o'i fewn ef.
15
Efe a lyncodd gyfoeth, ac efe a'i chwyda: DUW a'i tyn allan o'i fol ef.
16
Efe a sugn wenwyn asbiaid: tafod gwiber a'i lladd ef.
17
Ni chaiff weled afonydd, ffrydiau, ac aberoedd o fêl ac ymenyn.
18
Y mae efe yn rhoddi adref yr hyn a lafuriodd amdano, ac nis llwnc: yn ôl ei olud y rhydd adref, ac heb gael llawenydd ohono.
19
Am iddo ddryllio, a gado'r tlodion; ysglyfaethu tŷ nid adeiladodd;
20
Diau na chaiff lonydd yn ei fol, na weddill o'r hyn a ddymunodd.
21
Ni bydd gweddill o'i fwyd ef; am hynny ni ddisgwyl neb am ei dda ef.
22
Pan gyflawner ei ddigonoldeb, cyfyng fydd arno; llaw pob dyn blin a ddaw arno.
23
Pan fyddo efe ar fedr llenwi ei fol, DUW a ddenfyn arno angerdd ei ddigofaint; ac a'i glawia hi arno ef ymysg ei fwyd.
24
Efe a ffy oddi wrth arfau haearn; a'r bwa dur a'i trywana ef.
25
Efe a dynnir, ac a ddaw allan o'r corff, a gloywlafn a ddaw allan o'i fustl ef; dychryn fydd arno.
26
Pob tywyllwch a fydd cuddiedig yn ei ddirgeloedd ef: tân heb ei chwythu a'i hysa ef: yr hyn a adawer yn ei luestai ef, a ddrygir.
27
Y nefoedd a ddatguddiant ei anwiredd ef, a'r ddaear a gyfyd yn ei erbyn ef.
28
Cynnydd ei dŷ ef a gilia: ei dda a lifa ymaith yn nydd ei ddigofaint ef.
29
Dyma ran dyn annuwiol gan DDUW; a'r etifeddiaeth a osodwyd iddo gan DDUW.
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 21 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
Recommended Reading
Commentary
Job Commentaries
→
Devotional
Job Devotional Guide
→
Get This Bible
Welsh (Beibl William Morgan - Argraffiad ) Study Bible
→