bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Job 7
Job 7
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 8 →
1
Onid oes amser terfynedig i ddyn ar y ddaear? onid yw ei ddyddiau ef megis dyddiau gwas cyflog?
2
Megis y dyhea gwas am gysgod, ac y disgwyl cyflogddyn wobr ei waith:
3
Felly y gwnaethpwyd i mi feddiannu misoedd o oferedd, a nosweithiau blinion a osodwyd i mi.
4
Pan orweddwyf, y dywedaf, Pa bryd y codaf, ac yr ymedy y nos? canys caf ddigon o ymdroi hyd y cyfddydd.
5
Fy nghnawd a wisgodd bryfed a thom priddlyd: fy nghroen a agennodd, ac a aeth yn ffiaidd.
6
Fy nyddiau sydd gynt na gwennol gwehydd, ac a ddarfuant heb obaith.
7
Cofia mai gwynt yw fy hoedl: ni wêl fy llygad ddaioni mwyach.
8
Y llygad a'm gwelodd, ni'm gwêl mwyach: dy lygaid sydd arnaf, ac nid ydwyf.
9
Fel y derfydd y cwmwl, ac yr â ymaith: felly yr hwn sydd yn disgyn i'r bedd, ni ddaw i fyny mwyach.
10
Ni ddychwel mwy i'w dŷ: a'i le nid edwyn ef mwy.
11
Gan hynny ni warafunaf i'm genau; mi a lefaraf yng nghyfyngdra fy ysbryd; myfi a gwynaf yn chwerwder fy enaid.
12
Ai môr ydwyf, neu forfil, gan dy fod yn gosod cadwraeth arnaf?
13
Pan ddywedwyf, Fy ngwely a'm cysura, fy ngorweddfa a esmwythâ fy nghwynfan;
14
Yna y'm brawychi â breuddwydion, ac y'm dychryni â gweledigaethau:
15
Am hynny y dewisai fy enaid ymdagu, a marwolaeth yn fwy na'm hoedl.
16
Ffieiddiais einioes, ni fynnwn fyw byth: paid â mi, canys oferedd ydyw fy nyddiau.
17
Pa beth ydyw dyn, pan fawrheit ef? a phan osodit dy feddwl arno?
18
Ac ymweled ag ef bob bore, a'i brofi ar bob moment?
19
Pa hyd y byddi heb gilio oddi wrthyf, ac na adewi fi yn llonydd tra llyncwyf fy mhoeryn?
20
Myfi a bechais; beth a wnaf i ti, O geidwad dyn? paham y gosodaist fi yn nod i ti, fel yr ydwyf yn faich i mi fy hun?
21
A phaham na faddeui fy nghamwedd, ac na fwri heibio fy anwiredd? canys yn awr yn y llwch y gorweddaf, a thi a'm ceisi yn fore, ond ni byddaf.
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 8 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42