bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Job 28
Job 28
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 27
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 29 →
1
Diau fod gwythen i'r arian; a lle i'r aur, lle y coethant ef.
2
Haearn a dynnir allan o'r pridd; ac o'r garreg y toddir pres.
3
Efe sydd yn gosod terfyn ar dywyllwch, ac yn chwilio allan bob perffeithrwydd; hyd yn oed meini tywyllwch a chysgod angau.
4
Y mae yr afon yn torri allan oddi wrth y trigolion, y dyfroedd a anghofiwyd gan y troed: hwy a sychasant ac a aethant ymaith oddi wrth ddynion.
5
Y ddaearen, ohoni y daw bara: trowyd megis tân oddi tani.
6
Ei cherrig hi a fyddant le i saffir; a phriddellau aur sydd iddi.
7
Y mae llwybr nid adnabu aderyn, ac ni chanfu llygad barcud:
8
Yr hwn ni sathrodd cenawon llew; nid aeth hen lew trwyddo.
9
Y mae efe yn estyn ei law at y gallestr: y mae efe yn dymchwelyd mynyddoedd o'r gwraidd.
10
Y mae efe yn peri i afonydd dorri trwy y creigiau; ac y mae ei lygad ef yn gweled pob peth gwerthfawr.
11
Y mae efe yn rhwymo yr afonydd rhag llifo, ac yn dwyn peth dirgel allan i oleuni.
12
Ond pa le y ceir doethineb? a pha le y mae trigle deall?
13
Ni ŵyr dyn beth a dâl hi; ac ni cheir hi yn nhir y rhai byw.
14
Y mae y dyfnder yn dywedyd, Nid ydyw hi ynof fi: ac y mae y môr yn dywedyd, Nid ydyw hi gyda myfi.
15
Ni cheir hi er aur pur; ac ni ellir pwyso ei gwerth hi o arian.
16
Ni chyffelybir hi i'r aur o Offir; nac i'r onics gwerthfawr, nac i'r saffir.
17
Nid aur a grisial a'i cystadla hi: na llestr o aur dilin fydd gydwerth iddi.
18
Ni chofir y cwrel, na'r gabis: canys gwell yw caffaeliad doethineb na gemau.
19
Ni ellir cyffelybu y topas o Ethiopia iddi hi: ni chydbrisir hi ag aur pur.
20
Gan hynny o ba le y daw doethineb? a pha le y mae mangre deall?
21
Canys hi a guddied oddi wrth lygaid pob dyn byw; a hi a guddiwyd oddi wrth ehediaid y nefoedd.
22
Colledigaeth a marwolaeth sydd yn dywedyd, Ni a glywsom â'n clustiau sôn amdani hi.
23
DUW sydd yn deall ei ffordd hi; ac efe a edwyn ei lle hi.
24
Canys y mae efe yn edrych ar eithafoedd y ddaear, ac yn gweled dan yr holl nefoedd;
25
I wneuthur pwys i'r gwynt; ac efe a bwysa'r dyfroedd wrth fesur.
26
Pan wnaeth efe ddeddf i'r glaw, a ffordd i fellt y taranau:
27
Yna efe a'i gwelodd hi, ac a'i mynegodd hi; efe a'i paratôdd hi, a hefyd efe a'i chwiliodd hi allan.
28
Ac wrth ddyn efe a ddywedodd, Wele, ofn yr Arglwydd, hynny ydyw doethineb; a chilio oddi wrth ddrwg, sydd ddeall.
← Chapter 27
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 29 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42