bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Job 5
Job 5
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 6 →
1
Galw yn awr, od oes neb a etyb i ti, ac at bwy o'r saint y troi di?
2
Canys dicllondeb a ladd yr ynfyd, a chenfigen a ladd yr annoeth.
3
Mi a welais yr ynfyd yn gwreiddio: ac a felltithiais ei drigfa ef yn ddisymwth.
4
Ei feibion ef a bellheir oddi wrth iachawdwriaeth: dryllir hwynt hefyd yn y porth, ac nid oes gwaredydd.
5
Yr hwn y bwyty y newynog ei gynhaeaf, wedi iddo ei gymryd o blith drain, a'r sychedig a lwnc eu cyfoeth.
6
Er na ddaw cystudd allan o'r pridd, ac na flagura gofid allan o'r ddaear:
7
Ond dyn a aned i flinder, fel yr eheda gwreichionen i fyny.
8
Eto myfi a ymgynghorwn â DUW: ac ar DDUW y rhoddwn fy achos:
9
Yr hwn sydd yn gwneuthur pethau mawrion ac anchwiliadwy; rhyfeddol heb rifedi:
10
Yr hwn sydd yn rhoddi glaw ar wyneb y ddaear; ac yn danfon dyfroedd ar wyneb y meysydd:
11
Gan osod rhai isel mewn uchelder; fel y dyrchefir y galarus i iachawdwriaeth.
12
Efe sydd yn diddymu amcanion y cyfrwys, fel na allo eu dwylo ddwyn dim i ben.
13
Efe sydd yn dal y doethion yn eu cyfrwystra: a chyngor y cyndyn a ddiddymir.
14
Lliw dydd y cyfarfyddant â thywyllwch, a hwy a balfalant hanner dydd megis lliw nos.
15
Yr hwn hefyd a achub y tlawd rhag y cleddyf, rhag eu safn hwy, a rhag llaw y cadarn.
16
Felly y mae gobaith i'r tlawd, ac anwiredd yn cau ei safn.
17
Wele, gwyn ei fyd y dyn a geryddo DUW; am hynny na ddiystyra gerydd yr Hollalluog.
18
Canys efe a glwyfa, ac a rwym: efe a archolla, a'i ddwylo ef a iachânt.
19
Mewn chwech o gyfyngderau efe 'th wared di; ie, mewn saith ni chyffwrdd drwg â thi.
20
Mewn newyn efe a'th wared rhag marwolaeth: ac mewn rhyfel rhag nerth y cleddyf.
21
Rhag ffrewyll tafod y'th guddir; ac nid ofni rhag dinistr pan ddelo.
22
Mewn dinistr a newyn y chwerddi; ac nid ofni rhag bwystfilod y ddaear.
23
Canys â cherrig y maes y byddi mewn cynghrair; a bwystfil y maes hefyd fydd heddychol â thi.
24
A thi a gei wybod y bydd heddwch yn dy luest: a thi a ymweli â'th drigfa, ac ni phechi.
25
A chei wybod hefyd mai lluosog fydd dy had, a'th hiliogaeth megis gwellt y ddaear.
26
Ti a ddeui mewn henaint i'r bedd, tel y cyfyd ysgafn o ŷd yn ei amser.
27
Wele hyn, ni a'i chwiliasom, felly y mae: gwrando hynny, a gwybydd er dy fwyn dy hun.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42