bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Job 19
Job 19
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 20 →
1
A Job a atebodd ac a ddywedodd,
2
Pa hyd y cystuddiwch fy enaid? ac y'm drylliwch â geiriau?
3
Dengwaith bellach y'm gwaradwyddasoch; ac nid cywilydd gennych ymgaledu i'm herbyn.
4
Hefyd pe byddai wir wneuthur ohonof fi yn amryfus; gyda mi y trig fy amryfusedd.
5
Yn wir os ymfawrygwch yn fy erbyn, a dadlau fy ngwaradwydd i'm herbyn:
6
Gwybyddwch yn awr mai DUW a'm dymchwelodd i, ac a'm hamgylchodd â'i rwyd.
7
Wele, llefaf rhag trawster, ond ni'm hatebir: gwaeddaf, ond nid oes farn.
8
Efe a gaeodd fy ffordd, fel nad elwyf drosodd: y mae efe yn gosod tywyllwch ar fy llwybrau.
9
Efe a ddiosgodd fy ngogoniant oddi amdanaf; ac a ddygodd ymaith goron fy mhen.
10
Y mae efe yn fy nistrywio oddi amgylch, ac yr ydwyf yn myned ymaith: ac efe a symudodd fy ngobaith fel pren.
11
Gwnaeth hefyd i'w ddigofaint gynnau yn fy erbyn; ac a'm cyfrifodd iddo fel un o'i elynion.
12
Ei dorfoedd sydd yn dyfod ynghyd, ac yn palmantu eu ffyrdd yn fy erbyn, ac yn gwersyllu o amgylch fy mhabell.
13
Efe a bellhaodd fy mrodyr oddi wrthyf, a'r rhai oedd yn fy adnabod hefyd a ymddieithrasant oddi wrthyf.
14
Fy nghyfnesaf a ballasant, a'r rhai oedd o'm cydnabod a'm hanghofiasant.
15
Y rhai oedd yn trigo yn fy nhŷ, a'm morynion, sydd yn fy nghyfrif yn ddieithr: alltud ydwyf yn eu golwg.
16
Gelwais ar fy ngwasanaethwr, ac nid atebodd; ymbiliais ag ef â'm genau.
17
Dieithr oedd fy anadl i'm gwraig, er ymbil ohonof â hi er mwyn fy mhlant o'm corff.
18
Plant hefyd a'm diystyrent: cyfodais, a dywedasant i'm herbyn.
19
Fy holl gyfrinachwyr sydd yn fy ffieiddio: a'r rhai a gerais a droesant yn fy erbyn.
20
Fy esgyrn a lynodd wrth fy nghroen, ac wrth fy nghnawd; ac â chroen fy nannedd y dihengais.
21
Trugarhewch wrthyf, trugarhewch wrthyf, fy nghyfeillion; canys llaw DUW a gyffyrddodd â mi.
22
Paham yr ydych chwi yn fy erlid i fel DUW, heb gael digon ar fy nghnawd?
23
O nad ysgrifennid fy ngeiriau yn awr! O nad argreffid hwynt mewn llyfr!
24
O nad ysgrifennid hwynt yn y graig dros byth â phin o haearn ac â phlwm!
25
Canys myfi a wn fod fy Mhrynwr yn fyw, ac y saif yn y diwedd ar y ddaear.
26
Ac er ar ôl fy nghroen i bryfed ddifetha'r corff hwn, eto caf weled DUW yn fy nghnawd:
27
Yr hwn a gaf fi i mi fy hun ei weled, a'm llygaid a'i gwelant, ac nid arall; er i'm harennau ddarfod ynof.
28
Eithr chwi a ddylech ddywedyd, Paham yr erlidiwn ef? canys gwreiddyn y mater a gaed ynof.
29
Ofnwch amdanoch rhag y cleddyf: canys y mae digofaint yn dwyn cosbedigaethau y cleddyf, fel y gwybyddoch fod barn.
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 20 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
Recommended Reading
Commentary
Job Commentaries
→
Devotional
Job Devotional Guide
→
Get This Bible
Welsh (Beibl William Morgan - Argraffiad ) Study Bible
→