bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Job 36
Job 36
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 35
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 37 →
1
Ac Elihu a aeth rhagddo, ac a ddywedodd,
2
Goddef i mi ychydig, a myfi a fynegaf i ti, fod gennyf ymadroddion eto dros DDUW.
3
O bell y cymeraf fy ngwybodaeth, ac i'm Gwneuthurwr y rhoddaf gyfiawnder.
4
Canys yn wir nid celwydd fydd fy ymadroddion: y perffaith o wybodaeth sydd gyda thi.
5
Wele, cadarn ydyw DUW, ac ni ddiystyra efe neb: cadarn o gadernid a doethineb yw efe.
6
Nid achub efe fywyd yr annuwiol; ond efe a rydd uniondeb i'r trueiniaid.
7
Ni thyn efe ei olwg oddi ar y cyfiawn; eithr y maent gyda brenhinoedd, ar yr orseddfainc; ie, efe a'u sicrha yn dragywydd, a hwy a ddyrchefir.
8
Ac os hwy a rwymir â gefynnau, ac a ddelir â rhaffau gorthrymder;
9
Yna efe a ddengys iddynt hwy eu gwaith, a'u hanwireddau, amlhau ohonynt:
10
Ac a egyr eu clustiau hwy i dderbyn cerydd; ac a ddywed am droi ohonynt oddi wrth anwiredd.
11
Os gwrandawant hwy, a'i wasanaethu ef, hwy a dreuliant eu dyddiau mewn daioni, a'u blynyddoedd mewn hyfrydwch.
12
Ac oni wrandawant, difethir hwy gan y cleddyf; a hwy a drengant heb wybodaeth.
13
Ond y rhai rhagrithiol o galon a chwanegant ddig: ni waeddant pan rwymo efe hwynt.
14
Eu henaid hwythau fydd marw mewn ieuenctid, a'u bywyd gyda'r aflan.
15
Efe a wared y truan yn ei gystudd, ac a egyr eu clustiau hwynt mewn gorthrymder.
16
Felly hefyd efe a'th symudasai di o enau cyfyngdra i ehangder, lle nid oes gwasgfa; a saig dy fwrdd di fuasai yn llawn braster.
17
Ond ti a gyflawnaist farn yr annuwiol: barn a chyfiawnder a ymaflant ynot.
18
Oherwydd bod digofaint, gochel rhag iddo dy gymryd di ymaith â'i ddyrnod: yna ni'th wared iawn mawr.
19
A brisia efe ar dy olud di? na phrisia, ar aur, nac ar holl gadernid nerth.
20
Na chwennych y nos, pan dorrer pobl ymaith yn eu lle.
21
Ymochel, nac edrych ar anwiredd: canys hynny a ddewisaist o flaen cystudd.
22
Wele, DUW trwy ei nerth a ddyrchafa; pwy sydd yn dysgu fel efe?
23
Pwy a orchmynnodd ei ffordd ef iddo? a phwy a ddywed, Gwnaethost anwiredd?
24
Cofia fawrhau ei waith ef, ar yr hwn yr edrych dynion.
25
Pob dyn a'i gwêl; a dyn a'i cenfydd o bell.
26
Wele, mawr yw DUW, ac nid adwaenom ef; ac ni fedrir chwilio allan nifer ei flynyddoedd ef.
27
Canys efe a wna y defnynnau dyfroedd yn fân: hwy a dywalltant law fel y byddo ei darth;
28
Yr hwn a ddifera ac a ddefnynna y cymylau ar ddyn yn helaeth.
29
Hefyd, a ddeall dyn daeniadau y cymylau, a thwrf ei babell ef?
30
Wele, efe a daenodd ei oleuni arno, ac a orchuddiodd waelod y môr.
31
Canys â hwynt y barn efe y bobloedd, ac y rhydd efe fwyd yn helaeth.
32
Efe a guddia y goleuni â chymylau; ac a rydd orchymyn iddo na thywynno trwy y cwmwl sydd rhyngddynt.
33
Ei dwrf a fynega amdano, a'r anifeiliaid am y tarth.
← Chapter 35
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 37 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
Recommended Reading
Commentary
Job Commentaries
→
Devotional
Job Devotional Guide
→
Get This Bible
Welsh (Beibl William Morgan - Argraffiad ) Study Bible
→